Yn ychwanegol at y gwasanaethau a gynhelir yn y capel bob Sul, mae nifer o weithgareddau eraill yn cael eu cynnal yma.
Dyma rai ohonyn nhw.

Mae'r
Grŵp Help Llaw yn cyfarfod am 2.30 o'r gloch bob prynhawn Mercher, ac eithrio'r prynhawn Mercher cyntaf yn y mis a thymor y gwyliau.
Gallwch droi i mewn am gwmni a mwynhau paned a sgwrs, ac os dymunwch hynny, gallwch ymuno mewn gweithgareddau i estyn llaw i'r anghenus, e.e. gwau i Lithuania, casglu bwyd i Bosnia, a pharatoi bocsys Operation Christmas Child, i enwi rhai. Rydym yn cofio hefyd am elusennau yng Nghymru ac achosion lleol.
Mae'r gwahoddiad yn agored i bawb, croeso cynnes i chi.
Shân Hayward
Ysgrifennydd
(01970 828268)

Mae
chwiorydd y Garn yn cyfarfod yn fisol am 2 o'r gloch ar y dydd Mercher cyntaf yn y mis o Fedi hyd Ebrill.
Nod y cyfarfod yw helpu i gynnal y gymdeithas o fewn a thu allan i'r Eglwys gyda defosiwn a siaradwr/wraig, a mwynhau sgwrs dros baned o de. Rhydd y casgliad gyfle hefyd i gyfrannu ychydig at sawl achos da.
Mae croeso i unrhyw un droi i mewn atom.
Elen Evans
Ysgrifennydd

Mae'r
gymdeithas yn cwrdd yn fisol o fis Hydref hyd fis Mawrth, gan wahodd gwahanol siaradwyr i'n hannerch. Mae'r testunau'n amrywio o'r llenyddol i'r cyffredinol.
Cynhelir y cyfarfodydd ar nos Wener am 7.30 o'r gloch.
Croeso cynnes i chi ymuno gyda ni.
Mary Thomas
Ysgrifennydd
(01970 828772)
Mae gan Gapel y Garn draddodiad cerddorol llewyrchus iawn sy'n ymestyn yn ôl i gyfnod J T Rees, un a wasanaethodd y capel am dros drigian mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwn sefydlwyd a ffynnodd yr 'Ysgol Gân' a 'Cymanfa Ganu Dosbarth y Garn'.
Olynwyd J T Rees a Tom Jones, Felin Gyffin, gan y ddau frawd William Llewelyn ac Alfred Edwards. Ar eu hôl hwy parhawyd i hyfforddi cantorion ar gyfer y gymanfa ganu gan ddwy o ddisgyblion J T Rees: Gaenor Hall yng ngofal yr oedolion a Bethan Jones yng ngofal y plant. Yn ystod nawdegau'r ganrif ddiwethaf cynorthwywyd Gaenor a Bethan gan Alan Wynne Jones, Mair Evans a Llio James.
Yn sgil cyhoeddi Caneuon Ffydd penderfynwyd cael un detholiad cyffredin ar gyfer cymanfaoedd canu pob enwad anghydffurfiol. Cam naturiol, felly, oedd i holl gapeli gogledd-orllewin Ceredigion uno i gynnal un gymanfa ganu yn flynyddol, a digwyddodd hynny am y tro cyntaf yng Nghapel Bethel, Aberystwyth, yn 2004.
Cynhaliwyd Cymanfa 2007 ddydd Sul, 13 Mai, yng nghapel Bethel, Tal-y-bont. Cafwyd oedfa deuluol yn y bore ar y thema 'Ffrindiau', a chymerwyd rhan gan blant ac ieuenctid yr ysgolion Sul. Y gŵr gwadd oedd Ifan Gruffydd, Tregaron, ac fe gafwyd gair pwrpasol ganddo. Arweiniwyd cymanfa'r oedolion yn yr hwyr gan Alan Wynne Jones, ac fe gafwyd oedfa fendithiol iawn o ganu mawl dan ei arweiniad.