Eglwys Bresbyteraidd Cymru / The Presbyterian Church of Wales
Capel y Garn, Bow Street
 Gweinidog: Parch. Wyn Rhys Morris, Berwynfa, Penrhyn-coch, Aberystwyth, SY23 3EW. 01970 820939
 Ysgrifennydd: Mr Alan Wynne Jones
Y Capel
 

Crefydd ac Esblygiad


Steve Jones a Darwin


Ym mis Chwefror 2009 dathlodd gwyddonwyr ledled y byd ddaucanmlwyddiant geni Charles Darwin. Ganrif a hanner yn ôl, yn ei lyfr On the Origin of Species by Means of Natural Selection, cyhoeddodd Darwin ei ddamcaniaeth fod pob rhywogaeth wedi dechrau o'r un ffynhonnell o fywyd ac wedi cyrraedd ei ffurf bresennol drwy broses o esblygu a dethol naturiol, a bod y broses yn parhau. Roedd y Cymro Alfred Russel Wallace wedi dod i'r un casgliad tua'r un pryd, ond Darwin ysgrifennodd y llyfr! Byth oddi ar hynny Esblygiad a Dethol Naturiol yw geiriau allweddol bioleg.

Yn 1999, i gyd-fynd â'r mileniwm, cyhoeddodd y genetegydd Steve Jones lyfr dan y teitl Almost Like a Whale, sy'n ail-ddatgan damcaniaeth Darwin ac yn diweddaru yr hyn a ŵyr y lleygwr amdani yng ngoleuni'r wybodaeth a'r technegau gwyddonol newydd, megis meicrosgopeg, a ddatblygodd oddi ar 1859. Yn ei farn ef, yr Origin of Species oedd llyfr y Mileniwm, “heb unrhyw amheuaeth”. Lawn mor bwysig i ni, o ran geneteg, yw bod hanner gwreiddiau Steve Jones yn gadarn yng Nghapel y Garn – roedd ei dad-cu o ochr ei fam – John Morgan, Bodhywel – yn fab i fferm Pwll-glas, yn frawd i Arthur Morgan, tad Nest Davies. Mae Steve Jones felly'n or-or-ŵyr i William Morgan, un o weinidogion cyntaf Capel y Garn (tua 1871–1915), ac yn gyfyrder i Lowri, Fron-ddêl.

I uno yn y dathliad, er ychydig yn hwyr, dyma roi cip ar beth o'r hyn sydd gan Steve Jones i'w ddweud. Ei fwriad, meddai, yw cyflwyno dadl “a fydd, rwy'n hyderu, yn darbwyllo fy narllenwyr o wirionedd esblygiad”. Gyda'i frwdfrydedd taer ynghylch ei bwnc, ehangder ei wybodaeth a'i ddealltwriaeth, a'i ffraethineb a'i ysgolheictod yn pefrio drwy'r llyfr, dim ond celain oer allai wrthsefyll ei ymdrech.

Mae pob gwyddonydd bellach yn derbyn gwirionedd canolog yr Origin, meddai. Oherwydd arafwch proses esblygu roedd hi'n ambosibl i Darwin gynnig prawf anwadadwy o wirionedd ei ddamcaniaeth ar y pryd. Rhoi sail newydd ar gyfer astudio bywyd wnaeth e, nid rhoi darlun cyfan gorffenedig. Roedd Darwin ei hun yn ymwybodol o'r bylchau yn y dystiolaeth. Mae gwyddonwyr eraill dros y ganrif a hanner oddi ar hynny wedi gwneud darganfyddiadau gwerthfawr sydd wedi llenwi aml i dwll, megis Mendel a'i ymchwil i etifeddiaeth, a'r gwaith diweddar ar eneteg. Mae'r darlun yn dal i fod heb ei gyfannu'n llwyr, er hynny.

Yr hyn sydd wedi bod yn fodd i gadarnhau'r ddamcaniaeth yn ystod y degawdau diwethaf yw'r firws AIDS, sy'n epilio'n gyflym iawn ac felly mae hi wedi bod yn bosibl gweld newidiadau esblygiadol yn digwydd o dan y meicrosgop. Fel y dywed Steve Jones: “Mae hanes firws AIDS, cynnyrch mwyaf newydd natur a'r lleiaf o ran ei faint, bron yn gyfan, a hanes y morfil – yr anifail mwyaf i'w weld erioed – yn dameidiog, ond maen nhw'n gefndryd dan y croen. Gellir gweld y newid yn firws AIDS dan feicrosgop; yr un yw proses y morfil ond yn cael ei gweld dros oesoedd hir drwy delesgop biolegol.”

