Eglwys Bresbyteraidd Cymru / The Presbyterian Church of Wales
Capel y Garn, Bow Street
 Gweinidog: Parch. Wyn Rhys Morris, 47 Glan Ceulan, Penrhyn-coch, 01970 820920
 Ysgrifennydd: Mr Alan Wynne Jones
Y Capel
 

Myfyrdodau



Yr Ysbryd Glân yn dod ar y Pentecost

1 Ar ddiwrnod dathlu Gŵyl y Pentecost roedd pawb gyda'i gilydd eto.

2 Ac yn sydyn dyma nhw'n clywed sŵn oedd fel gwynt cryf yn chwythu drwy'r ystafell lle'r oedden nhw'n cyfarfod.

3 Ac wedyn roedd fel petai rhywbeth tebyg i fflamau tân yn dod i lawr ac yn gorffwys ar ben pob un ohonyn nhw.

4 Dyma pawb oedd yno yn cael eu llenwi â'r Ysbryd Glân ac yn dechrau siarad mewn ieithoedd eraill. Yr Ysbryd oedd yn eu galluogi nhw i wneud hynny.

5 Bryd hynny roedd Iddewon crefyddol o wahanol wledydd wedi dod i aros yn Jerwsalem.

6 Clywon nhw'r sŵn hefyd, ac roedd tyrfa fawr wedi casglu at ei gilydd i weld beth oedd yn digwydd. Roedden nhw wedi drysu, am bod pob un ohonyn nhw yn clywed ei iaith ei hun yn cael ei siarad.

7 Roedd y peth yn syfrdanol! "Onid o Galilea mae'r bobl yma'n dod?” medden nhw.

8 “Sut maen nhw'n gallu siarad ein hieithoedd ni?”

9 (Roedd Parthiaid yno, a Mediaid, Elamitiaid, pobl o Mesopotamia, Jwdea a Capadocia, Pontus ac Asia,

10 Phrygia, Pamffilia, yr Aifft, a'r rhan o Libia sydd wrth ymyl Cyrene; pobl oedd ar ymweliad o Rufain

11 – rhai yn Iddewon ac eraill yn bobl oedd wedi troi at y grefydd Iddewig – a hefyd Cretiaid ac Arabiaid.) “Maen nhw'n siarad ein hieithoedd ni, ac yn dweud am y pethau rhyfeddol mae Duw wedi eu gwneud!"

(Actau 2; fersiwn beibl.net)


Ffrwythau'r Ysbryd

22 Ond dyma'r ffrwyth mae'r Ysbryd Glân yn ei dyfu yn ein bywydau ni: cariad, llawenydd, heddwch dwfn, amynedd, caredigrwydd, daioni, ffyddlondeb,

23 addfwynder a hunanreolaeth.

(Galatiaid 5; fersiwn beibl.net)





Wedi'r Atgyfodiad

Stori dda yw honno am y Crist Atgyfodedig yn ymddangos i'r saith disgybl ar lan Môr Tiberias. Erbyn hyn, rhyw griw bach digon digalon oedd y disgyblion, pobl siomedig ac isel eu hysbryd, dynion a oedd wedi dechrau colli ffydd yn eu Meistr. Yr oedd hi'n ymddangos fel petai'r Iesu wedi'u gadael i lawr. Y mae'n wir iddynt ei weld ar fwy nag un achlysur wedi'i Atgyfodiad a'u bod hwy hefyd wedi'u galw ganddo i'w wasanaethu yn y byd. Eto i gyd, yr oedd y dyddiau fel petaent yn gwibio heibio yn awr a dim byd o bwys yn digwydd.

Am hynny, penderfynodd saith o'r disgyblion ddychwelyd i'w cynefin ar lan Môr Galilea a thra oedden nhw'n gwylio'r cychod eraill allan ar y llyn efallai, cytunwyd mai'r unig beth i'w wneud oedd mynd yn ôl at yr hen grefft o bysgota – gwaith cyfarwydd, lle cyfarwydd, amser cyfarwydd. Ond yn rhyfedd iawn, er iddynt fod wrthi'n pysgota drwy'r nos, ni ddaliasant ddim. Beth oedd o'i le? Y mae'n wir fod rhyw dair blynedd wedi mynd heibio ers iddynt fod wrthi yn pysgota o'r blaen. Er hynny, go brin eu bod wedi colli'r ddawn. Yr un oedd y llyn a'r nos oedd hi, yr amser gorau i bysgota.

