Eglwys Bresbyteraidd Cymru / The Presbyterian Church of Wales
Capel y Garn, Bow Street
 Gweinidog: Y Parch. Ddr R. Watcyn James
 Ysgrifennydd: Mr Alan Wynne Jones
Y Capel
 

Er cof am Gladys Jones, Bronberllan (bu farw 17 Mawrth 2011)


Ar 17eg Mawrth 2011 bu farw un o drigolion hynaf Llandre, sef Mrs Gladys Susannah Jones, Bronberllan. Bu farw yn Ysbyty Bron-glais a hithau yn 98 oed. Fe'i ganwyd yn un o wyth o blant i Henry a Susannah Richards, Rhydycochiaid, Trawsgoed. Mynychodd Ysgol Llanfihangel-y-Creuddyn, ond gadawodd yno pan yn 14 oed i gynorthwyo ei rhieni a'r teulu ar y fferm.

Adeg y rhyfel bu croeso mawr i ifaciwîs o Lundain ar yr aelwyd. Roedd yn hoff iawn ac yn dda am goginio ac roedd yn hynod grefftus gyda'i dwylo. Roedd yn aelod ffyddlon o Gapel Rhydyfagwyr yr adeg hynny. Priododd ag Ivor Jones, Bronberllan, Llandre yn Hydref 1954, ac yno y bu hi a'i phriod yn byw ar hyd eu bywyd priodasol, ac yno y bu hi hyd y diwedd er iddi golli ei phriod flynyddoedd yn ôl. Wedi priodi bu'n gweini mewn nifer o westai yn Aberystwyth.

Hyd yn ddiweddar bu'n ffyddlon iawn yng Nghapel y Garn, Bow Street a hefyd yn aelod o gangen Llanfihangel Genau'r-glyn o Ferched y Wawr. Roedd hefyd yn gefnogol i bopeth arall yn y pentref. Bu ei ffrindiau a'i chymdogion yn garedig iawn wrthi ar hyd y blynyddoedd ac yr oedd yn ddiolchgar iawn am hyn.

Bu'r angladd yng Nghapel y Garn ddydd Gwener, 25ain o Fawrth, a chladdwyd ei gweddillion ym mynwent y capel. Gwasanaethwyd gan ei gweinidog, y Parchg Wyn Rh. Morris.

Paratowyd te'r angladd gan wragedd y Capel am baratoi'r te, a chafwyd cyfraniadau er cof tuag at Gapel y Garn, a Chlwb y Deillion a Rhannol Ddall, Aberystwyth.

(Addaswyd o'r Tincer, Mehefin 2011)


©Hawlfraint Ymddiriedolwyr Capel y Garn yw cynnwys gwreiddiol y safle. All original material on the site is copyright by the Trustees of Capel y Garn.
Crewyd y wefan/Website created by Technoleg Taliesin Cyf. - Admin/Gweinyddu