Eglwys Bresbyteraidd Cymru / The Presbyterian Church of Wales
Capel y Garn, Bow Street
 Gweinidog: Y Parch. Ddr R. Watcyn James
 Ysgrifennydd: Mr Alan Wynne Jones
Y Capel
 

Mynwent y Garn


Am restr o'r beddau a map o'r fynwent (ar ffurf ffeil pdf), cliciwch yma.

Agorwyd mynwent y Garn yn 1875, a'r cyntaf i'w gladdu yno oedd Evan Rees, dwyflwydd oed, ar 27 Chwefror yn y flwyddyn honno.
Bedd Evan Rees
Roedd trefniant gyda Syr Pryse Pryse wedi bodoli er 1846 ynglŷn â'r tir, a oedd yn rhan o fferm Pwllglas. Fe'i prynwyd am £52 10s. gan nodi, ?The trustees shall hold this said piece or parcel of land as a Burial Ground for the internment of members.?

Mae lle i tua 2,000 o feddau yn y fynwent. Yn anffodus, gosodwyd y bedddau yn y gorffennol rywsut, rywsut, heb lwybrau i hwyluso gwell trefn wrth i'r fynwent lenwi. Mae darn newydd wedi ei sefydlu i gladdu yn dilyn amlosgi, ac mae hwnnw'n cael ei gadw'n dwt a thaclus.

Mae'r prif lwybrau wedi eu ehangu, eu cyrbio a'u tario yn ddiweddar, sy'n ei gwneud yn hwylus i'r anabl allu teithio drwy'r fynwent mewn car. Mae ychydig rhagor o dario i'w wneud eto.

Mae nifer wedi eu claddu yn y fynwent heb garreg i ddynodi bedd pwy ydyw, ac mae rhai o'r cerrig beddau yn beryglus o anwastad ac ansefydlog. Ond rhaid canmol llawer o deuluoedd am gadw eu beddau yn hynod o daclus.

Mae llawer o feddau diddorol yn y fynwent, a'r rheini yn llawn adnodau, penillion ac englynion, a ffeithiau diddorol.

Mae dwsinau o gapteiniaid wedi eu claddu yma, o'r Borth gan mwyaf. Hefyd, mae llawer wedi eu henwi ar garreg y teulu, er nad oes corff yno, er enghraifft:

John Hughes, 1859, boddwyd ar y môr;

Capt. W D Jones, hunodd ym Malta, 1912;

David Keneth Jones, 'lost at sea', 1918;

Thomas David Evans, bu farw yn Java, 1942;

Capt. Huw Jones, 'torpedoed off Spain', 1918;

Oswald Jones Williams, bu farw yn Tunisia, 1943;

John Herbert Jones a laddwyd yn y rhyfel;

Joan Jones, 'died in Canada';

Griffith O Edwards, Ypres, 1917;

Capt. Frederick Charles Davies, claddwyd yn Ypres 1917,
ond mae'r groes bren a roddwyd arno yno nawr ym mynwent y Garn.

Yma ceir bedd Mary Davies, y Borth, a lofruddiwyd ar 20 Medi 1894, yn ogystal â bedd Bessie Evans, 6½ oed, a fu farw yn 1888. Roedd hi'n ferch i John Evans, trydydd prifathro Ysgol Rhydypennau. Roedd John Evans yn ŵr o flaen ei oes ? roedd wedi cael y plant i blannu gardd flodau, ac fe gaent wersi gwyddoniaeth. Roedd wedi dechrau llyfrgell gyda 100 o'i lyfrau ei hun, ac yna fe fyddai'n cynnal cyngherddau i allu prynu rhagor. Un o'i ddisgyblion enwocaf oedd y bardd J J Williams (1869?1954), a enillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol 1906 am ei awdl i'r 'Lloer'.
Bedd y Parch William Morgan

Mae llawer o weinidogion yr ardal wedi eu claddu yma, yn cynnwys 4 o weinidogion y Garn, sef William Morgan a T J Morgan ? dau weinidog rhan-amser, y talwyd £12 y flwyddyn iddynt. Fe'u holynwyd gan J Christmas Lloyd, y gweinidog llawn-amser cyntaf, 1918?30, ac yna J Wallace Thomas, chwarelwr o'r gogledd, a fu'n weinidog o 1933 hyd 1959 ac a briododd ferch y prifathro.

Mae beddau nifer o enwogion yma, yn eu mysg:

William Evans, Penrhiw, bu farw yn 1937 ? ?One of the Midlands leading baritones in the 1880 who sang under Dvorak and Richter and before Gounod in the Birmingham Triennial Festival.?
Bedd J T Rees
J T Rees ? y mae'r adnod ?Moliannaf enw Duw ar gân, a mawrygaf ef mewn mawl? ar ei garreg fedd. Roedd yn gerddor enwog, ac fe gyfansoddodd gantawdau, anthemau, tonau a gweithiau corawl a llinynnol. Roedd hefyd yn llenor dawnus, yn feirniad craff ac yn athro dawnus yn ei ddydd.