Bu llawer o gamddealltwriaeth a chamddefnyddio ar waith Darwin. Nid 'trechaf treisied, gwannaf gwichied' yw ystyr dethol naturiol, yn hytrach ei hanfod yw mai tras y bodolyn sy'n goroesi ac yn epilio – yr epilio sy'n bwysig – fydd yn parhau. Yng ngeiriau Steve Jones: “Mae dethol naturiol yn syml. Nid ffafrio harddwch, neu nerth, neu ffyrnigrwydd mae natur; y cyfan y mae'n ei wneud yw hyrwyddo'r rhai hynny sy'n gallu epilio orau.”

Doedd gan Darwin, a does gan Steve Jones, ddim amynedd at yr “ymdrechion plentynnaidd” (geiriau SJ) a gafwyd i gymhwyso damcaniaeth dethol naturiol yn yr ystyr “trechaf treisied” at ddatblygiad cymdeithas, Darwiniaeth gymdeithasol fel y'i gelwid. Does dim honiad chwaith bod esblygiad a dethol naturiol yn ateb pob cwestiwn ynghylch yr hyn ydyn ni. “Dweud wrthym ein bod ni wedi esblygu mae bioleg; mae'r hyn sy'n ein gwneud ni'n ddynol, ar y cyfan, y tu hwnt iddo” yw geiriau diymhongar Steve Jones.

I gloi gyda dyfyniad arall o Almost like a Whale: “Mae'n bosib profi pob rhan o thesis Darwin. Mae'r cliwiau – o ffosilau, genynnau neu ddaearyddiaeth – yn amrywio ymhob achos, ond o bob un ohonyn nhw daw'r casgliad bod bywyd i gyd yn perthyn i'w gilydd. Nid dim ond honiad yw hyn, ond cadwyn o ddidwytho gyda phob dolen yn gyfan.” Mae'r creadyddion (creationists) sy'n gwadu'r gwirionedd hwn ac yn mynnu dysgu'r esboniadau cyn-esblygiadol mewn ysgolion yn “dweud celwydd” wrth blant, meddai. Pam anwybyddu gwybodaeth a hyrwyddo anwybodaeth?

(Llinos Dafis, 'Gair o'r Garn', Gwanwyn 2009)

'Steve Jones a Darwin' - ymateb


Fel Cristnogion sy'n honni nabod Duw a chredu'r Beibl, credaf na allwn mewn unrhyw ffordd gytuno â damcaniaeth esblygiad. Os ydi esblygiad yn wir, ni all y Beibl fod.

Fel gwyddonwraig â gradd anrhydedd mewn 'Anatomical Science' a gradd mewn Milfeddygaeth, yr wyf wedi fy nhrwytho yn y ddamcaniaeth drwy gydol fy ngyrfa addysgiadol, ond rwyf wedi dod i'r canlyniad fod yr eglurhad yma o ddatblygiad dynolryw yn codi mwy o gwestiynau ac yn ateb dim.

Yn y Beibl mae Genesis 1 yn dweud wrthym y crëwyd y morfilod mawr, yr holl greaduriaid byw sy'n heigio yn y dyfroedd, pob aderyn asgellog, yr anifeiliaid, ymlusgiaid a'r bwystfilod gwyllt gan Dduw “yn ôl eu rhywogaeth” ond y crëwyd dyn yn nelw Duw (Gen. 1:27): “Felly creodd Duw ddyn ar ei ddelw ei hun; ar ddelw Duw y creodd ef; yn wryw ac yn fenyw y creodd hwy.” Fel gwyddonwraig sydd hefyd yn Gristion, rwy'n credu gair Duw am y cread. Cyfaddefodd Syr Arthur Keith, a ysgrifennodd y rhagair i The Origin of Species (100fed argraffiad): “Evolution is unproved and unprovable. We believe it only because the only alternative is special creation, and this is unthinkable.”

Os cymerwn ni sy'n proffesu i fod yn Gristionogion hanes y cread yn ffigurol, a dewis a dethol yr hyn yr hoffem ei fod yn wir, ble mae'n gorffen? Pa rannau eraill o'r Beibl a ddewiswn eu credu? Mae'r Iesu ei hun yn credu bod y cread yn wir (Marc 13:19; Ioan 1:10) ac yn gosod dyn yno yn y dechreuad, nid ar ddiwedd miliynau o flynyddoedd (Marc 10:6; Luc 11:50–51). Os cytunwn mai dim ond stori ydi hanes y cread, rydym yn diddymu pwysigrwydd Adda ac Efa a'r ffaith mai drwy Adda y daeth pechod i'r byd, a'r rheswm y croeshoeliwyd Crist. Os bu i'r Iesu farw oherwydd stori, beth mae hynny'n ei ddweud? Mae'n tanseilio ein holl ffydd. Heb amheuaeth, rydym ni'n Cristnogion yn rhoi'r adnoddau i anffyddwyr ein diystyru drwy beidio â chredu yr hyn a honnwn i fod yn air ysgrifenedig Duw.