Ond yr oedd pethau yn mynd i newid. Wrth i'r wawr dorri fe welodd y disgyblion rhyw ddieithryn yn sefyll ar y lan, ac y mae yntau yn eu holi am eu diffyg llwyddiant y noson cynt. Wedi i'r disgyblion gyfaddef na ddaliasant ddim, y mae'n galw arnynt i fwrw'r rhwyd i'r ochr dde i'r cwch. Y fath lwyddiant! Cymaint oedd y pysgod a ddaliwyd ganddynt fel nad oedd modd tynnu'r rhwyd i mewn i'r cwch. Sylweddolodd y disgyblion yn fuan mai'r Iesu oedd y dieithryn ac fe lanwyd eu calonnau â gobaith newydd. Yn lle edrych yn ôl yn ddigalon ar yr hen amserau, dyma'r disgyblion yn awr yn edrych ymlaen at ddyddiau gwell i ddod.

Ymhen ychydig amser, o dan ddylanwad yr Ysbryd Glân ar ddydd y Pentecost, mi fyddent yn mynd allan i genhadu yn y byd gan ddangos dewrder anghyffredin a nerth anhygoel. Fe fu'r profiad o adnabod y dieithryn ar y lan yn gyfrwng i wneud y disgyblion yn ddynion newydd.

Y mae angen i ninnau heddiw hefyd gael yr un profiad personol o'r Crist Atgyfodedig. A welsom ni Ef y Pasg diwethaf hwn? Ai rhyw ddieithryn ar orwel pell yn unig ydoedd heb i ni fod wedi'i adnabod o gwbl? A fynnodd amheuaeth ac anghrediniaeth gael y gorau ar ein ffydd? A gawsom ein gwneud yn bobl newydd neu ynteu, ai pobl ddigalon, ofnus a siomedig ydym, yn teimlo nad oes fawr o gynnydd ar ein gwaith?

Peidiwn â digalonni. Neges obeithiol yw un y Pasg bob amser. Dathlu buddugoliaeth a wna'r Eglwys, buddugoliaeth fod Bywyd yn drech nag angau a bod cariad Duw yn drech na chasineb dyn. Felly, seiniwn yr Haleliwia am fod Mab Duw wedi concro marwolaeth ac wedi rhwygo pyrth y bedd.

Yng ngeiriau emyn Siôn Aled:

Mae Iesu'n fuddugol, a'i bobol gaiff fyw
yn fwy na choncwerwyr drwy gariad Mab Duw;
er profi gorthrymder neu newyn neu gledd
does ball ar y cariad agorodd y bedd.

Molwch ef! Molwch ef! Mae'r gad wedi troi.
Molwch ef! Molwch ef! Mae'r gelyn yn ffoi;
mae Iesu'n fuddugol, a'i bobol gaiff fyw
yn fwy na choncwerwyr drwy gariad Mab Duw.

(WRhM)



Yr Wythnos Fawr

Arglwydd Iesu Grist,
yn ystod yr wythnos ddwys a sanctaidd hon,
a ninnau'n gweld o'r newydd
ryfeddod a dyfnder dy gariad drud,
cynorthwya ni i ddilyn ôl dy droed,
i sefyll pan fyddi'n syrthio,
i wrando pan fyddi'n wylo,
i deimlo poen dy boenau di,
ac wrth i tithau farw, ymgrymu a galaru,
fel pan fyddi'n atgyfodi
fe gawn ninnau hefyd
gydgyfranogi o'th lawenydd diddarfod.

(The Book of Common Order, dyfynnwyd o Amser i Dduw, gol. Elfed ap Nefydd Roberts, t. 246)



Neges Olaf Dewi Sant

Dydd Sul fe ganodd Dewi offeren, a phregethodd i'r bobl, a'i debyg o'i flaen ef nis clywyd, ac ar ei ôl ef byth ni chlywir. Ni welodd llygad erioed gymaint o ddynion yn yr un lle. Ac wedi i'r bregeth a'r offeren orffen, fe roddodd Dewi yn gyffredin ei fendith i bawb a oedd yno.

Ac wedi iddo roddi ei fendith i bawb, fe ddywedodd yr ymadrodd hwn,
'Arglwyddi, frodyr a chwiorydd,
byddwch lawen a chedwch eich ffydd a'ch crefydd,
a gwnewch y pethau bychain a glywsoch ac a welsoch gennyf fi.'