Bu ei fab, T Ifor Rees, yn llysgennad Prydain yn Sbaen a De America am flynyddoedd, cyn dychwelyd i fod yn athro ysgol Sul ac yn drysorydd y capel.

Dewi Morgan ? prifardd, newyddiadurwr, ysgolhaig, beirniad, cyfieithydd, athro ysgol Sul a phregethwr lleyg a wasanaethodd ei ardal ar hyd ei oes. Cadeiriwyd ef yn Eisteddfod Genedlaethol 1925 am ei awdl 'Cantre'r Gwaelod', ac mae llawer o gwpledi ac englynion coffa o'i waith ar gerrig beddau yn y fynwent.

Thomas Woodward Owen, Bod Hywel, bu farw yn 1934 ? bu'n Uchel Siryf Ceredigion ac ef a dalodd i Tom Macdonald gael addysg yn Ysgol Ramadeg Ardwyn.

Tom Macdonald (1900?80) ? newyddiadurwr ar y Cambrian News, y Western Mail a'r Daily Express, cyn symud i Dde Affrica fel golygydd newyddion a phrif ohebydd y Johannesburg Sunday Times, ac yna dod yn ôl i ardal Bow Street. Cyhoeddodd chwe nofel yn Saesneg, pob un ohonynt wedi ei lleoli yng Nghymru, yn ogystal â dwy nofel Gymraeg. Cyhoeddwyd cyfrol o'i atgofion, Y Tincer Tlawd, yn 1971, sy'n rhoi hanes ei fagwraeth fel aelod o deulu o dinceriaid tlawd, gan gyfeirio at y rhan bwysig a chwaraeai Capel y Garn ym mywyd yr ardal.

Ei dad oedd Johnnie Macdonald, tincer, a briododd Wyddeles a dod i fyw i Landre, yna i Ben-y-garn, ac yna i Bow Street. Teithiai o fferm i fferm yn gwerthu ei nwyddau. Cytunai pawb ei fod yn grefftwr heb ei well.

Hefyd wedi eu claddu yn yr un bedd mae tri o'i blant: Mary yn 26 oed, Alfred yn 18 oed, a Henry a oedd yn ddim ond 7 oed yn 1913, a phlant yr ysgol, gyda Mr Davies y prifathro, yn dod â blodyn i'r angladd a'i ollwng ar ben ei arch, fel y dywedodd Tom Macdonald:
Addurn ar garreg fedd
?Thy playmates came; those little boys and girls,
With whom in play thou didst so often blend,
In reverence deep, to pay their last respect,
To Henry, thou, their merry little friend.
They placed thee in thy grave, and one by one
Thy friends passed by to take a mute farwell
And each in turn cast down his bunch of bloom
Upon thy coffin, in thy narrow cell.?

Edward Edwards, Penygroes ? ef a'i deulu oedd teilwriaid Cotiau Coch Gogerddan.

John a Lydia James, Tŷ Clwb ? sefydlwyd Urdd y Gwir Iforiaid yn yr ardal yn 1841 gyda 90 o aelodau. Cynyddodd hyn i dros 300, o dan yr enw Cyfrinfa Castell Gwallter, a gyfarfyddai yn y Black Lion Inn, Llandre, hyd nes codi adeilad pwrpasol, sef Tŷ Clwb, yn 1853 y drws nesaf i Benygroes. Mae hanesion diddorol i waith y Tŷ Clwb, a John a Lydia James oedd y gofalwyr cyntaf.

David Thomas a Margaretta Thomas, The Black Lion Inn, Llandre ? brawd Margaretta oedd y Parch. T L Williams, a oedd yn Ganon yn y Drenewydd. Enw ei ficerdy yno oedd 'Croesawdy'. Roedd yn gadarn yn erbyn y ddiod feddwol, ac fe berswadiodd Margaretta i gau'r dafarn yn 1917, ac enwi'r tŷ yn Croesawdy, Llandre.

Pwy tybed oedd David Herbert Jones, Holywood, California a fu farw yn 1922, ac a oedd Sara Shakespear a fu farw yn 1926 yn perthyn i'r dramodydd enwog?

Beth tybed a ddigwyddodd i Hugh Owen a'i ferch Mary i achosi i'r ddau farw ar 21 Mawrth 1915?

Yn wir mae'r fynwent yn lle diddorol. Does dim rhyfedd fod llawer yn dod yn gyson i gerdded o amgylch a darllen y cerrig beddau.

(Eddie Jones)

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Vernon Jones, e-bost: ymholiadau@capelygarn.org)

Am wybodaeth am y beddau ym mynwent Eglwys Llanfihangel Genau'r Glyn, cliciwch yma



©Hawlfraint Ymddiriedolwyr Capel y Garn yw cynnwys gwreiddiol y safle. All original material on the site is copyright by the Trustees of Capel y Garn.
Crewyd y wefan/Website created by Technoleg Taliesin Cyf. - Admin/Gweinyddu