Agorwyd ysgoldy Bethlehem yn 1876
ac yn ogystal â pharhau i fod yn gangen werthfawr o Eglwys y Garn,
mae hefyd yn fan cyfarfod hwylus i bentref Llandre.

Bydd dosbarth ysgol Sul i oedolion yn cwrdd yma'n rheolaidd
am 2 o'r gloch ar brynhawn Sul,
a chynhelir oedfa yma'n achlysurol am 5 o'r gloch ar y Sul.
Eitem bwysig yng nghalendr blynyddol yr Eglwys yw Te Bethlehem,
a gynhelir fel arfer ar nos Wener yn ystod mis Mehefin.
Beth yw angel?
Beth yw gwerth a pheryglon defodau a seremonïau allanol crefydd?
Ydy twyll yn bechod?
Pam na chafodd Jacob ei gosbi am dwyllo Esau?
A yw Duw'n mynegi ei fwriadau drwy freuddwydion?
Dyma rai o'r cwestiynau y bu'r Ysgol Sul yn ymgiprys â nhw wrth ddarllen Llyfr Genesis, oblegid dyna lle buom yn pori oddi ar fis Medi y llynedd, a chael blas mawr ar ddarllen yr hen hanesion am ddechreuadau cenedl Israel.
Mae'r awr fer ar b'nawn Sul yn hedfan; mae'r cyfle i rannu barn a chwestiwn yn amheuthun, a geiriau'n cael eu dihuno o ddyfnder y cof i sigo'r ymysgaroedd, megis cwestiwn dirdynnol Isaac i'w dad Wele dân a choed; ond ble mae oen y poeth offrwm?
Erbyn troad y flwyddyn roeddem wedi cyrraedd y stori orau ohonyn nhw i gyd, sef hanes Joseff. Campwaith yn wir.
Cawsom ein harwain o'r dechrau pan oedd Joseff yn hogyn ifanc deallus, (a gorhyderus efallai?) a oedd yn destun cenfigen i'w frodyr, drwy hanes y dial, y llwyddiant a'r siomiant a'r dial eto, at y cymodi gorfoleddus, sy'n glo fwy na theilwng i stori a ddechreuodd gyda'r fath dwyll a dichell.
Drwy'r cyfan mae'r storïwr yn llwyddo i'n cadw ar flaenau'n seddau gyda thensiwn a rhyddhad yn eilio â'i gilydd.
Ac onid yw Joseff yn ddyn gwerth ei nabod yn baragon o ddyn yn unplyg a doeth, yn ddeallus ac yn olygus. Does ryfedd yn y byd bod gwraig Potiffar wedi rhoi ei chrafangau ynddo. Er ei holl rinweddau lwyddodd e ddim i ddianc yn holliach rhag ei hystryw, ond gan fod yr Arglwydd gydag ef, trodd y camwedd yn gyfle.
Ymlaen at Efengyl Ioan yn awr
a diolch i Gwenda am gadw trefn
ac i Gaenor am sicrhau llewych i'n llwybrau.
Llinos Dafis, Mawrth 2006
Yn ddiweddar bu i Sianel 4 ymofyn am ddeg
gorchymyn mwy cyfoes na'r rhai a roddwyd i Moses
ar fynydd Sinai.
Rhestrir isod y deg ddaeth i'r brig.
Sut maent yn cymharu â'r gwreiddiol yn eich barn
chi?
Mae'n debyg fod y gorchymyn cyntaf ymhell ar y
blaen i'r gweddill.
1. Gwna i eraill fel y dymunet i eraill ei wneud i ti
2. Cymer gyfrifoldeb am dy weithredoedd
3. Na ladd
4. Bydd yn onest
5. Na ladrata
6. Gwarchod a meithrin dy blant
7. Gwarchod yr amgylchedd
8. Cymer ofal o'r diamddiffyn
9. Paid byth â bod yn dreisgar
10. Gwarchod dy deulu
Mwynhaodd y criw bach ohonom sydd yn mynychu'r Ysgol Sul yn Ysgoldy Bethlehem drafod y 'Deg Gorchymyn cyfoes'.
Nid peth hawdd yw crynhoi'r ymateb gan fod cryn wahaniaeth rhwng safbwyntiau gwahanol unigolion, ond cawsom dipyn o hwyl wrth drafod.
Sylwyd bod rhai o'r gorchmynion gwreiddiol yno yn eu crynswth, megis 'Na ladd' ac 'Na ladrata' ond nad oedd sôn am 'Na odineba', ' Na chwennych
dim sydd yn eiddo i'th gymydog', na chwaith 'Cofia'r dydd saboth i'w gadw'n gysegredig'.
