Eglwys Bresbyteraidd Cymru / The Presbyterian Church of Wales
Capel y Garn, Bow Street
 Gweinidog: Y Parch. Ddr R. Watcyn James
 Ysgrifennydd: Mr Alan Wynne Jones
Y Capel
 

Archif Newyddion y Garn 2016


'Trwy Lygaid y Gair a'r Geiriau'

Nos Sul, 18 Rhagfyr, cynhaliwyd oedfa Nadolig y Garn, ar ffurf darlleniadau, eitemau cerddorol a charolau cynulleidfaol. Trefnwyd y gwasanaeth gan y Gweinidog, y Parch. Wyn Rhys Morris, a chymerwyd rhan gan nifer o aelodau'r Garn a Noddfa. Hyfryd hefyd oedd croesawu band pres o ieuenctid, dan arweiniad Alan Phillips, i gyfeilio i'r carolau cynulleidfaol. Gwnaed casgliad tuag at Gymorth Cristnogol a'r band ieuenctid, a chafwyd cyfle i gymdeithasu dros baned a mins pei yn dilyn y gwasanaeth.

Nadolig y Gymdeithas Lenyddol

Nos Wener, 16 Rhagfyr, dathlodd y Gymdeithas y Nadolig gyda noson arbennig wedi'i threfnu gan Alan Wynne Jones, Cadeirydd y Gymdeithas eleni. Cafwyd eitemau amrywiol, gyda nifer o'r aelodau'n cyfrannu. a chyfle i ymuno i ganu ambell garol.

Gwasanaeth Nadolig y Plant

Cynhaliwyd gwasanaeth Nadolig yr Ysgol Sul Unedig fore Sul, 11 Rhagfyr. Wedi i'r plant wneud eu rhan, cyflwynodd y Gweinidog stori'r Nadolig ar ffurf cartŵn animeiddiedig, cyn rhannu anrheg i bob plentyn. Yn dilyn eu parti yn y festri, bu'r plant yn cynnal gwasanaeth yng Nghartref yr Henoed, Tregerddan, yn ystod y pnawn.

Cymdeithas Chwiorydd y Garn

Prynhawn Mercher, 7 Rhagfyr, cafwyd cwmni'r Parch. John Tudno a Mrs Ina Williams yng nghwrdd Nadolig y Chwiorydd. Crëwyd naws hyfryd ganddynt wrth iddynt gyflwyno carolau ac unawdau amrywiol, gan egluro'u cyd-destun a'u cefndir. Yn dilyn hynny, cafwyd cyfle i fwynhau'r te prynhawn arferfol yn y festri.

Bore Coffi'r Chwiorydd

Ar drothwy'r Adfent, cynhaliwyd bore coffi blynyddol y Chwiorydd fore Sadwrn, 26 Tachwedd. Wedi i'r Gweinidog dorri'r gacen Adfent – rhodd Cartref Tregerddan eto eleni – mwynhawyd bore o sgwrsio a chymdeithasu, a phrynu raffl a nwyddau o'r stondin amrywiol. Addoldai Cymru oedd pwnc y cwis lluniau poblogaidd, a luniwyd gan Iestyn Hughes, a'r enillwyr eleni oedd Dewi a Nerys Hughes. Rhannwyd yr elw rhwng Capel y Garn a mudiad Calonnau Cymru. Diolch i bawb am eu cefnogaeth a'u haelioni.

Noson o Bictiwrs

Nos Wener, 25 Tachwedd, aeth aelodau'r Gymdeithas ar ymweliad â Chanolfan y Morlan, Aberystwyth, i weld arddangosfa ddiweddaraf Wynne Melville Jones o luniau. Mwynhawyd noson ddifyr iawn wrth i Wynne gyflwyno'i luniau a rhoi ychydig o gefndir yr hyn sy'n ysgogi ei waith.

Cymdeithas Lenyddol y Garn

I ddechrau'r tymor eleni, ar 21 Hydref 2016, cafwyd cyflwyniad gan Iestyn Hughes yn seiliedig ar ei gyfrol ddiweddar Ceredigion: Wrth fy Nhraed. Soniodd am ei siwrne bersonol i geisio dod i adnabod ei sir fabwysiedig drwy fentro ar ei hyd gyda'i gamera - gan gofnodi digwyddiadau a thirluniau o'r môr i'r mynydd. Llywyddwyd y noson gan Alan Wynne Jones, cadeirydd y Gymdeithas y tymor hwn.

Colled i'r ofalaeth

Gyda thristwch y clywyd y newyddion am farwolaeth ddisymwyth John Leeding, Glannant, Taliesin. Ef oedd Ysgrifennydd yr Ofalaeth ers deng mlynedd ac fe gyflawnodd y swydd yn gydwybodol a graenus, yn ei ffordd dawel ei hun. Fe welir ei golli'n fawr yng Nghapel Rehoboth, lle roedd yn ysgrifennydd y cyhoeddiadau, ac yn Henaduriaeth Ceredigion a Gogledd Penfro, ac yntau'n olygydd y Blwyddlyfr ers rhai blynyddoedd. Cydymdeimlir yn ddwys â Mai, ei briod, a'r teulu i gyd.

