Eglwys Bresbyteraidd Cymru / The Presbyterian Church of Wales
Capel y Garn, Bow Street
 Gweinidog: Parch. Wyn Rhys Morris, Berwynfa, Penrhyn-coch, Aberystwyth, SY23 3EW. 01970 820939
 Ysgrifennydd: Mr Alan Wynne Jones
Y Capel
 

Er cof am Mrs Elinor Pepper


Gyda marwolaeth Elinor y Dolau - Mrs Jane Elinor Pepper, Llys Iwan, y Dolau gynt - ar Dachwedd 12fed eleni, daeth cenhedlaeth o deulu'r Dolau i ben. Hi oedd plentyn ieuengaf Marged a John Edmund Jones. Cafodd hi a'i brawd Hywel Iwan a'i chwaer Gwenllian eu magu ynghanol prysurdeb y cwmni adeiladwyr a sefydlodd ei hen dad-cu, Thomas Jones, yn y Dolau. Bu'r cwmni yn un o brif gyflogwyr yr ardal am gyfnod o ganrif fwy neu lai. Eu gwaith nhw yw nifer fawr o'r tai a welir o gwmpas Bow-Street, Llandre, y Borth a Thal-y-bont, heb sôn am y Dolau ei hunan. John Edmund Jones ddaeth yn bennaeth ar y cwmni ar ôl dyddiau ei dad ac er gwaethaf ei ddallineb gallai adnabod gwaith crefftwr da drwy gyffyrddiad ei law; doedd dim maddeuant i waith nad oedd yn cyfarfod â'i safon.

Mynychodd y tri phlentyn Ysgol Rhydypennau ac Ysgol Ardwyn, ond lladdwyd Hywel yn 1929 mewn damwain, pan fu ei feic mewn gwrthdrawiad â bws, ac yntau'n ddim ond pymtheg oed. Aeth Gwenllian yn ei blaen i astudio'r Gymraeg yn y Brifysgol a mynd yn athrawes yn Ysgol Ferched y Barri, lle bu gydol ei hoes, a dod yn ddirprwy brifathrawes ac yn brifathrawes weithredol ar yr ysgol. Bu hi farw yn 1987.

Gwyddor tŷ oedd arbenigedd Elinor. Bu'n athrawes yn ysgolion uwchradd Tywyn ac Amwythig, wedyn aeth yn ddarlithydd yng Ngholeg Gwyddor Tŷ Manceinion, yna symud i Goleg y Frenhines Elisabeth yn Llundain, a mynd yn ôl wedyn yn uwch-ddarlithydd i Goleg Manceinion.

Un fach dwt oedd hi o ran maint, yn llawn egni ac asbri, yn gogydd gwych ac yn gerddor dawnus - fel cymaint o aelodau ei theulu - ac yn chwarae'r ffidil yn ddeheuig. Mae Gaenor Hall, merch i gyfnither i Elinor, yn cofio'n dda am y ddwy chwaer pan oedd hi'n blentyn ifanc, yn enwedig am eu cerddediad mân a buan, a'r hwyl yn y Dolau pan fyddden nhw'n dod adref am eu gwyliau - yn aml iawn ar ôl bod ar deithiau tramor gyda'i gilydd; fe gafodd hi'r fraint o fwynhau aml i saig hynod flasus o waith Elinor hefyd.

Symudodd Elinor a'i gŵr Martyn i'r hen gartref yn Llys Iwan ar ôl ymddeol, a dod yn aelodau ffyddlon o Gapel y Garn. Ar ôl sawl blwyddyn hapus yno torrodd ei hiechyd a bu'n wael am rai blynyddoedd, ac er iddi orfod symud o'r Dolau yno roedd ei chalon o hyd. Ei geiriau dealladwy olaf i Gaenor ac Eric Hall, ar eu hymweliad olaf â hi yn Hafan y Waun, oedd ?Drychwch chi ar ôl y Dolau, mae'r Dolau'n bwysig!?

(Cyhoeddwyd y deyrnged hon yn wreiddiol yn Y Tincer, Rhagfyr 2008)


©Hawlfraint Ymddiriedolwyr Capel y Garn yw cynnwys gwreiddiol y safle. All original material on the site is copyright by the Trustees of Capel y Garn.
Crewyd y wefan/Website created by Technoleg Taliesin Cyf. - Admin/Gweinyddu