Eglwys Bresbyteraidd Cymru / The Presbyterian Church of Wales
Capel y Garn, Bow Street
 Gweinidog: Parch. Wyn Rhys Morris, Berwynfa, Penrhyn-coch, Aberystwyth, SY23 3EW. 01970 820939
 Ysgrifennydd: Mr Alan Wynne Jones
Y Capel
 

Croeso i Wefan Capel y Garn

Poster ysgol Sul y Garn yn Eisteddfod yr Urdd, Mai 2010Pwrpas y wefan yma yw rhannu gwybodaeth am Gapel y Garn, Bow Street, Aberystwyth, ac estyn gwahoddiad cynnes
i chi i droi i mewn i gyd-addoli gyda ni ar y Sul neu ymuno yn y gwahanol weithgareddau a gynhelir gan yr eglwys.

Ers ei sefydlu tua 1793, mae i'r eglwys hanes maith a chyfoethog o hyrwyddo'r dystiolaeth Gristnogol yn yr ardal, a'n gobaith yw y bydd y wefan yn un ffordd arall o gyflawni hyn i'r dyfodol.

Amserau cwrdd

Fel arfer, cynhelir gwasanaethau yn y capel bob Sul am 10 a 5 o'r gloch, ac mae ysgol Sul i'r plant yn ystod gwasanaeth y bore. Ar bnawn Sul am 2 o'r gloch, bydd y dosbarth ysgol Sul i oedolion yn cyfarfod yn ysgoldy Bethlehem, Llandre.

Mae Capel y Garn yn un o saith eglwys sydd yng ngofalaeth y Garn, dan weinidogaeth y Parchedig Wyn Rhys Morris, ac fe gynhelir oedfaon arbennig i holl eglwysi'r ofalaeth, er enghraifft, oedfa Gŵyl Ddewi, oedfa ar fore'r Pasg ac oedfa'r Nadolig. Bydd yr oedfaon hyn yn cael eu cynnal am 10 o'r gloch, ac ni fydd gwasanaeth nos yn y Garn ar y Suliau hynny.

Byddwn hefyd yn cydaddoli'n rheolaidd â chynulleidfa Capel Noddfa, eglwys yr Annibynwyryn y pentref.

Cinio Bara a Chaws, Cymorth Cristnogol 2010

Gweithgarwch

Mae nifer o weithgareddau yn cael eu cynnal yn y capel yn rheolaidd, er enghraifft, cyfarfodydd Cymdeithas y Chwiorydd a'r Gymdeithas Lenyddol, a bydd y Garn yn cymryd rhan yn flynyddol yng Nghymanfa Ganu Unedig Gogledd Aberteifi.

Gwaith gwirfoddol

Rhoddir llawer o bwyslais yn y Garn ar waith gwirfoddol a chodi arian i helpu pobl anghenus, er enghraifft, casglu bwyd i Bosnia dan ofal y Grŵp Help Llaw a chefnogi apêl flynyddol Cymorth Cristnogol
Mae'r Garn hefyd wedi ymrwymo i fod yn eglwys masnach deg

Trowch i mewn atom

Un o eglwysi Eglwys Bresbyteraidd Cymru yw'r Garn, ond mae i unrhyw un droi i mewn atom ac ymuno yn ein haddoliad neu gymryd rhan yn ein gweithgareddau.
Y Parch. Wyn Rhys Morris, Gweinidog
Am ragor o fanylion, gweler y dyddiadur neu Gair o'r Garn, cylchlythyr yr eglwys, a gyhoeddir bedair gwaith y flwyddyn.

Fe gyfeirir yn y crynodeb o hanes yr Eglwys at Ddiwygiad 1904–05 yn cyffwrdd â'r ardal hon ac am y miloedd a ddaeth ym Mehefin 1905, ychydig dros ganrif yn ôl, i addoli a moli Duw yn y capel hwn, ac yn y caeau o'i gwmpas.

Ganrif yn ddiweddarach mae'r nifer yn dipyn llai, ond mae yma o hyd gyfeillgarwch a chynhesrwydd a brwdfrydedd. Rydym yn eglwys sydd yn edrych allan ac yn ymwybodol iawn o'r angen sydd yn ein byd, ac o'r herwydd mae yma gyfrannu hael a chyson.