Gwasanaeth Diolchgarwch yr Ofalaeth

Bore Sul, 9 Hydref, cynhaliwyd oedfa ddiolchgarwch yr ofalaeth yng Nghapel Noddfa, Bow Street, dan arweiniad y Gweinidog. Cafwyd neges bwrpasol ganddo yn seiliedig ar lanhau'r dyn gwahanglwyfus. Gwnaed casgliad tuag at Blant mewn Angen.

Sul Menter Gobaith

Dydd Sul, 25 Medi 2016, aeth nifer o aelodau'r Garn i oedfa arbennig Sul y Fenter yng Nghapel y Morfa, Aberystwyth. Y pregethwr gwadd oedd y Parch Owain Llŷr Evans, Caerdydd, a chafwyd gwasanaeth bendithiol iawn dan ei arweiniad.

Swper Cynhaeaf

Cafwyd noson hwyliog o gymdeithasu a sgwrsio yn Ysgoldy Bethlehem, Llandre, nos Wener, 16 Medi. Roedd gwledd wedi ein pharatoi ar ein cyfer gan Delyth Jones a'i thîm, a diolchwyd iddi gan Alan Wynne Jones.

Gwasanaeth y Beibl Byw

Bore Sul, 11 Medi, cynhaliwyd gwasanaeth arbennig i nodi Blwyddyn y Beibl Byw, sydd eleni'n dathlu Gair Duw yn yr iaith Gymraeg. Cafwyd darlleniadau o wahanol gyfieithiadau o'r ysgrythur – o Feibl William Morgan i beibl.net, a dosbarthwyd llyfryn a nod llyfr Blwyddyn y Beibl Byw i bawb oedd yn bresennol.

Gwibdaith Eglwysi'r Garn a'r Noddfa

Dydd Sul, 17 Gorffennaf, cynhaliwyd menter newydd pan aeth plant ac aelodau eglwysi'r Garn a'r Noddfa ar bererindod i ardal y Bala. Teithiodd llond bws i orsaf y trên bach ym Mhen-y-bont, y Bala, i fwynhau taith hamddenol gydag ymyl y llyn ar y trên bach i orsaf Llanuwchllyn, lle cafwyd cyfle i gael paned. Yna, ymlaen i Ganolfan Byd Mari Jones yn Llanycil. Cafwyd croeso a sgwrs ddifyr yno am Mari Jones a'i Beibl gan Nerys Siddall, cyn mynd i weld yr arddangosfa gynhwysfawr yn yr hen eglwys. Trefnwyd gweithgareddau i'r plant a chyflwynwyd myfyrdod byr gan y Gweinidog. Clo hyfryd i'r diwrnod oedd pryd o fwyd hynod flasus yng Ngwesty'r Eryrod, Llanuwchllyn. Cafwyd diwrnod i'w gofio - a diolch yn fawr iawn i Alan am yr holl drefniadau.

Oedfa haf yr ofalaeth

Bore Sul, 10 Gorffennaf, yng Nghapel Pen-llwyn, cynhaliwyd oedfa arbennig dan arweiniad ein Gweinidog. Hyfryd oedd gweld plant ysgol Sul Pen-llwyn yn gwneud eu cyfraniad mor raenus, ac yn dilyn cafwyd neges berthnasol gan y Gweinidog. A hithau yng nghanol tymor Cystadleuaeth Pêl-droed Ewro 2016, cyfeiriodd at amrywiol aelodau tîm pêl-droedd llwyddiannus Cymru - ac yna at y disgyblion, sef tîm Iesu Grist. Yn dilyn y gwasanaeth, mwynhawyd paned o de yn y festri.

Gŵyl yr ysgolion Sul

Bore Sul, 26 Mehefin, yng Nghanolfan y Morlan, Aberystwyth, cynhaliwyd yr ŵyl flynyddol, dan arweiniad Miss Zoe Jones, Swyddog Datblygu Gwaith Plant ac Ieuenctid. Cafwyd gweithgareddau amrywiol yn seiliedig ar hanes y tri llanc yn y ffwrn dân, cyn i bawb - yn blant ac oedolion - fwynhau cinio o gŵn poeth a hufen iâ i bwdin. Diolch i'r Pwyllgor am drefnu ac i Zoe am ei harweiniad.

Ordeinio Blaenor

Dydd Sadwrn, 25 Mehefin, yng Nghapel Shiloh, Llanbedr Pont Steffan, ordeiniwyd Gruffydd Aled Williams o'r Garn yn flaenor yn yr Henaduriaeth. Roedd yn hyfryd gweld deg o flaenoriaid newydd yn cael eu hordeinio gan y Parch Glyn Tudwal Jones, Caerdydd, Llywydd y Sasiwn. Dymunwn bob bendith i Gruffydd Aled Williams yn y dyfodol, ac edrychwn ymlaen at ei gyfraniad yn y Garn.