(Stori Dewi Sant, gol. D. Simon Evans)



Gweddi Sant Ffransis o Assisi

Bydded cariad lle bo casineb,
Bydded gobaith lle bu anobaith
A lle bu amheuaeth, bydded ffydd.
Bydded cysur lle bu galar
A llawenydd lle bu tristwch
A lle bu tywyllwch megis nos
Boed goleuni megis ffydd.

(Addas. Tecwyn Ifan)



Ar ddechrau blwyddyn

I Dduw y dechreuadau
rhown fawl am ddalen lân,
am hyder yn y galon
ac ar y wefus, gân:
awn rhagom i'r anwybod
a'n pwys ar ddwyfol fraich;
rho nerth am flwyddyn arall
i bobun ddwyn ei faich.

Ar sail ein doe a'n hechdoe
y codwn deml ffydd,
yn nosau ein gorffennol
ni fethodd toriad dydd;
a hithau'n ddyfnder gaeaf
disgwyliwn wanwyn Crist
a chlywed llais y durtur
uwch pob wylofain trist.

Boed blwyddyn gymeradwy
yr Arglwydd wrth ein dôr,
dirwyned drwy ein dyddiau
drugaredd hael yr Iôr:
a ni wrth borth y misoedd
yn ffyddiog am a ddaw,
ar drothwy'r daith anesgor
gafaelwn yn ei law.

(John Roderick Rees, Caneuon Ffydd, rhif 87)



Y Nadolig

Tybed sut fyddech chi'n teimlo pe na bai'r Nadolig yn bod o gwbl! Yn sicr ddigon, mi fyddai bywyd yn llawer llai trafferthus. Meddyliwch o ddifrif – dim ffws, dim ffwdan, dim gorfod poeni ein bod wedi anghofio anfon carden at Anti Jên, dim gorfod rhuthro'n wallgo i'r ganolfan siopa er mwyn dod o hyd i'r anrhegion mwyaf addas ar gyfer y teulu a'n ffrindiau; dim gorfod gosod yn eu lle y goeden Nadolig a'r holl addurniadau eraill a fu'n guddiedig yn yr atig am ymron i flwyddyn; dim gorfod poeni am goginio'r twrci a'r mins-peis; ac un peth arall, dim gorfod ateb yr hen gwestiwn dwl yna sy'n cael ei ofyn tua'r adeg yma bob blwyddyn: “Ydych chi'n barod ar gyfer y Nadolig?” Ydyn ni erioed yn barod!! Chi'n gwybod rhywbeth, dydw i ddim yn meddwl y collwn i rhyw lawer o gwsg pe bai'r Nadolig yn cael ei ganslo eleni.

Ond arhoswch funud. Y Nadolig yn cael ei ddileu? Dydy'r peth ddim yn gwneud synnwyr o gwbl. Mi fyddai hi'n biti mawr pe na bai yna dymor o ewyllys da ar ddiwedd pob blwyddyn. Duw a ŵyr, y mae yna ddigon o ymrafael a rhyfela yn y byd, heb i ni gael gwared â'r Nadolig, Allwn ni ddim ymron agor papur newydd, neu droi'r teledu ymlaen, heb glywed am ryw erchylltra neu'i gilydd mewn rhyw gornel o'r byd. Felly, gadewch i ni atgoffa ein hunain, am o leiaf un diwrnod neu ddau ym mis Rhagfyr, mai drwy fyw'n gytûn a heddychlon y daw hapusrwydd i ddynolryw ac nid trwy ymladd yn barhaus â'n gilydd. O'r gorau, rwy'n gwybod fod y Nadolig yn medru bod yn hynod o sentimental a masnachol a'i bod hi hefyd erbyn hyn wedi'i diraddio i fod yn ŵyl seciwlar, amrwd ac aflednais, ond ni ddylai hynny fod yn rheswm i ni gael ei gwared. Na, ar ôl ailfeddwl, mi fyddai yna rhyw wacter mawr yn ein byd heb Ŵyl y Nadolig.

