Eglwys Bresbyteraidd Cymru / The Presbyterian Church of Wales
Capel y Garn, Bow Street
 Gweinidog: Parch. Wyn Rhys Morris, Berwynfa, Penrhyn-coch, Aberystwyth, SY23 3EW. 01970 820939
 Ysgrifennydd: Mr Alan Wynne Jones
Y Capel
 

Gweddïau amrywiol



Bod yn Grist i bawb

Dduw cariadus,
cymorth ni i fod yn Grist i bawb
mae eu bywydau yn ein cyffwrdd.

Gweld eraill
fel y gwelodd Iesu hwy,
gyda llygaid tosturiol.

Gwrando
fel y gwrandawodd Iesu,
ar gri calonnau ysig
ac ar fyd rhanedig.

Cyffwrdd eraill,
fel Iesu,
gyda gobaith ac iachâd.

Gwasanaethu eraill,
fel Iesu,
heb unrhyw amodau.

Torri bara gydag eraill,
fel Iesu,
er mwyn porthi'r newynog.

Dathlu gydag eraill,
fel Iesu,
lawnder dy ddarpariaeth di.

Dduw cariadus,
cymorth ni i fod yn Grist i bawb
y mae eu bywydau yn ein cyffwrdd ni.

(Amser i Dduw, gol. Elfed ap Nefydd Roberts, t. 294)



Gweddi am Gymod

Ar draws y rhwystrau sy'n gwahanu hil oddi wrth hil,
Cymod ni, O Grist, drwy dy groes.
Ar draws y rhwystrau sy'n gwahanu'r cyfoethog oddi wrth y tlawd,
Cymod ni, O Grist, drwy dy groes.
Ar draws y rhwystrau sy'n gwahanu pobl o grefyddau gwahanol,
anffyddwyr a chredinwyr,
Cymod ni, O Grist, drwy dy groes.
Ar draws y rhwystrau sy'n gwahanu Cristnogion
o eglwysi gwahanol a chyda safbwyntiau diwinyddol gwahanol,
Cymod ni, O Grist, drwy dy groes.
Ar draws y rhwystrau sy'n gwahanu'r ifainc oddi wrth yr hen,
Cymod ni, O Grist, drwy dy groes.

Dangos i ni, O Grist, y rhagfarnau a'r ofnau cudd
sy'n gwadu ac yn bradychu ein gweddïau cyhoeddus.

Galluoga ni i weld achos y gynnen:
a dilea ynom bob ffug syniad o ragoriaeth.
Dysg i ni dyfu mewn undod â holl blant Duw. Amen

(Cydymaith y Pererin / A Welsh Pilgrim's Manual, gol. Brenda O'Malley, tt. 54-5)



O ganol ein bywyd braf, cysurus, y codwn ein llais atat Ti, Arglwydd.

Er i ni yn aml gymryd cysuron ein bywyd yn ganiataol,
fe geisiwn heddiw ddiolch i Ti amdanynt.

Am gysur cartref ac aelwyd,
am fwyd a diod a dillad,
am fendith ein technoleg a'n gwyddoniaeth a medr meddygaeth dda,
Arglwydd, diolch i Ti.

Ond tydi bywyd pawb ddim yr un fath, Arglwydd,
hyd yn oed yn ein cymdeithas ni.

Cofiwn am blant sydd yn byw mewn teuluoedd lle mae tlodi ac angen;
am bobl ifanc sydd â bywyd yn ddiflastod i gymaint ohonynt,
a llawer ohonynt yn byw ar strydoedd ein trefi mawr;

cofiwn am y canol oed
sydd yn gorfod ysgwyddo beichiau cyfrifoldeb galwedigaeth a theulu
ac sydd yn teimlo'r baich yn llethol ar adegau;
deuwn â'r hen ger dy fron, llawer ohonynt yn teimlo'n unig a di-werth.

Edrychwn y tu allan i'n cymdeithas ni, Arglwydd,
ar ein byd,
a sylweddolwn o hyd fod yna bobl sy'n newynu,
pobl wedi eu dal yng nghanol rhyfel, pobl sy'n ffoaduriaid,
pobl sy'n ddi-gartref.

Dad, wrth gofio hyn, cyffwrdd ni â'th Ysbryd.
Helpa ni i weddïo'n daer,
i weithio'n ddi-flino, i roi yn hael,
i gynllunio'n ddoeth er mwyn sicrhau byd heb dlodi,
newyn, dioddefaint, anghyfiawnder nac ofn.

Rho i ni ewyllys i dderbyn dy orchmynion di,
i ufuddhau i'th lais,
i ymddiried yn dy gariad
ac i roi ein hunain yn llwyr i Ti. Amen.


©Hawlfraint Ymddiriedolwyr Capel y Garn yw cynnwys gwreiddiol y safle. All original material on the site is copyright by the Trustees of Capel y Garn.
Crewyd y wefan/Website created by Technoleg Taliesin Cyf. - Admin/Gweinyddu