Wedi cyflawni saith mlynedd o addysg uwchradd, darganfyddais wyth mlynedd yn ddiweddarach yr eithafoedd yr aiff rhai gwyddonwyr iddynt er mwyn bytholi'r ddamcaniaeth. Mae'r syniad fod embryo dynol yn pasio drwy'r gwahanol bwyntiau esblygiadol (e.e. tagell pysgodyn, cynffon, a.y.y.b.) yn ystod misoedd cynnar ei ddatblygiad yn y groth – 'Hackel's theory of embryonic recapitulation', fel y'i gelwir – yn ymddangos mewn aml i werslyfr ac wedi ei ddysgu'n ffaith i genedlaethau niferus o ddisgyblion ysgol; mae Hackel ei hun wedi cyfaddef mai twyll ydyw [Creation, 20(2), 49–51, Mawrth 1998] ond ei fod yn cael ei ddehongli er mwyn hyrwyddo damcaniaeth Darwin. Dyw hon ond un enghraifft o lawer niferus a allwn eu cyflwyno o ymgeisiadau tywyllodrus gwyddonwyr i brofi'r amhrofadwy.

Er mwyn i greadur syml, ungellog, esblygu yn greadur cymhleth, amlgellog, yn dybiedig dros filiynau o flynyddoedd, mae gwybodaeth genetaidd ychwanegol yn angenrheidiol, ond o ble y daw'r wybodaeth hon? Mae trawsblygiadau, y modd y mae gwybodaeth genetig yn newid, yn ddi-ball yn arwain at golled mewn gwybodaeth genetig. Dyw Richard Dawkins, yr esblygwr efengylaidd nodedig, ddim hyd yn oed yn medru meddwl am un enghraifft lle mae trawsblygiad yn arwain at gynnydd mewn gwybodaeth genetig. [Gweler DVD, 'From a Frog to a Prince', Creation Ministries International]

Os ydym ni sy'n Gristionogion am dderbyn comisiwn Crist yn Mathew 18:19–20: “Ewch, gan hynny, a gwnewch ddisgyblion o'r holl genhedloedd, gan eu bedyddio hwy yn enw'r Tad a'r Mab a'r Ysbryd Glân, a dysgu iddynt gadw'r holl orchmynion a roddais i chwi”, ond yn gwrthod gwirionedd Genesis, sylfaen athrawiaeth y Beibl, yn gyfnewid am ddamcaniaeth, rydym yn colli'r pwynt yn llwyr ac yn colli'r frwydr i ennill eneidiau at Grist.

Os hoffai unrhyw un ragor o wybodaeth, byddaf yn barod i siarad â chi ymhellach, neu eich cyfeirio at y llyfrau / erthyglau priodol. Hefyd, edrychwch ar www.AnswersInGenesis.com; www.CreationOnTheWeb.com.

(Sharon King, 'Gair o'r Garn', Haf 2009)

Crefydd ac Esblygiad


Yn y rhifyn diwethaf o 'Gair o'r Garn' cyhoeddwyd ymateb Sharon King i adroddiad Llinos Dafis am ddaliadau Darwinaidd disgynnydd i un o gyn-weinidogion y Garn, y gwyddonydd adnabyddus Steve Jones. Mae'n datgan yn ddiflewyn-ar-dafod nad oes modd cysoni derbyn damcaniaethau Darwin am esblygiad a chynnal ffydd Gristnogol heddiw.

Cyhoeddwyd ei Origin of Species union gant a hanner o flynyddoedd yn ôl yn 1859 ac yn aml ers hynny portreadwyd y ddadl rhwng Darwin a'i wrthwynebwyr crefyddol yn nhermau rhyfel rhwng gwyddoniaeth a chrefydd. Cefnogir y darlun hwn o frwydr rhwng y ddwy gan anffyddwyr cyfoes fel Richard Dawkins, awdur The God Delusion, sydd wedi gwerthu miloedd lawer o gopïau. Ei honiad sylfaenol yw fod syniadau Darwin am esblygiad wedi disodli'r angen am gredoau crefyddol un waith ac am byth. Ond dylid cofio nad oedd Darwin ei hun yn gysurus â'r darlun hwn o ryfel rhwng crefydd a gwyddoniaeth, a gwrthodai'r farn fod credu mewn esblygiad yn arwain yn anochel at anffyddiaeth. Ond, yn sicr, y duedd yn ddiweddar yw uniaethu Darwiniaeth ag atheistiaeth.