Yr hyn y dylem ein hatgoffa ein hunain ohono, fodd bynnag, yw bod yna fwy i'r Nadolig nag anfon cardiau a chyfnewid anrhegion, bod yna fwy iddi na'r celyn a'r iorwg a'r goleuadau llachar. Y mae i Ŵyl y Geni ystyr ddyfnach ac ehangach o lawer. Y mae iddi ddirgelwch mawr ac aruchel, nid yn gymaint oherwydd geni baban bach mewn ystabl i fendithio'r byd, ond oherwydd gwyrth yr Ymgnawdoliad. Dywed yr Apostol Paul yn ei Lythyr cyntaf at Timotheus, “A rhaid inni'n unfryd gyffesu mai mawr yw dirgelwch ein crefydd: Ei amlygu ef mewn cnawd …” (1 Timotheus 3:16a). Yr un yw neges y Bedwaredd Efengyl, “A daeth y Gair yn gnawd a phreswylio yn ein plith yn llawn gras a gwirionedd” (Ioan 1:14a). Canodd y bardd yntau:

“Ni wyddom am ddim rhyfeddach – Crëwr
Yn crio mewn cadach;
Yn faban heb ei wannach,
Duw yn y byd fel dyn bach.”
(J Eirian Davies)

Dyna'n union yw craidd a hanfod y Nadolig, y Mab yn dod oddi wrth y Tad wedi'i wisgo mewn cnawd dynol. Mab Duw yn dod yn Fab y Dyn er mwyn i blant dynion ddod yn blant Duw, Mab Duw yn cael ei eni o wraig fel y cawn ninnau ein geni o Dduw. Oni edrychwn ar neges y Nadolig yn y golau hynny, dim ond rhyw stori fach ddigon dymunol a sentimental am angylion, bugeiliaid a doethion fydd yr hanes am eni'r Iesu.

Felly, byddwn effro rhag i ni golli golwg ar wir ystyr yr Ŵyl eleni. Paratown ein calonnau fel y gall Duw siarad â ni. Paratown ein hunain fel y gallom brofi o'i gariad mawr yng Nghrist Iesu. Byddwn barod ar gyfer y Nadolig.

Tangnefedd yr Ŵyl a fyddo gyda chwi oll.

(Wyn Rhys Morris)




Lliwiau a Goleuadau
Mae'r canhwyllau'n llosgi'n ddisglair yn yr Adfent,
gan ein hatgoffa am y llawenydd a ddaeth i'n byd yn Iesu Grist;
ond pan â'r Nadolig heibio diffoddir y fflam.

Llawenhawn o weld lliwiau a golueuadau'r Adfent a'r Nadolig,
ond llawenhawn fwyfwy
gan na ellir byth ddiffodd
gwir oleuni Crist.

Tyrd i'n bywydau, Arglwydd Iesu,
a chynnau ynom oleuni
a fflam cariad nad ydynt byth yn diffodd.

(Gweddïau i'r Eglwys a'r Gymuned, addas. Trefor Lewis; dyfynnwyd o Amser i Dduw, gol. Elfed ap Nefydd Roberts, t. 173)



Tymor yr Hydref

A phan ddaw'r hydref yn ei rwysg
a'i law yn euro dail y coed
cawn brofi cyfoeth cnwd y maes
eleni eto fel erioed.

(Rebecca Powell)



Gweddi am Sirioldeb

O Dduw, rho imi'r sirioldeb i dderbyn y pethau na allaf eu newid;
y dewrder i newid y pethau y gallaf eu newid;
a'r doethineb i wybodaeth y gwahaniaeth rhynddynt.

(Reinhold Niebuhr)



Mae gen i freuddwyd

Mae gen i freuddwyd am y wlad
Lle bydd pawb yn bobol,
Lle na fydd gormes na nacâd
Na chas byth mwy dragwyddol.

Mae gen i freuddwyd am y wlad
Lle bydd diwedd angau,
Lle na fydd cynnen, trais, na brad,
Lle na fydd ofn cadwynau.

Mae gen i freuddwyd am y wlad
Lle bydd cariad yno,
Lle na fydd dicter mwy, na llid,
Lle na fydd neb yn wylo.

A disglair ydyw'r muriau mawr
A hardd fel môr o wydyr,
A'r pyrth a egyr yn y wawr
I fyd a fu ar grwydyr.

Mae ar hyd yn oed ddynion lludw,
Du eu lliw, eisiau byw.

Gwyn Thomas

(Eleri Ellis Jones (gol.), Sbectol Inc, t. 127)



MUNUD I FEDDWL
Ceir stori am ddisgybl yn mynd at ei Athro Iddewig un tro
gan ofyn iddo pryd y dylai wneud heddwch â Duw.

“Un funud cyn marw,” oedd yr ateb sydyn.

