Trown at yr Arglwydd mewn eiliadau o ddistawrwydd
cyn myfyrio gyda'r emynydd:
'Distewch, cans mae presenoldeb Crist,
y sanctaidd Un gerllaw,
Dewch, plygwch ger ei fron
mewn dwfn, barchedig fraw,
Dibechod yw efe,
lle saif mae'n sanctaidd le,
Distewch, cans mae presenoldeb Crist,
y sanctaidd Un gerllaw.'
Diolch iti, Arglwydd, ein bod ni weithiau
yn medru encilio i ddistawrwydd
o sŵn y byd a'i boen,
o ruthr beunyddiol ein bywyd,
o sŵn cleber dynion,
o ddadlau dyddiol ein byd,
o floedd y dorf a'r doethinebu teledol a'r sgwrsio gwag.
Diolch am yr eiliadau gwâr, sanctaidd
pryd y medrwn synhwyro'r presenoldeb dwyfol.
Yn y dwys ddistawrwydd hwn,
torred dy leferydd ar ein clyw.
Bydd yn gymorth i ni wynebu'r flwyddyn sydd yn agor o'n blaen
megis dalen newydd lân.
Rho gymorth i ni werthfawrogi'r distawrwydd a'r dwyfol
yng nghanol galwadau seciwlar ein bywyd.
Gwrandawn eto ar eiriolaeth yr emynydd:
'Distewch, cans gogoniant Crist ei hun
o'n cylch lewyrcha'n gry.
Fe lysg â sanctaidd dân,
mawr ei ysblander fry.
Brawychus yw ei nerth,
Breswylydd mawr y berth.
Distewch, cans gogoniant Crist ei hun,
lewyrcha'n gry.'
Yn y distawrwydd, dysg ni i dderbyn y goleuni tragwyddol
a ddaw o'th ogoniant,
y golau a rydd i'n difaterwch materol
ias o obaith,
golau sy'n dangos i'r di-fai
edifeirwch,
y goleuni a lysg ymaith ein hunanoldeb megis sofl sych.
O Arglwydd, dysg ni i blygu
yn ostyngedig o flaen y goleuni,
fel yr agorwn ein calonnau
i wres yr ysbryd sanctaidd
a fydd yn ein cyfarwyddo drwy'r flwyddyn newydd.
A dyma'r emynydd eto yn erfyn arnom:
'Distewch, cans mae nerth yr Arglwydd Iôr
yn symud yn ein plith,
Daw i'n hiacháu yn awr,
gweinydda'i ras fel gwlith.
Fe glyw ein hegwan lef,
drwy ffydd derbyniwch ef.
Distewch, cans gogoniant Crist ei hun,
lewyrcha'n gry.'
Yn y distawrwydd, Arglwydd, cryfha ein ffydd
fel y sylweddolwn y pŵer mawr
sydd yn dy gariad tuag atom.
Weinyddwr mawr grasusau bywyd,
cynheuwr y berth sy'n llosgi heb ei difa,
diolchwn iti am fendithion y flwyddyn a aeth heibio.
Erfyniwn am dy bresenoldeb,
am dy gwmni wrth rodio
ar ffyrdd troellog y flwyddyn hon eto,
a chael teimlo dy nerth yn ein cynnal
wrth ymgodymu â beunyddiol alwadau'r dydd.
Bydded i ni gerdded allan o ddistawrwydd ein hencil
yn gryfach a gloywach eneidiau
i wynebu rhuthr y byd
a phwys ei oruchwylion diderfyn,
yn eneidiau cytûn
a fydd yn deilwng o'th deyrnas di,
yn oleuni i'n cyd-fforddolion ar y troeon tywyll.
Ac yn y goleuni,
bydded i ni brofi'r iechyd ysbrydol
a'n gwna ni yn ddinasyddion cymwys
i gerdded llwybrau'r flwyddyn neweydd hon
i'w therfyn.
Mawrygwn y distawrwydd,
a'r eiliadau tawel i gymuno â thi,
a diolchwn am fendithion
yr awr dawel
yn dy gwmni. Amen.
Vernon a Dilys Jones
©Hawlfraint Ymddiriedolwyr Capel y Garn yw cynnwys gwreiddiol y safle. All original material on the site is copyright by the Trustees of Capel y Garn.
Crewyd y wefan/Website created by
Technoleg Taliesin Cyf. -
Admin/Gweinyddu