Ond rydym hefyd yn ymwybodol fod angen arall yn ein plith. Ganrif yn ôl, dod heb eu cymell a wnâi pobl i addoli Duw. Drwy'r wefan hon, gallwn nid yn unig ddweud peth o'n hanes, ond hefyd wahodd pobl i ddeialog, i ystyried, i bwyso'r hyn a ddywedir ac, efallai, i uno gyda ni yn ein haddoliad. Yr un yw'r neges heddiw ag erioed:

O'r fath gyfaill ydyw'r Iesu,
Ffrind ym mhob ystorom gref.





Newyddion o'r Garn

Cyflwyno llun Bethlehem Cynhaliwyd achlysur hyfryd yn ysgoldy Bethlehem, Llandre, nos Iau, 26 Ionawr, pan gyflwynodd Wynne Melville Jones lun a beintiwyd ganddo i'r ysgoldy. Llun olew o'r ysgoldy ei hun ydyw, ac eglurodd yr arlunydd iddo bortreadu'r adeilad fel petai'n cuddio tu ôl i sgrin o ddwy goeden fythwyrdd, ond o graffu'n fanwl, gwelir bod golau ynghynn yn yr ysgoldy bach - arwydd o'r bywyd sydd i'w gael o'i fewn. Roedd lluniau a ffotograffau gan artistiaid lleol eraill hefyd yn cael eu harddangos ar y noson, a diolchwyd i Wynne ac i bawb a gefnogodd yr achlysur gan y Parch Wyn Morris.


Cydymdeimlir yn ddwys â Geraint a Nia, Lleucu a Gruffudd ar farwolaeth tad Geraint, Gareth Williams, Caerdydd.


Cwrdd Gweddi Dechrau'r Flwyddyn Nos Wener, 6 Ionawr 2012, yn ôl ein harfer cynhaliwyd cwrdd gweddi dechrau'r flwyddyn yn Festri'r Garn. Cymerwyd rhan gan Mr Alan Wynne Jones, Mrs Llinos Dafis, Yr Arglwydd Elystan-Morgan, Dewi G Hughes a'r Gweinidog, y Parch Wyn Morris. Er mai criw bychan iawn o'r aelodau oedd wedi dod ynghyd, cafwyd cyfarfod arbennig a bendithiol iawn, a gwerthfawrogwyd y cyfraniadau amrywiol a phwrpasol a gyflwynwyd. I ddarllen myfyrdod Mrs Llinos Dafis ar y gair 'Ffordd', cliciwich Myfyrdodau


Blwyddyn newydd brysur Bu penwythnos cyntaf 2012 yn un prysur iawn yng Nghapel y Garn: nos Sadwrn, 31 Rhagfyr 2011, cynhaliwyd gwylnos, dan arweiniad y Gweinidog, i groesawu'r Flwyddyn Newydd mewn myfyrdodd a gweddi. Dydd Calan, cynhaliwyd dwy oedfa dan arweiniad y Parch Elwyn Pryse, a chafwyd neges amserol ganddo ar ddechrau blwyddyn. A phrynhawn Sul, aeth nifer o'r aelodau i Gartref Tregerddan i gynnal oedfa i'r trigolion, dan arweiniad Alan Wynne Jones.


Tasg i'r Plant Am gopi o'r dasg i'r plant yn 'Gair o'r Garn', cliciwch Tasg


Gair o'r Garn Mae'r rhifyn diweddaraf, sef Calan 2012, bellach ar gael. Cliciwch Gair o'r Garn



Am eitemau newyddion blaenorol ewch i'r archif


Am luniau o Gapel y Gerlan, y Borth cliciwch Lluniau'r Gerlan


Taith Dewi Sant, Hydref 2010 Am adroddiadau ar y genhadaeth, canlyniadau'r holiadur ac adnoddau a ddefnyddiwyd yn ystod y daith, cliciwch Taith Dewi Sant



I'ch dyddiadur...

Ysgol Sul y Plant Bob bore Sul, am 10 o'r gloch - croeso cynnes i blant a phobl ifanc o bob oed


Gwasanaeth Gŵyl Ddewi'r Ofalaeth bore Sul, 26 Chwefror 2012, dan arweiniad y Gweinidog yng Nghapel y Garn am 10 o'r gloch. Casgliad tuag at 'Llyfrau Llafar'



Am restr lawn o ddigwyddiadau ewch i'r dyddiadur





   


©Hawlfraint Ymddiriedolwyr Capel y Garn yw cynnwys gwreiddiol y safle. All original material on the site is copyright by the Trustees of Capel y Garn.
Crewyd y wefan/Website created by Technoleg Taliesin Cyf. - Admin/Gweinyddu