Eglwys Bresbyteraidd Cymru / The Presbyterian Church of Wales
Capel y Garn, Bow Street
 Gweinidog: Y Parch. Ddr R. Watcyn James
 Ysgrifennydd: Mr Alan Wynne Jones
Y Capel
 

I'r Plant

Gwasanaeth Gŵyl Ddewi, 2011

Mae'r ysgol Sul yn cwrdd am 10 o'r gloch bob bore Sul yn ystod tymor yr ysgol,
ac mae croeso i unrhyw blentyn dros 3 oed ymuno â ni.

Bydd y plant yn rhan o'r gynulleidfa yn y capel ar gyfer y gwasanaeth dechreuol,
ac yna'n mynd allan i'r festri gydag athrawon yr ysgol Sul.


Hefyd, trefnir gwasanaethau arbennig i'r teulu cyfan, gyda'r plant,
eu rhieni ac aelodau eraill yn cymryd rhan.


Y Pasg

Am stori'r Pasg a gweithgareddau sy'n gysylltiedig â'r hanes, cliciwch Pasg



Yr ysgol Sul, 2011


Yr oedd y flwyddyn hon eto'n un brysur a bywiog yn yr ysgol Sul, ac fe groesawyd nifer o aelodau newydd. Braf yw gweld y rhieni'n dod gyda'u plant ac yn cymryd eu tro i fod yn athrawon.

Yn ychwanegol at yr ysgol Sul a gynhaliwyd yn y festri ar fore Sul, cymerodd y plant ran yng ngwasanaeth Gŵyl Ddewi'r Ofalaeth ar 27 Chwefror trwy gyflwyno nifer o olygfeydd dramatig o fywyd Dewi Sant. Cafwyd darlleniadau gan rai o'r ieuenctid yn ogystal â cherddoriaeth ar y delyn.

Roedd yn braf cael cyfle i ymuno â phlant o ysgolion Sul eraill yn y Gymanfa yng Nghapel Seion, Aberystwyth, ym mis Mai ac yng Ngŵyl yr Ysgolion Sul yng Nghapel y Morfa ym mis Gorffennaf.

Daeth Mrs Alwen Roberts o Gapel y Morfa ar ymweliad â'r ysgol Sul ar ran yr Henaduriaeth ym mis Mehefin, a mwynhawyd ei chwmni hithau. I Aberaeron yr aeth y trip blynyddol eleni, a chafwyd amser difyr yn chwarae yn y parc - ac yn bwyta hufen iâ.

Yn dilyn gwasanaeth arbennig ym mis Medi aeth y plant a'u rhieni ar daith gerdded i godi arian at Apêl y Cartref Cariadus (Hmangaihna In), a llwyddwyd i godi tipyn o arian - er gwaetha'r glaw!

Daeth y flwyddyn i ben fel arfer gyda'r gwasanaeth Nadolig, a gynhaliwyd ar 11 Rhagfyr. Yn dilyn y gwasanaeth cafwyd parti ac fe ddaeth Siôn Corn heibio gydag anrheg i bawb. Yna, yn y prynhawn, cynhaliwyd gwasanaeth y plant yng Nghartref Tregerddan.

Eleni, am y tro cyntaf, rhoddwyd croeso arbennig i'r plant yn oedfa bore'r Nadolig, ac roedd nifer o deuluoedd ifanc yn bresennol.

Poster Ysgol Sul y Garn, Eisteddfod yr Urdd, Mai 2010

Yr ysgol Sul, 2010


Parhawyd â threfn arferol yr ysgol Sul, gyda phlentyn yn dewis ac yn ledio'r emyn cyntaf yng ngwasanaeth y bore, a'r plant yn mynd allan i'r festri yn dilyn gair gan y gweinidog neu bregethwr y Sul - trefn sy'n rhoi cyfle gwerthfawr i'r plant ymuno â'r gynulleidfa'r a theimlo'n rhan o deulu'r eglwys.

Cafodd y plant hefyd gyfle i gymryd rhan yn yr oedfa Gŵyl Ddewi ar 28 Chwefror - mewn darlleniadau, gweddïau a chyflwyniad dramatig, a chafwyd gair gan y Gweinidog ar y thema 'Gwnewch y pethau bychain'.

