Eglwys Bresbyteraidd Cymru / The Presbyterian Church of Wales
Capel y Garn, Bow Street
 Gweinidog: Parch. Wyn Rhys Morris, Berwynfa, Penrhyn-coch, Aberystwyth, SY23 3EW. 01970 820939
 Ysgrifennydd: Mr Alan Wynne Jones
Y Capel
 

Hanes y Capel


Mynwent y Garn

Am grynodeb o hanes y fynwent, map a rhestr o'r beddau, cliciwch yma.

Sefydlu'r achos

Berw ysbrydoledig y Diwygiad Methodistaidd a roddodd fodolaeth i Eglwys y Garn.

Diffrwyth oedd achos crefydd yng ngogledd sir Aberteifi ym mlynyddoedd cynnar y ddeunawfed ganrif. Yng ngeiriau un hanesydd cyfredol, 'Yr oedd parthau uchaf Sir Aberteifi fel rhyw anialwch hollol wyllt, heb eu gwrteithio erioed â moddion gwybodaeth na'u hau â hadau efengyl'.
Y capel presennol yn ei gyflwr gwreiddiol
Cychwynnwyd achos Methodistiaeth yn yr ardal hon tua 1790, a hynny yn Llanfihangel Genau'r Glyn?yn y Glebe Inn, Lôn Glanfread, yn gyntaf, ac wedyn, mae'n debyg, yn y Black Lion (Croesawdy heddiw). Tua 1793 y codwyd y capel cyntaf (yn agos at ble mae Dôl Maelgwyn a Maelgwyn House heddiw). Yr enw a roddwyd arno oedd Jehofa-Jire, sef 'Yr Arglwydd a ddarpar'. Fel y gwyddom, dyna'r enw a roddodd Abraham i'r fan lle'r achubodd yr angel Isaac rhag ei aberthu (Genesis 22:14). Buan, serch hynny, y mabwysiadodd y capel enw'r rhes o fythynnod a oedd hefyd ar fin y ffordd, ac i'r gogledd o'r capel, sef Pen-y-garn, neu y Garn. Cynyddodd nifer yr aelodau?a hynny yn arbennig ar ôl Diwygiad 1805? ac fe godwyd ail gapel yn 1813, yn agos at leoliad y capel cyntaf.

Ugain mlynedd yn ddiweddarach, yn 1833, yr oedd y capel eto yn rhy fach i'r gynulleidfa, ac fe adeiladwyd y capel presennol. Fel y ddau gapel o'i flaen, trwy haelioni John Watkins, Brysgaga, y cafwyd y tir i adeiladu arno. Mae chwedl hyfryd, a oroesodd lawer cenhedlaeth, yn dweud iddo bryderu y buasai'r capel yn rhy fach i'w ddibenion, a'i fod o ganlyniad wedi symud y pegiau liw nos i ychwanegu'n sylweddol at ei faintioli.
Dosbarth Beiblaidd y Garn 1897-8
Ni fu i'r Garn weinidog llawn amser tan y flwyddyn 1918, ond ar ôl ordeinio'r gweinidogion cyntaf yn 1811 dibynnai'r Eglwys ar wasanaeth gweinidogion o eglwysi eraill i weinyddu'r sacramentau. Yn eu plith yr oedd Thomas Charles o'r Bala, Ebenezer Richard, Tregaron, a John Elias o Fôn. Un arall a fu yma oedd Dafydd Morgan, Pontarfynach, un o arweinwyr Diwygiad 1859. O tua 1871 hyd 1915 rhannwyd dyletswyddau bugeiliol yr Eglwys rhwng y Parchedig T J Morgan a'i gefnder, y Parchedig William Morgan.

Sasiwn 1905

Yn haf 1905, a'r Diwygiad yn ei ymchwydd, ymwelodd y Sasiwn â'r Garn. Gan na fedrai'r capel gynnwys ond canran o'r ymwelwyr a ddisgwylid, codwyd pabell enfawr yng Nghae'r Maelgwyn rhyw ddau canllath i ffwrdd. Trefnwyd trenau arbennig ar gyfer yr achlysur a daeth rhyw bum mil o ffyddloniaid i'r cyfarfodydd.
Parch Christmas Lloyd, gweinidog cyntaf y Garn
Parch R W Jones, Gweinidog yr Eglwys tan 31 Mawrth 2006

Y gweinidogion

Ym 1918 y sefydlwyd y Parchedig Christmas Lloyd fel y gweinidog llawn-amser cyntaf, a bu'r Eglwys dan ei ofal tan 1930.Ym 1933, sefydlwyd y Parchedig J Wallace Thomas, a fu'n fugail hyd 1959. Ym 1961 daeth y Parchedig D R Pritchard i'n bugeilio, a hynny hyd 1983. Fe'i olynwyd gan y Parchedig Elwyn Pryse, a oedd eisoes yn fugail ar Eglwysi'r Borth, Dolybont, Tal-y-bont, Taliesin a Ffwrnais, ac ymddeolodd yntau ym 1992.