Sylwn yr un pryd ar ffenomen drawiadol, sef bod safbwynt ymosodol rhai fel Richard Dawkins, ar y naill law, a safbwynt Cristnogion tra cheidwadol fel Sharon King, ar y llaw arall, yn bwydo ar y syniad fod rhyfel yn anochel rhwng gwyddoniaeth a chrefydd.

'We have reached a situation in which it is often assumed that to be a Christian and to take the Bible seriously automatically entails rejection of Darwin and endorsement of creationism, and conversely that no reputable scientist can possibly be a Christian' (geiriau Martin Wellings yn rhifyn Ebrill eleni o Epworth Review, sydd wedi'i neilltuo i drafodaethau ar Darwin a chrefydd).

Nodwedd o'r oes hon yw creu 'soundbites' eithafol, ac mae gan y ddau eithaf hyn ddiddordeb mewn creu'r fath ddarlun camarweiniol.

Nid felly y mae wedi bod bob amser mewn hanes: e.e. roedd Williams Pantycelyn yn llawn chwilfrydedd am ddarganfyddiadau gwyddonol ei gyfnod am y cread, yn arbennig mewn seryddiaeth, gan fynegi hynny yn ei gerdd fawr 'Golwg ar Deyrnas Crist'. Felly hefyd John Wesley, a oedd yn ymddiddori mewn damcaniaethau gwyddonol a'r datblygiadau diweddaraf ym myd meddygaeth.

Mewn arolwg diweddar o ddwy fil o bobl canfuwyd mai dim ond 37% o bobl y Deyrnas Unedig sy'n credu bod damcaniaeth Darwin am esblygiad i'w derbyn 'heb unrhyw amheuaeth'. Beth, ynteu, mae'r gweddill yn ei gredu? Atebodd 32% eu bod yn derbyn y syniad o 'greadaeth' (creationism), sef bod Duw wedi creu'r byd yn ystod y deng mil blwyddyn diwethaf, a bod hanes y creu yn Llyfr Genesis yn ategu hynny. (Gyda llaw, bellach mae 44% o boblogaeth UDA, gwlad fwyaf ddatblygedig y byd, yn credu felly!) Yna, cred dros hanner y boblogaeth yn y syniad o 'fwriad synhwyrol' (Intelligent Design), h.y. y syniad nad yw esblygiad ynddo'i hun yn ddigonol ar gyfer egluro strwythurau cymhleth rhai pethau byw, ac felly bod angen ymyrraeth cynllunydd, sef Duw, ar rai adegau tyngedfennol yn y broses.

Bellach, daeth creadaeth yn bwnc llosg ym myd addysg a hawliodd rhai crefyddwyr y dylid ei ddysgu ynghyd â'r syniad o fwriad synhwyrol mewn gwersi gwyddonol yn yr ysgolion ochr yn ochr â syniadau Darwin. Ond polisi swyddogol yr Adran Plant,Ysgolion a Theuluoedd yw na ddylid dysgu creadaeth na bwriad synhwyrol fel gwyddoniaeth: 'Most scientists agree that “it is educationally irresponsible to pretend that ... [creationism] deserves scientific discussion”,' medd Jeff Astley mewn ysgrif yn y cylchgrawn Anglicanaidd Theology (Gorff./Awst, 2009). A dywed ymhellach: 'Despite appeals to a “creation science” that claims scientific support for creationist views, much of the literature on creationism reveals little concern for scientific method or argument, and more closely resembles ideological polemic.'

Ac nid damcaniaeth wyddonol yw 'Intelligent Design' chwaith. Nid yw honni bod rhyw elfen mewn bywydeg wedi'i chynllunio yn golygu dim oni bai bod modd archwilio'r honiad hwn gydag arbrofion gwyddonol. Ond, yn ôl yr wybodaeth sydd gennyf i, does dim cyhoeddiadau gwyddonol gan y rhai sy'n arddel y safbwynt hwn. Mae'n debyg felly, fod y rhan fwyaf o fiolegwyr proffesiynol yn gwrthod creadaeth a'r syniad o 'fwriad synhwyrol' fel damcaniaethau boddhaol sy'n disodli damcaniaeth esblygiad.

Wrth gwrs, mater personol a phroffesiynol i Sharon King ei hun yw ei daliadau gwyddonol a'i gwrthwynebiad diwyro i Ddarwiniaeth, ac nid yw'n rhan o'm gorchwyl i yn hyn o lith i geisio'i darbwyllo fel arall. Ond credaf y dylwn geisio dangos bod ei syniadau am y Beibl, ac yn arbennig am yr hyn a ddywed rhannau o'r Beibl am y Creu, yn gyfeiliornus.