“Ond,” dywedodd y disgybl ymhellach, “nid wyf yn gwybod pryd y bydd hynny.”

“Gwir a ddywedaist,” meddai'r Athro, “felly, gwna hynny nawr!”



'Aelodau'r Eglwys'

Mae yna bum cant a chwe-deg o aelodau yn ein heglwys,
Ond mae cant ohonynt yn eiddil a hen.
Felly dyna adael pedwar cant a chwe deg i wneud y gwaith.
Ond mae saith deg pedwar o'r rhain yn bobl ifainc mewn colegau,
Gedy hyn dri chant wyth deg a chwech i wneud y gwaith i gyd.
Ond mae cant a hanner ohonynt wedi blino oherwydd eu hymrwymiad i'w gwaith,
Felly dyna adael dau gant tri deg a chwech i wneud y gwaith.
O'r rhain mae cant a hanner yn famau gyda phlant bach,
Sy'n gadael wyth deg chwech.
Mae pedwar deg a chwech o'r rhain â diddordebau arbennig,
Gan adael deugain i wneud yr holl waith.
Ond mae pymtheg ohonynt yn byw yn rhy bell i ddod yn gyson,
Felly dyna adael pump ar hugain i wneud y gwaith i gyd.
Dywed tri ar hugain o'r gweddill yma eu bod wedi gwneud eu siâr,
Felly dyna adael Ti a Fi.
'Rwyf i wedi llwyr ymlâdd
Felly pob lwc i ti!

(Cyfieithiad Llion Griffiths)



Eiriolaeth: ar ran y rhai mewn angen a'r rhai sy'n gweithio dros gyfiawnder

Arglwydd pawb,
gweddïwn dros y rhai sydd mewn angen
ledled byd, gan gofio dy fod, drwy eu cri hwy,
yn galw allan am gymorth,
a'n bod ninnau, wrth ymateb iddynt hwy,
yn ymateb i tithau.

Deled dy deyrnas,
ar y ddaear fel yn y nef.

Gweddïwn dros y rhai sydd heb fwyd –
y rhai y mae bod yn newynog yn brofiad hollbresennol,
y rhai na ŵyr o ble y daw eu pryd nesaf,
y rhai sy'n wynebu newyn bob dydd.

Deled dy deyrnas,
ar y ddaear fel yn y nef.

Gweddïwn dros y rhai a amddifadwyd o'r adnoddau
a gymerwn ni yn ganiataol –
dŵr glan,
dillad,
cartrefi,
addysg a gofal meddygol –
miliynau aneirif sydd â chyn lleied
tra bo cymaint gyda ni.

Deled dy deyrnas,
ar y ddaear fel yn y nef.
Amen

(Deunydd defosiwn ar gyfer Sul Cymorth Cristnogol, Mai 2007, Gwilym ac Eirian Dafydd, o'r Cristion, Ebrill 2007)

Am ddeunydd addoli pellach yn gysylltiedig â Chymorth Cristnogol, cliciwch yma



Rhyfeddol Ras

RHYFEDDOL RAS! O'r fendith dlos
Achubodd walch fel fi;
Ar goll, fe'm caed, ac ar fy nos
Fe dorrodd gwawr yn lli.

Gras 'ddysgodd ofn i'm calon goll,
Gras 'chwalodd f'ofnau lu;
O awr y credu cyntaf oll,
Gras yw fy nhrysor cu.

Er gwaethaf llaid a maglau'r byd,
Clod byth i ras, 'rwy'n fyw!
A'r gras a'm diogelodd cyd
A'm dwg i nef fy Nuw.

Addawodd f'Arglwydd im bob da,
A'i air yw 'ngobaith hael;
Yn rhan a tharian y parha
Tra pery f'einioes wael.

Pan dderfydd ynni calon gnawd,
A'm bywyd yma ar ben,
Tragwyddol hedd a fydd i'm rhawd,
Gorfoledd hwnt i'r llen.

A ninnau yno, oesau'r rhod,
Fel disglair haul yn byw,
Ni dderfydd byth ddyrchafu clod
A mawl i'n Harglwydd Dduw.

(Cyfieithiad Dafydd Owen o emyn John Newton, 'Amazing Grace')




Gwynfydau heddiw

Gwyn eu byd y rhai a fedd y ddawn
i chwerthin ar eu pennau eu hunain,
canys hwy a gânt ddifyrrwch di-ddiwedd.

