Yn ystod yr wythnos 14-20 o Fai 2006, bu dros 10,000 o wirfoddolwyr yn mynd o gwmpas y tai ar draws Cymru, yn dosbarthu amlenni coch.

Bu eraill yn sefyll ar strydoedd ein trefi neu du allan i archfarchnadoedd,
yn gweini mewn boreau coffi, yn rhedeg stondinau, yn perfformio mewn cyngherddau,
yn cerdded, seiclo neu nofio a phob math o weithgarwch amrywiol arall,
er mwyn codi arian i Cymorth Cristnogol.
Os bydd y casgliadau yn dilyn patrwm y blynyddoedd diwethaf fe fydd y cyfanswm eleni yn agos i £700,000. Eithaf da mewn wythnos!
Wrth gwrs y mae Wythnos Cymorth Cristnogol yn fwy nag wythnos o godi arian.
Mae'n gyfle hefyd i godi ymwybyddiaeth ynglŷn â'r angen sydd yn ein byd a'r annhegwch sy'n gyfrifol amdano.
Gyda dros hanner poblogaeth y byd yn byw ar lai na £1 y dydd, sy'n golygu yn ymarferol prinder dŵr glan, bwyd a chysgod, dim gofal iechyd, addysg, offer na swyddi, y mae'r angen yn enfawr, a gyda thlodion Affrica ar gyfartaledd yn dlotach erbyn hyn nag oeddent 20 mlynedd yn ôl mae'n amlwg nad yw'r system bresennol yn gweithio.
Eleni rhoddwyd sylw i waith partneriaid Cymorth Cristnogol yn Ethiopia ymhlith pobl sy'n dioddef o HIV ac AIDS.
Y mae dros 1.5 miliwn o bobl yn byw gyda HIV ac AIDS yn Ethiopia a mwy na miliwn o blant wedi colli eu rhieni oherwydd AIDS. Un prosiect sy'n derbyn cefnogaeth Cymorth Cristnogol yw rhaglen hyfforddi pobl ifanc ar gyfer bod yn gynghorwyr, er mwyn cynnal y rhai sy'n dioddef oherwydd effeithiau HIV ac AIDS.
Maent yn ymweld yn gyson gyda rhai sy'n dioddef rhagfarn ac anffafriaeth oherwydd eu cyflwr, yn cynghori plant sydd wedi colli rhieni ac yn rhedeg gweithdai ymwybyddiaeth mewn carchardai lleol.
Meddai un o'r cynghorwyr yma, Friewion Aregaw, ?Trwy fy ngwaith rydw i wedi sylweddoli fy mod i'n medru newid bywydau.?

Eleni hefyd fe bwysleisir pwysigrwydd ymgyrchu dros Fasnach Gyfiawn.
Y mae'r rheolau masnach presennol yn gwanhau a thanseilio'r economïau tlotaf ac mae'n rhaid eu newid fel bod pobl dlawd yn cael y cyfle i weithio eu ffordd allan o dlodi.
Meddai un wraig o Bangladesh mewn rali yn y wlad llynedd, 'Rwyf wedi dod i brotestio yn erbyn system sydd yn ein gwneud ni'n dlawd. Ni ddylai fy mhlentyn ddioddef fel fi.'
Y mae Cymorth Cristnogol yn fudiad sy'n newid bywydau ac yn ymladd am gyfiawnder i eraill.
Am gopi o'r gwasanaeth a gynhaliwyd fore Sul, 21 Mai 2006, cliciwch
yma.
Salm o Fawl
Chwi holl bethau grymus, molwch yr Arglwydd:
Rhaeadr Victoria a'r Cefnfor Tawel,
y teigr a'r tyranasor,
y morfil danheddog a'r eryr aur,
grymoedd disgyrchiant a thynfa'r llanw,
mellt fforchog a bloedd y dorf.
Molwch a mawrygwch yr hwn a'ch creodd chwi.
Chwi'r holl bethau addfwyn, molwch yr Arglwydd:
llewyrch y goleuni ac anadliad yr awel,
sgrialu'r morgrugyn a gwingo'r penbwl,
deigryn yn y llygad a gwallt ar y pen,
yr hedyn mwstard a'r gronyn burum,
sawr y rhosyn a sisial paderau.
Molwch a mawrygwch yr hwn a'ch creodd chwi.
Bydded i bob peth gweladwy foli'r Arglwydd!
Cadwyni o fynyddoedd uchel a dail ar y coed,
Creaduriaid pitw bach, tyrrau uchel sy'n cofleidio'r nen,
Dŵr sy'n byrlymu a sêr yn y nen,
Lliwiau'r enfys, pobl y cenhedloedd,
Mellt a thirlun, machlud a chysgod.
Rhowch foliant llawn i'r Un a'ch creodd chi.
Bydded i bob peth anweladwy foli'r Arglwydd!
Ocsigen sy'n rhoi bywyd, oerni'r awel,
Cerrynt trydan a thonnau radio,
Sawr y blodyn a blas ar dafod,
Cri am gyfiawnder, dirgelwch cwsg,
Tawelwch a dwyster, cerddoriaeth a chwerthin:
Rhowch foliant llawn i'r Un a'ch creodd chi.
(O'r Gwasanaeth Cymorth Cristnogol, Mai 2005. Mae'r gwasanaeth cyflawn ar gael, ar ffurf ffeil pdf, trwy glicio
yma.)