Yng Nghapel y Garn yr oedd y Gymanfa eleni, a hynny ar 9 Mai. Roedd cyfarfod y bore ar ffurf oedfa deuluol dan arweiniad Dr Owain Edwards, Coleg y Bala, a'i thema oedd 'Ymddiried yn yr Iesu'.

Gan fod Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn cael ei chynnal yn Llanerchaeron, cafwyd cyfle i lunio poster yn darlunio gwaith yr ysgol Sul i'w osod ym Mhabell Cytûn ar y maes. Yn ogystal â hyn, cynhyrchwyd nifer o ffilmiau byrion gan y plant yn darlunio ambell stori o'r Beibl. Lluniwyd y sgriptiau gan y plant eu hunain, a gwnaed y ffilmio dan gyfarwyddyd Rhodri. Fe'u dangoswyd i Mrs Jên Ebeneser pan ddaeth hithau ar ymweliad â'r ysgol Sul ar ran yr Henaduriaeth.

Cafwyd cyfle i ymuno â phlant ac ieuenctid o ysgolion Sul yr ardal yn y Morlan ym mis Gorffennaf yng Ngŵyl yr Ysgolion Sul, dan arweiniad Euros Lewis, Felin-fach. I ganolfan chwarae Quackers, Pontnewydd-ar-Wy, yr aeth y trip eleni, a mwynhawyd y cyfle i roi cynnig ar yr amrywiol weithgareddau sydd ar gael yno.

Cyflwynwyd gwasanaeth Nadolig uchelgeisiol a blaengar eleni, dan gyfarwyddyd Rhodri, pan welwyd aliyns o blaned ddieithr yn glanio yn yr ardal ac yn holi am wir ystyr y Nadolig. Cafwyd cyfraniad hefyd gan grŵp pres yr ieuenctid, a mwyhawyd parti, ac ymweliad gan Siôn Corn, yn dilyn y gwasanaeth.


Yr ysgol Sul, 2009


Mae'r ysgol Sul yn dal i gwrdd yn rheolaidd, a braf yw gweld nifer o blant ifanc yn ymuno o'r newydd. Cyfrannodd y plant at sawl gwasanaeth teuluol, gan gynnwys y Gwasanaeth Gŵyl Ddewi ym mis Mawrth, actio stori Sacheus yn y gwasanaeth arbennig ar Sul Croeso'n ôl a hanes y dyn a ddaeth yn ôl i ddweud 'Diolch' yn y Gwasanaeth Diolchgarwch ym mis Hydref. Cynrychiolwyr y Garn yn y Gymanfa yng Nghapel Bethel, Aberystwyth, ym mis Mai 2009 oedd Iestyn, Gwern a Glesni.

Trwy nawdd Cronfa Eleri, rydym wedi prynu bwrdd a chadeiriau i'r plant lleiaf, yn ogystal â silffoedd llyfrau newydd ac uned i ddal offer. Rydym yn ddiolchgar iawn i Mr Erddyn James am ei gymwynas yn peintio'r wal, ac mae'r festri bellach yn lle diddos ar gyfer yr ysgol Sul.

Cymerodd y plant ran yng Ngwasanaeth Diolchgarwch yr Ofalaeth ym mis Hydref. Thema'r gwasanaeth oedd 'Yr un a ddaeth yn ôl i ddweud "Diolch",' ac fe roddwyd y casgliad i Gyngor yr Ysgolion Sul a'r NSPCC.
Parti Nadolig 2009
I ddathlu Sul yr Urdd, 15 Tachwedd 2009, cafwyd gwasanaeth arbennig dan arweiniad y Gweinidog. Eglurodd Wynne Melville Jones arwyddocâd logo'r mudiad, a chafwyd ymweliad annisgwyl gan neb llai na Mistar Urdd ei hun. Yn ystod y gwasanaeth bedyddiwyd Gruffydd Siôn, mab Geraint a Nia, a brawd Lleucu; a Tomos Llywelyn, mab Chris a Carwen, a brawd Lois. Hyfryd oedd gweld y ddau deulu ifanc hyn yn dod i gyflwyno'u babanod.

