Arglwydd, mor benwan y bûm!
Yn pengrasu uwchben geiriau gras,
Yn ceisio credu y gallai gweithredu cariad
A byw hunan-aberthol
Orchfygu casineb a dofi'r bwystfil.
Heddiw, mae hoelion yn dâl am ei haelioni,
A gwawd a gwaed yw gwobr ei gariad.
Penwan, Arglwydd?
A geiriau'i faddeuant yn glanhau
Düwch fy nghalon oer.
Penwan? A llef fuddugoliaethus ei 'Gorffennwyd!'
Yn sialens i fy myw arwynebol.
Penwan? A thynerwch ei ddwylo
'Ar ddeupen garw'r groes'
Yn fy nenu i, – a'r byd yn grwn
I gylch ei gariad di-ollwng.
"............... a thystion ŷm ni
Mai gobaith yr oesau yw Croes Calfari".
Mae hi'n dywyll, Arglwydd!
Fe gafodd Uffern barti-dathlu bnawn Gwener d'wetha'.
Cuddiwyd yr haul mewn cywilydd a daeth y nos.
Boddwyd ein breuddwydion gan ddagrau'n siom.
Ciliodd gobaith-yfory-gwell gan blygu'i ben mewn digalondid.
“Ni a feddyliem mai hwn oedd yr un a waredai …”
Ond fe ddiffoddwyd y golau a'r gobaith
Yn dy groeshoelio di.
Daeth carchar marwolaeth a chlo maen-ar-fedd.
Gwacter ac anobaith a bedd ydy bywyd i ni bellach, Arglwydd.
Ond heddiw gwelwn faen wedi ei dreiglo,
Gwelwn olau mewn ogof,
A chofleidiwn, mewn llawenydd,
egni cariadus
Y Crist Anorchfygol,
Na all marwolaeth ei rwydo
Na bedd ei ddal yn gaeth.
Yr Iesu Byw,
'Pererin yr Oes Dragwyddol',
A fyn dorri trwy bob carchar
RWJ
Atgyfodiad
O fore oer y Groglith
Pan dduodd haul y nen,
Wrth weld Tywysog Bywyd
Yn crogi ar y Pren.
A'r prelad hunangyfiawn
Yn gorfoleddu'n hy
Wrth weld ei gynllwyn anfad
Yn troi y byd yn ddu.
O fore bendigedig
Oedd bore'r Trydydd Dydd.
Y cwmni llwfr ac euog
Ar dân gan hyder ffydd.
Lledaenodd y goleuni
I bedwar ban y byd.
A miloedd yn moliannu
Bendithion angau drud.
O Arglwydd gad i'n dystio
I'r Atgyfodiad nawr,
A dangos yn ein bywyd
Oleuni newydd wawr.
A'r cariad sy'n cymodi
Gelynion o bob oes;
Trwy ras y gwas dioddefus
A gwarth a gwyrth y Groes.
D. R. Thomas, Aberystwyth (o'r Goleuad, 16 Ebrill 1999)
Aeth y disgyblion a gwneud
fel y gorchymynnodd Iesu iddynt;
daethant â'r asen a'r ebol ato,
a rhoesant eu mentyll ar eu cefn,
ac eisteddodd Iesu arnynt.
Taenodd tyrfa fawr iawn eu mentyll ar y ffordd,
ac yr oedd eraill yn torri canghennau o'r coed
ac yn eu taenu ar y ffordd.
Ac yr oedd y tyrfaoedd ar y blaen iddo
a'r rhai o'r tu ôl yn gweiddi:
'Hosanna i Fab Dafydd!
Bendigedig yw'r un sy'n dod
yn enw'r Arglwydd.
Hosanna yn y goruchaf!'
(Mathew 21: 6-9)
Agor y Pyrth
Arglwydd ein Duw, coffawn yn llawen
fynediad dy Fab Iesu Grist i ddinas Jerwsalem:
fel yr agorwyd pyrth y ddinas i'w dderbyn,
agorwn ninnau holl byrth ein bywyd iddo'n awr;
porth ein meddwl i dderbyn ei wirionedd;
porth ein calon i brofi ei gariad;
porth ein henaid i fwynhau ei gwmni.