Cam dybryd â'r Beibl yw ei drin fel llawlyfr gwyddonol. Nid gwerslyfr gwyddonol ydyw ac nid rhyw fath o 'proto-science' sydd ynddo, ond datganiad o ffydd yn Nuw, ac yn achos penodau agoriadol Llyfr Genesis, ffydd yn Nuw fel Creawdwr cyrrau'r ddaear. Delio ag ystyr y mae'r adroddiad yn Genesis, a dyna'r gwahaniaeth rhwng crefydd a gwyddoniaeth a dynnodd y biolegydd cyfoes Theodosius Dobzhansky: 'Science and religion deal with different aspects of existence ... One may say that these are the aspect of fact and the aspect of meaning.' Felly, gwerslyfr diwinyddol ydyw, a dylid ei barchu a'i ddefnyddio i'r pwrpas hwnnw.

Onid un o amcanion penodau agoriadol Llyfr Genesis oedd ceisio egluro gwahanol ffenomenâu yn y greadigaeth, a hynny ganrifoedd cyn bod ymchwil gwyddonol yn yr ystyr modern wedi cychwyn? Cam â'r Beibl yw ei orfodi i ateb cwestiynau nad oedd erioed wedi'i fwriadu i'w hateb.

Fel y dengys ysgrif Sharon King, mae llawer o Gristnogion ceidwadol yn dal i honni bod derbyn darlun Darwiniaeth o'r creu yn arwain at wadu gwirionedd y Beibl. Dadleuir ganddi, os ildiwch fodfedd ar ei eirwiredd, yna rydych mewn perygl o golli'r cyfan. Camgymeriad o'r mwyaf, yn fy marn i, yw honni'r fath beth. A, gyda llaw, byddai llawer o bobl a fyddai'n eu galw eu hunain yn efengylaidd, a hyd yn oed yn ffwndamentalaidd, yn gwrthod y fath safbwynt eithafol. (Nid yw'r garfan Efengylaidd mor unol ei barn ar nifer o gredoau canolog ag y tybir yn aml.) Safbwynt cymharol ddiweddar ydyw hwn, un a ddatblygodd mewn adwaith, yn arbennig yn UDA, i'r feirniadaeth feiblaidd a ddaeth i rym mewn astudiaethau Cristnogol tua diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Dylid nodi hefyd yn y fan hyn nad dyma oedd union safbwynt arweinwyr mawr Protestaniaeth, megis Luther a Calfin, nac ychwaith agwedd Iesu at ysgrythurau'r Hen Destament fel y dengys ei Bregeth ar y Mynydd,er enghraifft. Beirniadol oedd Paul yntau o sawl elfen mewn Iddewiaeth fel y'i mynegwyd yn yr Hen Destament.

I'r gwrthwyneb i'r hyn y mae Sharon King yn ei ddadlau, fe fyddwn i'n honni mai 'rhoi'r adnoddau i anffyddwyr ein diystyru' y byddwn o geisio lledaenu'r math o ddaliadau am y Beibl y mae hi'n eu harddel.

Ceir digon o dystiolaeth mai gŵr boneddigaidd a chwrtais oedd Charles Darwin wrth ddadlau ag eraill am ei ddamcaniaethau. Trueni nad yw'r un ysbryd i'w ganfod heddiw mewn dadleuon ar y materion hyn. Yn hytrach, eithafiaeth a welir yn aml, a hynny o'r ddeutu: o safbwynt crefyddwyr ac anffyddwyr fel ei gilydd. Mae mawr angen ar i'r ddadl gyfoes ar berthynas crefydd a gwyddoniaeth gael ei chynnal mewn ysbryd ymchwilgar, agored a goddefol os yw i daflu goleuni ar rai o gwestiynau mwyaf bywyd.

Yn wir, does dim raid bod crefydd a Darwiniaeth yn groes i'w gilydd. Cyfrol hynod o werthfawr y byddem am dynnu sylw darllenwyr 'Gair o'r Garn' ati yw Rescuing Darwin: God and evolution in Britain today (2009). Fe'i hysgrifennwyd gan Nick Spencer a Denis Alexander, ar gyfer Theos, the public theology think tank, a daeth i'm meddiant drwy'r Feibl Gymdeithas (corff digon ceidwadol, gyda llaw). Ei phrif neges yw hyn: 'Darwin need not, indeed should not be caught in the crossfire of a philosophical or theological battle. Religion is not bad science, Genesis is not a primitive Origin of Species, and Darwinism does not necessitate atheism' (t. 46).