Cynhaliwyd Gwasanaeth Nadolig yr Ofalaeth bore Sul, 13 Rhagfyr, yng Nghapel y Garn. Cyflwynodd plant yr ysgol Sul stori'r Nadolig ac iddi dinc cyfoes ac 'amgen'. Y llefarwyr oedd Glesni, Teleri a Rhys, ac unodd y gynulleidfa gyda'r plant i ganu'r gân boblogaidd 'Haleliwia' i gyfeiliant gitâr Rhodri.

Yna cafwyd neges bwrpasol i'r plant gan y Gweinidog. Trwy gyfrwng dau barsel oedd yn edrych yn wahanol iawn i'w gilydd ar y tu allan, fe'n hatgoffodd mai'r hyn sydd y tu mewn sydd yn bwysig mewn gwirionedd.
Hyfforddwyd y plant gan athrawon a rhieni'r ysgol Sul, dan gyfarwyddyd Dr Rhodri Llwyd Morgan, a chyfeiliwyd i'r emynau gan Miss Kathleen Lewis.

Yn dilyn y gwasanaeth, cafwyd parti i'r plant a gymerodd ran yn y cyflwyniad.
Paratowyd y lluniaeth gan athrawon a rhieni'r ysgol Sul, a dosbarthwyd anrhegion i'r plant gan ein Gweinidog.




Yr ysgol Sul, Tymor yr Hydref 2008


Parhaodd y gweithgarwch yn dilyn seibiant dros yr haf, ac fe ddilynwyd gwerslyfrau'r ysgol Sul, gan ganolbwyntio ar stori'r creu a stori Ruth.

Cymerodd y plant ran yn y Gwasanaeth Diolchgarwch ar 19 Hydref, a chafwyd neges a chyflwyniad clyweledol gan y Gweinidog ar Ddameg yr Heuwr.

Daeth rhai o'r plant hefyd i'r cwis beiblaidd a drefnwyd yn y festri i ysgolion Sul y cylch nos Lun, 27 Hydref, ac fe gafwyd llawer o hwyl yn ceisio dyfalu'r atebion - yn enwedig wrth bwyso'r 'bysers'.

Bore Sul, 14 Rhagfyr oedd bore gwasanaeth Nadolig y plant, ac fe welwyd sawl bugail mewn dillad anarferol o fodern (am y cyfnod) ac fe ddisgleiriodd sawl seren newydd. Fe gymerodd nifer o'r gynulleidfa ran hefyd yn y gêm 'Pasio'r Parsel', sef thema'r gwasanaeth o werslyfr yr ysgol Sul - ac roedd y cyfan yn cyfleu'n syml ond effeithiol neges oesol y Nadolig.

I ddirwyn gweithgareddau'r flwyddyn i ben, cafwyd parti'r ysgol Sul bnawn Gwener, 19 Rhagfyr. Yn dilyn y wledd a'r gemau, cafwyd ymweliad gan Siôn Corn, a rhannwyd cacen ben-blwydd arbennig iawn!

Dathlu Gŵyl Ddewi, 2 Mawrth 2008

Yr ysgol Sul, Tymhorau'r Gwanwyn a'r Haf 2008


Bu hwn eto yn gyfnod o weithgarwch diwyd yn yr ysgol Sul, o dan arweiniad nifer o athrawon ymroddedig.

Cafwyd cyfle i ddysgu am hanes Samuel a Daniel o'r Hen Destament, yn ogystal â gwyliau'r Pasg a'r Pentecost. Bu'r plant hefyd yn brysur yn paratoi ar gyfer y gwasanaeth teuluol i ddathlu Gŵyl Ddewi ar 2 Mawrth, ac ar gyfer y 'Gymanfa' yng Nghapel y Morfa ar 13 Mai. Roedd yn braf gweld y capel yn llawn o blant, eu rhieni a'u ffrindiau - ac fe gafwyd hwyl yn gwrando ar neges Martyn Geraint ar y Pentecost.