'Gwna i eraill fel y dymunet i eraill wneud i ti' oedd y gorchymyn cyntaf ymhlith y rhai newydd. Ymateb ambell un i hwn oedd ei fod yn rhy 'Fi' ganolog, a'i fod fel petai yn mynd yn groes i'r egwyddor Gristnogol o roi eraill yn gyntaf a bod yn hunanaberthol fel yr Arglwydd Iesu ei hun.
Ymateb gwahanol oedd gan eraill, gan gyfeirio at yr adnodau yn Efengyl Luc sydd yn arwain at ddameg y Samariad Trugarog. Dywedir yno wrthym y dylem weithredu yn ôl cyfraith yr Hen Destament, fel a ganlyn, i etifeddu bywyd tragwyddol: 'Câr yr Arglwydd dy Dduw â'th holl galon ac â'th holl enaid ac â'th holl nerth ac â'th holl feddwl, a châr dy gymydog fel ti dy hun'
'Gwna hynny a byw fyddi' oedd geiriau Iesu ei hun.
Cafwyd trafodaeth hefyd ar briodoldeb geirio'r chweched gorchymyn 'newydd', sef 'Gwarchod a meithrin dy blant'. Mynegwyd eto'r teimlad fod yna rywbeth 'myfïol' am hwn. Cododd y cwestiwn a oedd hwn yn adleisio'r cwestiwn 'Pwy yw fy nghymydog?' sef Pwy yw fy mhlant?; ai fy mhlant fy hun yn unig, ynteu plant fy nghymdogaeth, plant fy nhylwyth, ynteu plant y byd cyfan?
Y degfed gorchymyn newydd oedd 'Gwarchod dy deulu'.
Nid pawb oedd yn gweld gwerth mewn gwahaniaethu rhwng plant a theulu fel hyn. Gallem weld fod yna berthynas rhwng hwn a'r hen orchymyn nas cynhwyswyd, sef 'Anrhydedda dy dad a'th fam
' Arweiniodd hyn at drafod gofal am yr henoed, a'r math o ofal a ddymunem ein hunain. Mewn gwirionedd soniwyd mwy am bethau a fyddai'n gas gennym, megis gorfod bwyta bwyd heb fod o'n dewis ein hunain, neu wylio rhaglenni teledu heb fod at ein dant!

Ceisiwyd wynebu'r rheswm hefyd pam na sonnir am odinebu a chwennych. Yr oedd ambell un yn teimlo fod yma ymdrech i ymestyn at bobl heddiw, a'r mwyafrif ohonynt wedi troi cefn ar eglwys a chapel. Byddai llawer o bobl hefyd yn eu gweld fel llefydd a fyddai yn condemnio eu ffordd o fyw, gydag un o bob tair priodas yn diweddu mewn ysgariad, a chyd-fyw heb briodi yn gyffredin iawn. Fe geision ni fynd i'r afael â'r hyn a ddywedodd Iesu, fod chwenychu yn y galon cynddrwg â'r weithred.
Arweiniodd hyn at drafod y graddau y gellid rheoli'r meddwl a sut y gellid meithrin sancteiddrwydd yn y meddwl, a meithrin natur o gariad. Nodwyd, fodd bynnag, ei bod yn fwy anodd i rywun â natur 'cleptomania' ynddo gadw'r gorchmynion i beidio chwenychu a lladrata na'r rhelyw o bobl.
Yr oedd ymwybyddiaeth fod cryn wahaniaeth rhwng ein bywyd ni heddiw a bywyd pobl yng nghyfnod Moses. Nid rhyfedd na chyfeiriwyd at chwennych asyn cymydog, na chadw'r saboth, gydag asyn wedi peidio â bod yn rhywbeth y byddai llawer yn ei ddeisyfu yn ein gwlad ni heddiw, a'r Sul cyfoes yn cynnig cyfle i deuluoedd gael siopa'n hamddenol gyda'i gilydd neu fwynhau bwyta allan, neu gyfle i fyfyrwyr gael ennill arian at eu cadw, dyweder.
Er bod ambell un yn teimlo mai glastwreiddio'r Deg Gorchymyn gwreiddiol, a bod yn rhy feddal, sydd yn y Deg Gorchymyn 'mwy cyfoes', ar y cyfan credaf fod yna gytundeb gweddol rhyngom fod gwneud i eraill fel y dymunem iddynt hwy wneud i ninnau yn cwmpasu'r cyfan ac y gallai'r tinc personol ynddynt alluogi mwy ohonom i uniaethu â hwy a gweld eu perthnasedd i'n bywydau bob dydd.
Felicity Roberts