Gwyn eu byd y rhai a all wahaniaethu rhwng mynydd a manion;
hwy a gânt lawer llai o boendod.

Gwyn eu byd y rhai sydd yn ymglywed ag anghenion pobl eraill
heb gyfrif eu hunain yn anhepgorol;
byddant hwy yn hau llawenydd.

Gwyn eu byd y rhai a ŵyr pryd i dewi;
fe'u gwerthfawrogir gan bawb o'u hamgylch.

Gwyn eich bod os gallwch edmygu gwên ac anghofio gwg;
bydd yr haul yn goleuo eich llwybr.

Gwyn eich byd os gallwch gadw'n dawel a gwenu
pan fydd rhywun yn torri ar eich traws
a chwithau ar ganol brawddeg,
pan fydd rhywun yn eich gwrthddweud,
neu yn sathru ar eich cyrn;
mae'r Efengyl wedi dechrau canfod lle yn eich calon.

Uwchben popeth, gwyn eich byd os gallwch adnabod yr arglwydd
ym mhob un y dewch ar ei draws;
mae'r gwir oleuni a'r gwir ddoethineb gennych.

(Cyfieithiad o ran y gylchgrawn Eglwys yn Lanzarote, o'r Goleuad, 3 Tachwedd 2006)



YNA, TI A GREDI

Os gwelaist ti olau mwyn llygad mam yn edrych ar ei chyntafanedig
ym mhlyg ei mynwes wedi storm ei eni;
os gwelaist ti'r rhyfeddod a'r diolchgarwch yn cydlawenhau wrth anwylo'r bychan byw,

YNA, TI A GREDI

Os buost ti ar goll mewn tyrfa fawr yn blentyn bach;
os gwyddost ti am y gwae gwyllt o chwilio am wyneb dy fam
a chlustfeinio ymysg y llu am ei llais;
os teimlaist wedyn gynhesrwydd cyffyrddiad ei llaw,

YNA, TI A GREDI

Os cefaist ti dy hun yn llethol unig ar frig mynydd uchel
a'r distawrwydd mor fawr â glas pell yr awyr uwchben;
os gwelaist dydi dy hun yn dy holl fychander yn ymyl aruthredd y mawredd mud,

YNA, TI A GREDI

Os ymgollaist rywbryd yn ogofeydd dy gof;
os ymgrwydraist yng nghilfachau dy feddwl;
os rhoddaist lam ffydd tu hwnt i gyfyngderau ffawd;
os gofynnaist i'r nos am seren, a'i chael,

YNA, TI A GREDI

Os ymdeimlaist â hud anghyffwrdd awen bardd;
os adnabyddaist ti ecstasi llenor
pan ddaw â gair at air mewn cariad i genhedlu syniad;
os clustfeiniaist ti ar wylofain hen alaw sy'n llefain â thafodau dynion ac angylion,

YNA, TI A GREDI

Os buost ti yn agos, agos i boen, mor agos nes teimlo'r artaith
er nad oedd yn dy gnawd dy hun;
os bu trai a llanw anadl un annwyl yn cwyno yn dy glust,

YNA, TI A GREDI

Os oes gennyt freuddwyd na dderfydd yn y bore,
na ddifethir gan wawd yr anghredinwyr;
os gwyddost ti fod y breuddwyd hwn wedi dy feddiannu
fel y rhoddit dy einioes i'w gadw,

YNA, TI A GREDI

Os gwelaist lawenydd mawr sydd â'i berarogl yn goroesi pob diflastod a thristwch;
os bu hwn yn gannwyll i ti yn nos dy dristwch,

YNA, TI A GREDI

Os y'th fradychwyd yn dy ymdrechion;
os gadawodd dy gyfeillion di ar drugaredd y dyrfa,
eto, os arhosodd un yn unig hyd y diwedd,

YNA, TI A GREDI

(D. Jacob Davies)



Holiday ynteu holy day?


'Ar y dydd cyntaf o'r wythnos ...' (Luc 24:1)

Mae'r Sul traddodiadol Cymreig yn prysur ddiflannu,
a bellach, diwrnod ydyw i lawer i wneud popeth ond addoli Duw.

Beth amdanom ni, sy'n ceisio bod yn ffyddlon i'r oedfaon heddiw?

Ai pobl yn cadw'r hen draddodiadau crefyddol yn slafaidd ydym,
neu Gristnogion yn mynychu oedfa oherwydd ein bod eisiau dod?