Daeth Delyth Davies i ymweld â'r ysgol Sul ar ran yr Henaduriaeth, ac fe aeth nifer o'r plant a'u rhieni i Ŵyl yr ysgolion Sul yn ysgol Llanilar, bnawn Sul, 29 Mehefin - a mwynhau cymryd rhan yn y gwahanol weithgaredddau - celf, cerdd, drama, a chwmni Ifan Gruffydd, y gŵr gwadd.

I orffen y tymor, cafwyd sesiwn gêmau a pharti i ddathlu diwedd blwyddyn brysur arall.



Yr ysgol Sul, Tymor yr Hydref a'r Nadolig 2007



Gwasanaeth Nadolig 2007Braf oedd gweld mwy o blant yn dod i'r ysgol Sul yn ystod y tymor yma - daliwch ati, ac mae croeso i ragor hefyd!

Thema mis Medi oedd 'Porthi'r Pum Mil' ac fe gymerodd y plant ran mewn gwasanaeth teuluol ar y thema hon dan arweiniad y Gweinidog.

Diolchgarwch oedd thema mis Hydref a bu'r plant yn brysur yn paratoi ar gyfer y gwasanaeth diolchgarwch.

Uchafbwynt y flwyddyn oedd paratoi ar gyfer y gwasanaeth Nadolig, a gynhaliwyd ar 16 Rhagfyr, heb anghofio'r parti - pan gafwyd ymweliad gan Siôn Corn a llond sach o anrhegion.










Gêm Cymorth Cristnogol

Yr ysgol Sul, Tymor yr Haf 2007 - Ffrindiau




Roedd hwn yn dymor prysur i'r ysgol Sul. Yn ychwanegol at wersi ar y thema 'Ffrindiau', fe wnaeth y plant (a'r athrawon) fwynhau gwneud llawer o bethau eraill, yn cynnwys:


13 Mai - Cyflwyno gweddiau mewn oedfa deuluol ar fore Sul y Gymanfa yng Nghapel Bethel, Tal-y-bont, ar y thema 'Ffrindiau' gydag Ifan Gruffudd yn ŵr gwâdd.


20 Mai - Oedfa Cymorth Cristnogol: gweithgaredd arbennig ar ddileu tlodi,
a chinio Bara a Chaws i ddiyn.


25 Mai - Rhannu taflenni a chymryd rhan yng Ngwasanaeth Sefydlu'r
Gweinidog newydd, Y Parch Wyn Morris


24 Mehefin - daeth Annwen Davies, ysgrifennydd Pwyllgor Addysg Gristnogol Henaduriaeth Gogledd Aberteifi i ymweld â'r ysgol Sul.

Cafodd gyfle i weld gwaith y plant a sgwrsio gyda nhw, ac fe gawsom amser da yn ei chwmni.
Poster Cymorth Cristnogol

1 Gorffennaf - Gŵyl Ysgolion Sul Henaduriaeth Gogledd Aberteifi. Ymunodd nifer o blant y Garn â phlant ysgolion Sul yr Henaduriaeth yn ysgol Llanfarian i fwynhau'r ŵyl flynyddol.

Cafwyd grwpiau cerdd, drama a chrefft, chwaraeon amrywiol, a gwasanaeth i gloi ar thema eleni, sef 'Apêl Dechrau Newydd (Sierra Leone).

14 Gorffennaf - trip yr ysgol Sul. Teithiodd y plant, eu rhieni, athrawon yr ysgol Sul a chyfeillion i Gaer i ymweld â'r Sŵ. Braf oedd cael cwmni'r gweinidog, y Parch Wyn Morris, a Mrs Judith Morris hefyd.

Cafwyd diwrnod gwych gyda phawb wedi mwynhau, ac roedd blas arbennig ar y sglodion yn y Trallwm ar y ffordd adre. Diolch i Lowri am drefnu.






Yr ysgol Sul, Tymor y Pasg 2007 - Goleuni


Goleuni
Thema'r tymor hwn oedd Goleuni -

ac fe fu'r plant yn sôn am wahanol fathau o oleuni:

golau sy'n rhybuddio,
golau sy'n cynhesu,
golau sy'n rhoi neges,
golau sy'n dangos y ffordd.