(John Tudno Williams, 'Gair o'r Garn', Hydref 2009)


Ymateb Mrs Sharon King


“Y mae pob Ysgrythur wedi ei hysbrydoli gan Dduw ac yn fuddiol i hyfforddi, a cheryddu, a chywiro a disgyblu mewn cyfiawnder. Felly y darperir pob un sy'n perthyn i Dduw â chyflawn ddarpariaeth ar gyfer pob math o weithredoedd da.” Nid fy ngeiriau i ond geiriau Paul i Timotheus yn 2 Timotheus 3:16–17, ac ar yr awdurdod hwn rwy'n sefyll – awdurdod gair ysgrifenedig Duw.

Gadewch i mi egluro, yr oeddwn i fy hunan yn esblygwr duwiaethol (theistic evolutionist), i gael rhoi teitl iddo gan fod rhai yn hoffi categoreiddio. Hynny yw, roeddwn yn proffesu Iesu Grist yn Iôr ac Iachawdwr, ond yn cymryd mai esboniad ffigurol o'r creu oedd yn Genesis. Hynny yw tan i mi gael fy herio gan yr Ysbryd Glân i “... roi prawf ar bopeth a glynu wrth yr hyn sydd dda” – geiriau Paul unwaith eto yn 1 Thesoloniaid 5:21, a “... peidiwch â chredu pob ysbryd, ond profwch yr ysbrydion i gael gwybod a ydynt o Dduw ...” – geiriau Ioan y tro hwn yn 1 Ioan 4:1. Pe bawn yn cyfaddawdu ar benodau agoriadol gair Duw, ar ba wirionedd arall y byddai cyfaddawd? Dywedodd yr Iesu ei hun yn Ioan 5:45–7: “Peidiwch â meddwl mai myfi fydd yn dwyn cyhuddiad yn eich erbyn gerbron y Tad. Moses yw'r un sydd yn eich cyhuddo, hwnnw yr ydych chwi wedi rhoi eich gobaith arno. Pe baech yn credu Moses byddech yn fy nghredu i, oherwydd amdanaf fi yr ysgrifennodd ef. Ond os nad ydych yn credu'r hyn a ysgrifennodd ef, sut yr ydych i gredu'r hyn yr wyf fi'n ei ddweud.”

Yn groes i argraff Dr Tudno Williams ohonof, does gen i ddim problem gyda gwyddoniaeth a ffydd (crefydd, efallai, ond mae honno'n drafodaeth arall y tu hwnt i gwmpas yr erthygl hon am y tro), ac mewn gwirionedd medraf ddangos enghreifftiau niferus lle gellir uno'r ddau beth yn gyfforddus. Ac am y datganiad nad yw'r Beibl yn werslyfr gwyddonol, ond yn un diwinyddol, credaf fod y Beibl yn ganllaw sylfaenol i fywyd ymhob agwedd – gan gynnwys gwyddoniaeth! Er hynny, mae gwahaniaeth sylfaenol rhwng gwyddoniaeth sy'n delio gyda hanes – gwyddoniaeth tarddiad (origin science) a honno sy'n delio gyda gweithredoedd y byd heddiw – gwyddoniaeth weithredol (operational science).

Gwyddoniaeth weithredol yw'r hyn a welwn mewn arbrofion y medrir eu hailadrodd dro ar ôl tro, er enghraifft, mae dŵr yn berwi ar dymheredd arbennig, neu os cyfunir hydrogen ac ocsigen mewn cymhareb 2:1 o dan amodau arbennig ceir dŵr. Heb gymryd i ystyriaeth eich cred grefyddol, gellir ailadrodd y ffeithiau hyn. Mewn gwyddoniaeth tarddiad mae sylwadau a wneir yn y presennol yn cael eu defnyddio i wneud casgliadau a datblygu damcaniaethau rhagdybiedig am y gorffennol. Dywed y diweddar balaeontolegydd o anffyddiwr Stephen Jay Gould, “Facts are the world's data. Theories are structures of ideas that explain and interpret these facts.” (S. J. Gould, Hen's Teeth and Horse's Toes. W. W. Norton, 1983, pp. 254–5) Felly mae cred ysbrydol dyn yn dwys effeithio'r modd y mae'n dehongli'r ffeithiau hyn a pha esboniad o hanes a tharddiad sy'n dderbyniol ganddo.