Sul Cymorth Cristnogol

Bore Sul, 15 Mai 2016, ar ddechrau wythnos Cymorth Cristnogol cynhaliwyd gwasanaeth arbennig dan arweiniad ein Gweinidog. Yn ystod yr oedfa cafwyd cyfle i ddefnyddio'r ddwy sgrin sydd wedi'u gosod yn y capel er mwyn dangos cyflwyniadau, ffilmiau, ac yn y blaen. Yn dilyn yr oedfa, cafwyd cinio bara a chaws yn y festri, gyda'r elw a'r casgliad yn cael eu cyflwyno i Gymorth Cristnogol. Casglwyd £400 - a diolch yn fawr i bawb am eu cefnogaeth a'u haelioni.

Cymanfa Ganu Unedig Gogledd Ceredigion

Cafwyd cymanfa lwyddiannus ddydd Sul, 8 Mai 2016 yng Nghapel Seion, Stryd y Popty, Aberystwyth. Thema cyfarfod y plant oedd y tŷ ar y graig a'r tŷ ar y tywod, a chafwyd cyflwyniadau gan Mrs Dulcie James a'r Parch Andrew Lenny; arweiniwyd y canu gan Mr Alan Wynne Jones. Mr David Griffiths, Aberystwyth, oedd arweinydd cymanfa'r oedolion, a chafwyd canu ysbrydoledig dan ei arweiniad.

Oedfa Basg yr Ofalaeth

Cynhaliwyd oedfa arbennig, dan arweiniad y Gweinidog, fore Sul y Pasg, 27 Mawrth, pryd y daeth cynulleidfa o wahanol eglwysi'r ofalaeth yghyd i ddathlu'r Atgyfodiad mewn gwasanaeth cymun.

Cyfarfod Gweddi Byd-eang y Chwiorydd

Cynhaliwyd y cyfarfod arbennig hwn bnawn Gwener, 4 Mawrth 2016. Paratowyd y gwasanaeth eleni gan Chwiorydd Ciwba, a'r thema oedd: 'Derbyniwch blant, derbyniwch fi.' Arweiniwyd y gwasanaeth gan Mrs Llinos Dafis, a chymerwyd rhan gan Chwiorydd o'r Garn, Capel Noddfa ac Eglwys Llanfihangel Genau'r Glyn. Gwnaed casgliad tuag at y mudiad, a chroesawyd pawb i gymdeithasu dros de yn y festri yn dilyn y gwasanaeth.

Oedfa Gŵyl Ddewi'r Ofalaeth

Bore Sul, 28 Chwefror 2016 cynhaliwyd oedfa arbennig yng Nghapel y Garn, dan arweiniad y Gweinidog, i ddathlu gŵyl ein nawddsant. Rhai o blant yr ysgol Sul oedd yn gyfrifol am y rhannau arweiniol a chafwyd gair pwrpasol iddynt gan y Gweinidog. Gwnaed casgliad tuag at Ambiwlans Awyr Cymru.

Cyngerdd Cofio Canrif

Nos Fawrth, 16 Chwefror 2016, cafwyd noson arbennig i nodi canmlwyddiant cyngerdd a gynhaliwyd yng Nghapel y Garn union ganrif yn ôl, pryd y cymerwyd rhan gan gerddorion alltud o Wlad Belg oedd yn byw yn yr ardal ar y pryd. Cafwyd cyflwyniad i hanes y cerddorion gan Dr Rhian Davies, a chyfraniadau ar lafar ac ar gân o raglen 1916 gan artistiaid lleol; amlinellodd Siôn Meredith sefyllfa ffoaduriaid heddiw a gwaith yr elusen Tearfund i geisio lleddfu eu hangen. Llywydd anrhydeddus yr Arglwydd Elystan-Morgan a thalwyd y diolchiadau gan Rhodri Morgan, gan ddilyn ei dad-cu, y Prifardd Dewi Morgan, yn y cyngerdd ganrif yn ôl. Roedd hefyd yn fraint arbennig cael cwmni rhai o'r ffoaduriaid o Syria sydd bellach yn byw yn Aberystwyth yn y digwyddiad. Gwnaed casgliad tuag at y Groes Goch, ac mae'r swm bellach dros £1,000.

Sul cyntaf y flwyddyn 2016

Bore Sul, 3 Ionawr 2016, croesawyd ein cyn-weinidog, y Parch Elwyn Pryse, i arwain ein haddoliad, a chafwyd neges heriol ganddo ar ddechrau blwyddyn. Yn yr hwyr, cynhaliwyd ein Cwrdd Gweddi Dechrau'r Flwyddyn, a chymerwyd rhan gan nifer o'r aelodau. Cafwyd cyfraniadau amrywiol a bendithiol, a braint arbennig oedd cael canu tôn newydd, sef 'Gaerwen' gan Alan Wynne Jones, ar eiriau gafaelgar emyn Dilys Baker-Jones – profiad gwefreiddiol yn wir.

Am archif newyddion 2015, cliciwch yma.


©Hawlfraint Ymddiriedolwyr Capel y Garn yw cynnwys gwreiddiol y safle. All original material on the site is copyright by the Trustees of Capel y Garn.
Crewyd y wefan/Website created by Technoleg Taliesin Cyf. - Admin/Gweinyddu