Yn yr Efengylau, fe welwn agendor mawr rhwng y Phariseaid a Iesu Grist
ynglŷn â phwysigrwydd cadw'r Saboth.

I'r Phariseaid, llythyren gaeth y ddeddf a chadw cannoedd o fân reolau oedd yn bwysig,
ond i'r Iesu, lles dyn sy'n bwysig.

Nid cadw'r Saboth er mwyn ei gadw oedd pwyslais Iesu,
ond ei gadw er mwyn iddo gael amser penodol i orffwyso ac i addoli Duw.

Mynegir hyn yn gryno yn Saesneg, 'Man's week begins with a holiday and a holy day'.
Onid yw'r gair 'holiday' yn awgrymu y dylem ddefnyddio'r Sul
i ymlacio mwy ar yr aelwyd gartref,
ac i ymlacio hefyd ar aelwyd yr Eglwys.

Er mwyn hyn, dylai'r Eglwys fod yn fwy o aelwyd,
a'r aelwyd yn fwy o Eglwys.

Ond mae'r Sul i'w ddefnyddio,
nid fel 'holiday' yn unig,
ond fel 'holy day'

– fel diwrnod arbennig i addoli Duw,
ac i ddathlu newyddion syfrdanol yr atgyfodiad fod Iesu Grist yn Arglwydd bywyd a marwolaeth.

Felly, nid diwrnod diflas a beichus yw'r Sul i'r Cristion,
ond profiad i'w fwynhau a'i ddathlu mewn llawenydd.

Gadewch inni wneud hynny o'r galon, ac er clod i'w enw:

Hwn ydyw'r dydd y cododd Crist,
Gan ddryllio pyrth y bedd;
O! cyfod, f'enaid, na fydd drist
I edrych ar ei wedd.

John Lewis Jones
(Y Goleuad, 30 Mehefin 2006)


Gwyliau


Arglwydd, diolchwn am yr adnewyddiad
a rydd gwyliau i'n bywyd:
am gyffro'r disgwyl a'r cynllunio;
am ryddid oddi wrth ddyletswyddau bob dydd;
am brofiadau a chyfleon newydd.

Rhoddaist fyd rhyfeddol i ni:
ble bynnag yr awn fe'n hamgylchynir
gan bethau sy'n bleser i'n llygaid
ac yn faeth i'r meddwl.

Helpa ni i ddefnyddio'n gwyliau
i ganfod dy ogoniant di yn dy greadigaeth;
i ddefnyddio'n rhyddid i ddeall yn gliriach
y cyflawnder bywyd yr wyt ti'n ei gynnig i ni'n barhaus.

Derbyn ein diolch am gyfoeth amrywiol bywyd,
dy rodd di i ni;
a phan ddaw ein gwyliau i ben,
arwain ni'n ôl i'n cartrefi yn ddiogel,
wedi'n hadnewyddu a'n hysbrydoli
o gael gorffwys a chael mwynhau
rhyfeddodau dy fyd di.

Roy Chapman
(Amser i Dduw, gol. Elfed ap Nefydd Roberts)


Ôl Traed


Breuddwydiodd dyn un noson ei fod yn cerdded ar hyd y traeth
yng nghwmni ei Arglwydd.

Yn yr awyr fflachiai golygfeydd o'i fywyd.
Ym mhob golygfa gwelai ddwy set o olion traed yn y tywod,
un yn eiddo iddo ef, a'r llall yn eiddo'r Arglwydd.

Pan fflachiodd golygfa olaf ei fywyd,
troes yn ôl i edrych ar yr olion traed yn y tywod.
Sylwodd ar rai adegau yn ei fywyd
mai dim ond un set o olion traed oedd i'w gweld,
ac mai ar adegau tristaf ac isaf ei fywyd y digwyddai hyn.

Mewn penbleth, holodd yr Arglwydd am hyn.

“Arglwydd,” meddai, “addewaist mai unwaith y penderfynwn dy ddilyn
y byddet yn cerdded gyda mi yr holl ffordd,
ond sylwaf ar adegau mwyaf helbulus fy mywyd
mai un set o olion traed yn unig a welaf.
Mae'n anodd deall, pan oeddwn dy angen fwyaf,
nid oeddet ar gael.”