Dywedodd James Conant, cyn-lywydd Prifysgol Harvard, am wyddoniaeth tarddiad: “The sciences dealing with the past stand before the bar of common sense on a different footing. Therefore a grotesque account of a period some thousands of years ago is taken seriously though it is built by piling special assumption on special assumption, ad-hoc hypothesis on ad-hoc hypothesis, and tearing apart the fabric of science whenever it appears convenient. This results in a fantasia which is neither history nor science.” (Dyfynnwyd yn Kevin Writh, 'Science Education: Only the best ad-hoc will do', Origins Research 5(2):2, 1982)

Fel gwyddonydd fy hun, rwyf innau'n ymhyfrydu yn y mwyafrif o ddarganfyddiadau gwyddonol a'r cynnydd mewn gwybodaeth feddygol, ac yn eu gweld yn fynegiant o greadigaeth arbennig Duw. Er hynny, mae'n rhaid cyfaddef fy mod yn cwestiynu moeseg rhai o ganghennau gwyddoniaeth weithredol, er enghraifft triniaeth geneteg (gene manipulation), a therapi celloedd stem (stem cell therapy), sy'n arwain yn y pen draw at ewgeneg, sef 'epilio dewisol' (eugenics – yr hyn yr oedd Hitler yn ei ffafrio gyda llaw!!). Mae dweud fy mod i “yn bwydo ar y syniad fod rhyfel yn anochel rhwng gwyddoniaeth a chrefydd”, a dyfynnu Dr Tudno Williams, yn ymosodiad personol! Gallaf ddweud yn llawn hyder fod y Beibl a gwyddoniaeth yn mynd law yn llaw.

Yn y flwyddyn 1500 Cyn Crist, ar adeg pan y credid bod y byd yn eistedd ar gawr neu anifail mawr, dywed y Beibl, “Taena'r gogledd ar y gwagle, a gesyd y ddaear ar ddim.” (Job 26:7) Darganfyddodd gwyddoniaeth hyn yn 1650. Mae'r byd yn grwn – am ddatganiad amlwg! Dywed Eseia, a ysgrifennwyd rywdro rhwng740 a 680 CC: “Y mae ef yn eistedd ar gromen y ddaear.” (Eseia 40:22) Roedd hyn o leiaf 300 mlynedd cyn i Aristotle awgrymu yn ei lyfr On the Heavens y gallai'r byd fod yn grwn. Aeth 2000 o flynyddoedd eraill heibio (tra oedd gwyddoniaeth ar y pryd yn dal i gredu bod y byd yn wastad) cyn i'r Ysgrythurau ysbrydoli Christopher Columbus i hwylio o gylch y byd. Mae gwyddoniaeth weithredol, yn ei thro, wedi profi bod y 'dirnadaethau' hyn yn ffaith, a phwy a ŵyr – os yw'r detholiadau hyn o'r Ysgrythurau'n wir, pwy all ddweud nad yw Genesis?

Y gair Hebraeg am “dydd” yw yom. Mae iddo sawl ystyr, yn dibynu ar y cyd-destun, ond yn ôl gramadeg Hebraeg, os defnyddir y gair mewn cysylltiad â rhif, mae'n golygu cyfnod o bedair awr ar hugain. Os defnyddir y gair mewn cysylltiad â 'bore', golyga gyfnod o 24 awr, ac os defnyddir y gair mewn cysylltiad â 'hwyr' neu 'ddiwedd dydd', golyga gyfnod o 24 awr. Yma yn Genesis defnyddir y gair yom mewn cysylltiad â rhif, bore a hwyr. Nawr dydw i ddim yn ysgolhaig Hebraeg, ond dywedodd Dr James Barr, Athro Hebraeg Prifysgol Rhydychen, cyn belled ag y mae iaith Genesis 1 yn y cwestiwn: “... so far as I know, there is no professor of Hebrew or Old Testament at any world class university who does not believe that the writer(s) of Genesis 1–11 intended to convey to their readers the idea that creation took place in a series of six days which are the same as the days of 24 hours we now experience” (James Barr, 'Letter to David C. C. Watson', 23 April 1984), a hynny er nad yw ef ei hyn yn derbyn hanes y cread yn llythrennol. Cymharwch Genesis 1 gyda Numeri 7:10–84. Does neb yn amau nad yw dilyniant y dyddiau rhifedig yma'n cyfeirio at ddim byd ond cyfnod o 24 awr er bod y gair yom yn cael ei ddefnyddio yn yr Hebraeg gwreiddiol gyda rhif, yn agor a chau.