Yng ngwanwyn 1994 sefydlwyd y Parchedig R W Jones yn fugail ar yr ofalaeth a threuliodd ddeuddeng mlynedd yn gweinidogaethu yn ein plith hyd ei ymddeoliad yntau fis Mawrth 2006.

Ym mis Ebrill 2007 croesawyd y Parchedig Wyn Rhys Morris, Caerfyrddin, yn weinidog ar ofalaeth y Garn, sydd bellach yn cynnwys saith eglwys yng ngogledd Ceredigion, ac yn nyddiau prinder gweinidogion mae'r ofalaeth wedi bod yn hynod o ffodus ei bod wedi sicrhau gwasanaeth bugail mor ymdroddedig.


Cerddoriaeth y Garn

Ni fuasai'r nodyn mwyaf amrwd hyd yn oed yn gytbwys heb sôn am draddodiad cerddorol y Garn. O'r cychwyn cyntaf, yr oedd i'r Eglwys enw anrhydeddus trwy Gymru yng nghyswllt y gân. Dichon fod â hyn lawer i'w wneud â dyfodiad J T Rees, brodor o Gwmgïedd, i'r Garn ym 1880. Fe cyfansoddwr tonau, ac fel arweinydd corau, enillodd fri enfawr yng Nghymru ac mewn mannau pellach, gan gynnwys Unol Daleithiau'r America. Yr oedd J T Rees nid yn unig yn gerddor o'r radd uchaf, ond hefyd yn arweinydd crefyddol o bersonoliaeth gadarn. Gwasanaethodd y Garn am dros drigain o flynyddoedd.
J T Rees, y cerddor
Mab disglair iddo oedd y Dr T Ifor Rees, a ddaeth yn llysgennad Prydain yn Bolifia. Cyfrannodd yntau yn helaeth o'i ddoniau i fywyd yr Eglwys.

Yn ddiweddarach, fe wnaeth William Llewelyn Edwards (1908-2000) hefyd gyfraniad pwysig tuag at ganiadaeth y cysegr yn y Garn, a thrwy Gymru.

Ysgoldai Bethlehem a Bow Street

Codwyd dau ysgoldy i'r Eglwys, sef Bethlehem, Llandre, ym 1876 ac Ysgoldy'r Bow Street ym 1903. Caewyd yr olaf rai blynyddoedd yn ôl pan ddaeth y dosbarthiadau ysgol Sul yno i ben, ond y mae Bethlehem yn dal i fod o werth enfawr i'r Garn ac i'r fro yn gyffredinol.

Eisteddfod y Garn

Cynhelid eisteddfod y Garn ar ddydd Nadolig am dros gan mlynedd o 1880 ymlaen, ac yr oedd yr eisteddfod hon yn sefydliad pwysig ym mywyd yr ardal.

Atgyweirio

Ym 1984 darganfuwyd pydredd yn rhai o drawstiau'r nenfwd ac yn wal flaen y capel. Aethpwyd ati yn ddeheuig i atgyweirio, a hynny ar gost nid ansylweddol o dros bedwar ugain o filoedd o bunnoedd. Mawr a gwrol fu ymdrechion yr aelodau, a chyda cymorth cyllidol o amryw gyfeiriadau, fe godwyd y cyfan o'r arian. Ail-agorwyd y capel ar ei newydd wedd yng Ngorffennaf 1986.

Y Garn heddiw

O ran aelodaeth, mae'r ffigwr aelodaeth presennol o 156 yn cymharu yn rhesymol â'r 310 oedd yma ym 1921, a rhyw 240 ym 1981, ac nid yw'r cwymp mor serth ag a fu yn hanes y mwyafrif helaeth o Eglwysi Presbyteraidd Cymru. Serch hynny, tuag i lawr mae'r gogwydd presennol.

Y newid mwyaf yn ddiamau rhwng ein dyddiau ni a sefyllfa'r Eglwys hanner cant neu gan mlynedd yn ôl yw nad yw'r Garn bellach yn rheoli ethos bywyd y fro. Yn hyn o beth, mae'n dilyn patrwm sydd yn drist o gyffredin trwy Gymru gyfan. Eto fe bery Eglwys y Garn i chwarae rhan arwyddocaol yng nghyswllt y dystiolaeth Gristnogol ym mywyd gogledd Aberteifi.

Nodyn

Am fwy o wybodaeth, gweler llyfryn Dr Nerys Ann Jones, Capel y Garn c. 1793?1993 (1993) am ddarlun byw ac ysbrydoledig o hanes yr Eglwys.
Yr Arglwydd Elystan-Morgan



©Hawlfraint Ymddiriedolwyr Capel y Garn yw cynnwys gwreiddiol y safle. All original material on the site is copyright by the Trustees of Capel y Garn.
Crewyd y wefan/Website created by Technoleg Taliesin Cyf. - Admin/Gweinyddu