Meddai'r Arglwydd, “Fy mhlentyn annwyl, rwy'n dy garu ac ni'th adawaf fyth.
Yng nghanol dy ddioddef a'th dreialon,
pan nad oedd ond un set o ôl traed i'w gweld
– dyna'r adeg yr oeddwn yn dy gario di.”



GWEDDI'R ARGLWYDD

Ni fedraf ddweud EIN
os ydw i'n hunanol fy ysbryd.

Ni fedraf ddweud TAD
os na ddangosaf y berthynas yn fy mywyd beunyddiol.

Ni fedraf ddweud YR HWN WYT YN Y NEFOEDD
os ydw i'n meddwl mwy am y ddaear ac yn storio trysor i mi fy hun.

Ni fedraf ddweud SANCTEIDDIER DY ENW
os nad ydw i, a elwir yn Ei enw, yn sanctaidd.

Ni fedraf ddweud DELED DY DEYRNAS
os nad ydw i'n gwneud popeth i'w hyrwyddo.

Ni fedraf ddweud GWNELER DY EWYLLYS
os ydw i'n cwestiynu, yn ddigofus ac yn anufudd i'w ewyllys Ef.

Ni fedraf ddweud MEGIS YN Y NEF, FELLY AR Y DDAEAR HEFYD
os nad ydw i'n barod i gysegru fy mywyd iddo Ef.

Ni fedraf ddweud DYRO I NI HEDDIW EIN BARA BEUNYDDIOL
os nad ydw i'n byw ac yn gweithio'n gyfiawn.

Ni fedraf ddweud MADDAU I NI EIN DYLEDION FEL Y MADDEUWN NINNAU I'N DYLEDWYR
os ydw i'n genfigennus o rywun ac yn casáu eraill.

Ni fedraf ddweud AC NAC ARWAIN NI I BROFEDIGAETH
os ydw i'n rhoi fy hunan yn fwriadol mewn sefyllfa i gael fy nhemtio.

Ni fedraf ddweud EITHR GWARED NI RHAG DRWG
os nad ydw i'n fodlon ymladd drwg yn ysbrydol ag arf gweddi.

Ni fedraf ddweud CANYS EIDDOT TI YW'R DEYRNAS
os nad ydw i'n ymddwyn yn ffyddlon i Iesu Grist.

Ni fedraf ddweud A'R NERTH
os byddaf ofn beth a feddyliai dynion a chymdogion ohonof.

Ni fedraf ddweud A'R GOGONIANT
os ydw i'n chwilio am ogoniant i mi fy hun.

Ni fedraf ddweud YN OES OESOEDD
os ydyw fy ngorwel yn rhwym wrth amser dyn ac nid wrth y tragwyddol.

Elwyn Parri, Caerffili
(O'r Goleuad, 9 Medi 2005)


Y Deg Gorchymyn
Yn ddiweddar bu i Sianel 4 ofyn am ddeg gorchymyn mwy cyfoes na'r rhai a roddwyd i Moses ar fynydd Sinai.
Rhestrir isod y deg a ddaeth i'r brig.
Sut maent yn cymharu â'r gwreiddiol yn eich barn chi?
Mae'n debyg fod y gorchymyn cyntaf ymhell ar y blaen i'r gweddill.

1) Gwna i eraill fel y dymunet i eraill wneud i ti

2) Cymer gyfrifoldeb am dy weithredoedd

3) Na ladd

4) Bydd yn onest

5) Na ladrata

6) Gwarchod a meithrin dy blant

7) Gwarchod yr amgylchedd

8) Cymer ofal o'r diamddiffyn

9) Paid byth â bod yn dreisgar

10) Gwarchod dy deulu



Am fyfyrdodau eraill ar ddechrau blwyddyn newydd, cliciwch yma

Am fyfyrdodau eraill ar gyfnod y Grawys a'r Pasg, cliciwch yma

Am fyfyrdodau eraill ar y Pentecost, cliciwch yma

Am fyfyrdodau eraill ar ddiolchgarwch, cliciwch yma

Am fyfyrdodau eraill ar y Nadolig, cliciwch yma

Am weddïau ar gyfer achlysuron amrywiol, cliciwch yma

Am wasanaethau Cymorth Cristnogol, cliciwch yma





©Hawlfraint Ymddiriedolwyr Capel y Garn yw cynnwys gwreiddiol y safle. All original material on the site is copyright by the Trustees of Capel y Garn.
Crewyd y wefan/Website created by Technoleg Taliesin Cyf. - Admin/Gweinyddu