Dywed Exodus 20:9: “Chwe diwrnod yr wyt i weithio a gwneud dy holl waith, ond y mae'r seithfed dydd yn Saboth yr Arglwydd Dduw.” Yom yw'r gair a ddefnyddir yma hefyd a hynny'n gysylltiedig â rhif, felly yn ôl gramadeg Hebraeg, mae'n dynodi cyfnod o 24 awr. Ond os yw'r gair yn Genesis yn golygu miloedd neu filiynau o flynyddoedd, fel yr awgrymir gan rai sy'n ceisio cymodi gair Duw ac esblygiad, nid yw'n gwneud synnwyr i Dduw ddweud wrth yr Israeliaid am weithio chwe miliwn o flynyddoedd cyn gorffwys am filiwn pellach. Fedrwn ni ddim ei chael hi'r ddwy ffordd! Pam felly fod Genesis yn cael ei amau mor ffyrnig?

Mae damcaniaeth esblygu'n dibynnu ar ymdrech a marwolaeth unigolion dros filiynau o flynyddoedd er mwyn cyrraedd y pwynt presennol mewn esblygiad. Oni fyddai'n ddiddorol dychmygu beth yw'r cam esblygiadol nesaf i ni, fodau dynol, dros y miliynau o flynyddoedd nesaf? Mae'r ddamcaniaeth, felly, yn awgrymu bod marwolaeth yn bresennol o'r cychwyn, ond yn ôl Duw yn Genesis 3:19: “Trwy chwys dy wyneb y byddi'n bwyta bara hyd oni ddychweli i'r pridd, oherwydd ohono y'th gymerwyd; llwch wyt ti ac i'r llwch y dychweli.”

Wedi bod yn anufudd i orchymyn Duw, a bwyta'r ffrwyth y gorchmynnwyd iddo beidio â bwyta ohono, byddai dyn yn dychwelyd i'r llwch, hynny yw, yn marw. Cyn hyn “gwelodd Duw fod hyn [y cread] yn dda” (Genesis 1:10, 12, 18, 21, 25) ac er fy mod yn cymryd yn ganiataol, ni allaf gredu fod unrhyw un, heb sôn am ein Tad Nefol, yn credu fod ymdrech a marwolaeth yn dda. Fel canlyniad i anufudd-dod Adda, melltithwyd y cread a'r cyfan ynddo gan arwain at wahanu Duw a dyn drwy farwolaeth gorfforol: “Ond y gwir yw fod Crist wedi ei gyfodi oddiwrth y meirw, yn flaenffrwyth y rhai sydd wedi huno. Gan mai trwy ddyn y daeth marwolaeth, trwy ddyn hefyd y daeth atgyfodiad y meirw.” (1 Corinthiaid 15:20–21) Ond y newyddion da yw: os rhown ein ffydd yng Nghrist, a chydnabod ein pechod, edifarhau a derbyn Crist i'n bywyd, cawn ninnau ein gwneud yn fyw drwyddo Ef.

Does dim amheuaeth gen i nad oedd Charles Darwin yn ŵr bonheddig, ond roedd ei syniadau am esblygiad wedi eu gwreiddio'n ddwfn yn nylanwadau daearegol Charles Lyell. Daeth ysgrifau'r gŵr hwn yn ddylanwadol iawn am wthio'r syniad 'araf a graddol' ar yr athrawiaeth ddaearegol, gyda'r canlyniad fod y syniad o 'filiynau o flynyddoedd' yn troi'n efengyl ddaearegol. Roedd syniadau Lyell, a elwir yn 'unffurfiaeth' (uniformatarianism) yn ymgais ymwybodol ganddo, yn ei eiriau ei hun, “to free [the] science from Moses”.

Felly gadawaf i chwi benderfynu. Os wyf wedi tramgwyddo unrhyw un mewn unrhyw ffordd rwy'n ymddiheuro, ond rwy'n teimlo'n gryf fod cyfaddawdu ar eiriau Genesis yn diddymu arwyddocâd marwolaeth Crist ar y groes. Y cyfan rwy'n ei ofyn yw i chi “roi prawf ar bopeth” a pheidio derbyn gair dyn heb gwestiynu: “Peidiwch ag ymddiried mewn tywysogion, mewn unrhyw un na all waredu.” (Salm 146:3) “Gwell yw llochesu yn yr Arglwydd nag ymddiried yn neb meidrol.” (Salm 118:8)

“Wedi clywed y cyfan, dyma swm y mater: ofna Dduw a chadw ei orchmynion, oherwydd dyma ddyletswydd pob un. Yn wir, y mae Duw yn barnu pob gweithred, hyd yn oed yr un guddiedig, boed dda neu ddrwg.” (Pregethwyr 12:13–14)

(Sharon King)




©Hawlfraint Ymddiriedolwyr Capel y Garn yw cynnwys gwreiddiol y safle. All original material on the site is copyright by the Trustees of Capel y Garn.
Crewyd y wefan/Website created by Technoleg Taliesin Cyf. - Admin/Gweinyddu