Stori Bartimeus
Fe fu'r plant wrthi hefyd yn darlunio stori Bartimeus ddall.










Yr ysgol Sul, Hydref 2006 - Dameg yr Heuwr


Gwaith lliwio gan Teleri
Y tymor yma rydym wedi dysgu am stori'r heuwr.

Gwelom fideo'r stori ac wedyn, fe blannom hadau berwr (cress),
er mwyn gweld ble mae'r hadau'n tyfu orau.
Berwr yn tyfu
Plannom ni rai yn y pridd da drwy eu rhoi nhw ar wlân cotwm
a rhoi digon o ddŵr iddyn nhw.

Plannom ni rai eraill mewn lle sych, heb roi dim dŵr iddynt.
Roedden nhw'n tyfu, ond wedyn yn gwywo.
Glaniodd rhai ar y ffordd, a chael eu bwyta gan yr adar.
(Iestyn)

Ar ôl cael stori Ifan Tom yn Mynd Allan i Hau,
sydd yn debyg i stori'r heuwr yn y Beibl,
fe fuon ni'n actio yn y festri.
(Charlotte)

Daeth Mrs Bowen i ddangos sut i wneud bara allan o'r ŷd a dyfodd o'r hadau
a laniodd ar y tir da.

Buom yn cymysgu a thylino.
Yna, siapio'r rholiau a'u rhoi yn y popty cynnes i'r burum godi.
Wedyn, eu coginio ? a hyn i gyd mewn hanner awr.

Diolch yn fawr, Mrs Bowen.
(Ffion)
Collage Dameg yr Heuwr
Un dydd Sul, fe ddaeth rhai o aelodau'r Grŵp Help Llaw i'n helpu i wneud collage
i'w roi ar y wal.
Roedd y collage yn disgrifio dameg yr heuwr,
felly, fe beintion ni frain, drain a gwenith wedi tyfu.

Diolch i Mrs Ann Jones, Mrs Lis Jones a Mrs Elen Evans am ddod i helpu.
(Meinir)







Doliau ŷd
Buodd Mrs Buddug Thomas yma yn gwneud doliau ŷd gyda ni.
Rydym ni'n dibynnu ar Dduw am dywydd da
i roi cnwd da o ŷd i wneud bara a doliau ŷd.

Yn yr hen amser roedd y tyddynwyr yn gwneud llawer o wahanol ddoliau
o flaen y tân gyda'r nos.
(Glesni)





Pobi bara, Medi 2006
Gweddi
Annwyl Iesu,
Helpa ni i fod yn debg i' r iâr fach goch.
Roedd hi bob amser yn barod i helpu
ac i wneud ei gorau glas.

Cofia am y bobol yn y byd sydd angen dy help di.
Pobol sy'n dlawd neu'n sâl, yn drist neu'n ofnus.

Pan oeddet ti ar y ddaear
roeddet ti yn garedig wrth bawb,
hyd yn oed y bobol oedd yn gas i ti.

Helpa ni i gofio ein bod ni'n lwcus iawn.
Amen
(Glesni)





Joio yn yr Haul!


Dydd Gwener, 21 Gorffennaf, cafwyd prynhawn difyr o chwaraeon
Joio yn y Borth
a llond bol o fwyd blasus i gloi gweithgareddau'r Ysgol Sul am y tymor,
ac i ddynodi dechrau gwyliau'r haf.

Aeth plant yr Ysgol Sul gyda'u hathrawon i chwarae rownderi a phêl-droed ar draeth Ynyslas.

Ar ôl mwynhau'r gêmau, aeth pawb i'r Victoria Inn lle cafwyd platied o sglodion a selsig, a hufen iâ i ddilyn.

Darparwyd y cyfan yn rhad ac am ddim gan Mrs Margaret Griffiths ? diolch yn fawr iddi am ei charedigrwydd.



Mabolgiamocs, Mehefin 2006
Pnawn Sul, 25 Mehefin, cymerodd y plant ran yn y Mabolgiamocs a drefnwyd i ysgolion Sul yr Henaduriaeth yn Ysgol Rhydypennau.