Gyda'i ddilynwyr ym mhob oes ac ym mhob man,
ymunwn i'w groesawu a'i glodfori
yn Arglwydd y lluoedd
ac yn Frenin y gogoniant.
(Amser i Dduw, gol. Elfed ap Nefydd Roberts)
O Arglwydd y gwanwyn, anadla drwy'r tir
a deffro ein daear o gwsg sydd mor hir,
boed gwres anorchfygol dy gariad dy hun
yn ffrwydro gorfoledd yng nghalon pob un.
Dy nerth ar ein daear, O Arglwydd y wyrth,
ddeisyfwn i dreiglo y meini o'r pyrth,
dy nerth i gyfannu rhwygiadau yr oes,
y nerth a goncwerodd waradwydd y groes.
Llewyrcha, O Arglwydd, oleuni dy ffydd
i symud ffôl rwystrau ein bywyd bob dydd,
i aileni'r cariad a buraist drwy boen
a'i wrid yn disgleirio tangnefedd yr Oen.
O ffynnon dy glwyfau daioni a dardd
mor fywiol ei ffrydiau â'r chwŷs yn yr ardd;
dros grastir ein bywyd, O Arglwydd yr had,
llifeiried dy wanwyn yn ddwyfol fwynhad.
Vernon Jones
Roedd i'r cyfnod yma, sef y deugain niwrnod hynny rhwng Dydd Mercher Lludw a Sul y Pasg,
gynt ystyr ysbrydol,
cyfnod o hunanddisgyblaeth pan eid heb rhai pethau,
er mwyn paratoi ar gyfer dathlu Atgyfodiad Iesu.
Mae'r arfer yn parhau yn ein dyddiau ni, gwneud heb siocledi, creision, cwrw, etc.,
ond, i lawer erbyn hyn, collwyd yr ystyr ysbrydol,
a daeth yn gyfle i golli pwysau yn unig!
Ond oni ddaeth hi'n amser i ni, fel Cristnogion, ailafael yn ei wir ystyr?
Fe gafwyd y term 'Dydd Mercher Lludw' oherwydd fod
Cristnogion yn rhoi lludw ar eu pennau yn arwydd o edifeirwch,
ac roedd gwneud heb rai pethau yn yr wythnosau oedd yn dilyn
yn arwydd o'r un peth.
Roedd yn gyfle iddynt ddal eu hunain yng ngoleuni'r Tragwyddol,
gweld eu hanneilyngdod, ac edifarhau.
Does yr un ohonom heddiw nad yw'n poeni am gyflwr ein cymdeithas.
Ond sut y mae cael y gymdeithas honno yn ôl i'w lle?
Yr adwaith yw pasio mwy a mwy o ddeddfau i geisio rheoli
ein hunanoldeb a'n diffyg hunanddisgyblaeth.
Ond adlewyrchu cyflwr ein calonnau mae ein gweithredoedd.
Dyna sialens siwrne'r Grawys, siwrne sy'n dechrau gyda lludw,
yn mynd ymlaen drwy dywyllwch edifeirwch,
ac sy'n gorffen yng ngoleuni'r Trydydd Dydd
pan ddaw'r Crist byw i'n cyfarfod,
'ac yna bod fy mhobl, a elwir wrth fy enw, yn ymostwng ac yn gweddïo,
yn fy ngheisio ac yn dychwelyd o'u ffyrdd drygionus,
yna fe wrandawaf o'r nef,
a maddau eu pechod ac adfer eu gwlad'.
RWJ
©Hawlfraint Ymddiriedolwyr Capel y Garn yw cynnwys gwreiddiol y safle. All original material on the site is copyright by the Trustees of Capel y Garn.
Crewyd y wefan/Website created by
Technoleg Taliesin Cyf. -
Admin/Gweinyddu