Mabolgiamocs yn y glaw
Bydd y plant hefyd yn cefnogi'r Gymanfa Ganu flynyddol, a oedd eleni ar ffurf gwasanaeth arbennig ar y thema 'Cyfrif ein bendithion' ar 18 Mai yng Nghapel Seion, Stryd y Popty, Aberystwyth.







Gweithgaredd Pasg, 2006
Rhan boblogaidd arall o galendr yr ysgol Sul yw gweithgaredd y Pasg,
gweler y lluniau yn yr oriel.














Cyfraniad y plant yn y cyfarfod anrhegu

Ymddeoliad y Parchedig R W Jones, Mawrth 2006 - Gair gan y plant


Beth yw Mr Jones y Gweinidog i ni?

Stori ddiddorol, fel arfer yn ddoniol hefyd.
Wedyn, ?Gwrandwch ??
Dyna pryd bydde Mr Jones yn gwneud inni wrando a dysgu pethau pwysig am fywyd.

I ni, mae Mr Jones yn ddyn caredig iawn, yn barod i chwerthin a rhannu jôc, ond mae o ddifri am sut mae Iesu'n moyn inni fyw.

Pan mae Mr Jones yn y Capel, mae'r canu yn llawer gwell oherwydd bod ganddo lais mawr cyfoethog fel tase fe'n canu opera.

Y plant fydd yn ei golli fwyaf achos rydym ni yn edrych ymlaen at y stori a gweld beth sydd yn y bag coch efo'r defaid.

Rydym ni ? Rhun, Gwern ac Osian ? yn ddiolchgar iawn,
ac yn gobeithio bydd Mr Jones yn dod 'nôl i'n gweld yn aml.
Rhun Penri

Bugail da,
Oedfaon cyffrous,
Bob
Jones
Oedd yn swyno gyda
Naws
Ei
Straeon gwych.
Iwan a Meinir Williams
Charlotte yn cyflwyno blodau i Rhian
Roedd Mr Jones yn hapus ac yn ddoniol. Roedd e wedi bod 'da ni am lawer o flynyddoedd.
Rydym ni yn gobeithio y bydd e'n cael bywyd da yn ei gartref newydd.
Charlotte

Rydym yn drist fod Mr Jones yn ein gadael ni.
Gobeithio y byddwch chi'n dod 'nôl i'n gweld ni weithiau.

Roedd eich storis yn gwneud i ni chwerthin.
Roedd y bag yn ddoniol hefyd.
Fe fyddwn ni'n cofio am y defaid ar y bag.

Gobeithio y byddwch chi'n cael amser da yn Wrecsam.
Fyddwn ni byth yn anghofio amdanoch chi,
a gobeithio y byddwch chi ddim yn anghofio ni.
Thomas, Iestyn a Dinas



Colled enfawr i'r ysgol Sul ddechrau Ionawr 2006 oedd colli Buddug James Jones, a fu'n arolygwraig ac yn athrawes yn yr ysgol Sul am flynyddoedd lawer.
Roedd ei chyfraniad yn unigryw a'i hymroddiad i waith yr ysgol Sul yn llwyr a diflino.
Byddwn yn cofio'n hir am y gwasanaethau arbennig a luniodd ar gyfer plant a phobl ifanc yr Eglwys.
Am deyrngedau i Buddug, cliciwch yma.


Moses a'r Ddwy Lechen


Gêm gyfrifiadur newydd a chyffrous!

Fedrwch chi helpu Moses i gael y ddwy lechen gyda'r Deg Gorchymyn?
I chwarae'r gêm, cliciwch Beibl, ac yna ADNODDAU/RESOURCES a DYSGWCH FWY.

Cofiwch anfon e-bost i ddweud wrthon ni ar ôl i chi orffen y gêm!






©Hawlfraint Ymddiriedolwyr Capel y Garn yw cynnwys gwreiddiol y safle. All original material on the site is copyright by the Trustees of Capel y Garn.
Crewyd y wefan/Website created by Technoleg Taliesin Cyf. - Admin/Gweinyddu