Mae'r gymdeithas yn cwrdd yn fisol o fis Hydref hyd fis Mawrth, gan wahodd gwahanol siaradwyr i'n hannerch.
Mae'r testunau'n amrywio o'r llenyddol i'r cyffredinol.
Cynhelir y cyfarfodydd yn festri'r Garn ar nos Wener am 7.30 o'r gloch.
Nos Wener, 26 Hydref 2007, i agor tymor y gaeaf, cafwyd darlith ddiddorol iawn ar y testun 'Baledi Cymraeg a Chaethwasiaeth' gan Dr Wyn James, Caerdydd.
Tro'r ieuenctid i ddweud eu dweud oedd hi yng nghyfarfod, pan fentrodd Elfyn, Carwyn, Manon a Lowri i fynegi eu barn ar amrywiol bynciau. Yr holwraig oedd Llinos Dafis, a chafwyd noson ddifyr a hwyliog.
Nos Wener, 21 Rhagfyr, Mary Thomas, Dôlgelynnen, oedd y wraig wadd. Treuliwyd noson ddiddorol a difyr yn ei chwmni yn clywed am ei gwaith yn olrhain achau ei thylwyth, ac yn trafod perthnasau. Gaenor Hall, Cadeirydd y Gymdeithas, oedd yn llywyddu.
Yng nghyfarfod Ionawr 2008, cafwyd sgwrs gan y Dr Rhiannon Ifans, Penrhyn-coch, ar Ddathlu'r Plygain, gyda chymorth Parti Plygain Penrhyn-coch.
Nos Wener, 15 Chwefror, braint oedd cael gwrando ar Gwyn Angell Jones, Y Felinheli, yn sôn am ei ymweliad ag Ysbyty Jowai, India. Yn ystod 2006 dychwelodd Gwyn i Jowai, lle treuliodd ddeng mlynedd cyntaf ei fywyd, ac yn dilyn yr ymweliad hwnnw trefnodd apêl i godi swm sylweddol o arian i gael offer i'r ysbyty.
Swyddogion 2007–2008
Cadeirydd: Mrs Gaenor Hall
Is-gadeirydd: Mr D Bryn Lloyd
Ysgrifennydd: Mrs Mary Thomas
Trysorydd: Mrs Bet Evans
Aelodau'r Pwyllgor:
Mrs Elina Davies
Mrs Shân Hayward
Mr Dewi Hughes
Mr Erddyn James
Mr Vernon Jones
Mrs Margaret Rees
Mrs Janet Roberts
Mrs Mary Thomas
Mrs Brenda Williams
Cynhaliwyd swper pentymor y Gymdeithas yn Festri'r Garn nos Wener, 16 Mawrth 2007,
pan ddaeth yr aelodau ynghyd i fwynhau pryd o fwyd danteithiol wedi ei baratoi gan Mrs Margaret Griffiths, Gwesty'r Victoria, Borth.

Yn ystod y swper tynnwyd sylw at lyfryn sydd newydd gael ei gyhoeddi gan y Gymdeithas,
sef
Atgofion Amser Rhyfel, lle ceir ysgrifau gan bump aelod yn disgrifio'u bywydau yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Roedd hi'n hyfryd bod y pump, sef Eirlys Owen, Nest Davies, Marjorie Hughes,
Morfudd Rhys Clark a Trefor Lewis i gyd yn bresennol yn y swper.
Mae'r llyfr ar werth am £3.
Ar ôl y swper cafwyd anerchiad gan y gŵr gwadd, Mr Gwynfor Hughes, Caerdydd, brodor o Bow-Street ac un o blant y Garn.
Teitl ei sgwrs oedd 'Hanes Dau Gyfaill'.
Y ddau dan sylw oedd ei dad W. J. Hughes, a'r Dr T.I.Rees, a fu'n gyfeillion oes.
Yr ohebiaeth rhyngddyn nhw yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf aeth â'r sylw nos Wener,
pan oedd y naill yn ymladd yn y ffosydd yn Ffrainc a'r llall yn gweithio i'r Swyddfa Dramor yn Nicaragua.
Wrth gloi'r cyfarfod diolchodd y cadeirydd, Mrs Llinos Dafis, yn gynnes iawn i bawb a gyfrannodd i wneud y tymor yn llwyddiant,
ac yn enwedig i swyddogion y Gymdeithas,
Mrs Mary Thomas yr ysgrifenyddes, a Mrs Bet Evans y drysoryddes,
sydd yn eu swyddi ers blynyddoedd ac sy'n hwyluso pob trefniant gan wneud gwaith y Cadeirydd yn hawdd iawn.

Cafwyd tri chyfarfod diddorol o'r gymdeithas yn ystod yr hydref.
Daeth Dafydd Pritchard o Archif Sgrîn a Sain Cymru atom ym mis Hydref
i roi hanes adfer llais Evan Roberts oddi ar sylindrau sain a oedd wedi eu recordio ddechrau'r ganrif ddiwethaf.
Gwefr yn wir oedd cael clywed llais y Diwygiwr.
Ym mis Tachwedd Atgofion Amser Rhyfel oedd y testun
ac fe gafwyd cyfle i rannu atgofion
Eirlys Owen, Nest Davies, Morfudd Clark a Marjorie Hughes o'r dyddiau cythryblus hynny.
Tro Mr Ossie Osmond oedd hi ym mis Rhagfyr i'n goleuo ynghylch delweddau o Gymru
â'u perthynas â hanes economaidd Cymru.
Wyddech chi fod cyw-ddeintyddion o Sweden yn gofod dod i Brydain i weld dannedd gosod?
Dyna un o'r ffeithiau rhyfedd a glywyd gan y deintydd Illtud Griffiths yn ei anerchiad i Gwrdd Llenyddol y Garn, nos Wener, Mawrth 17eg.
Roedd gwledd wedi ei pharatoi yn Ysgoldy Bethlehem y noson honno gyda thri bwriad, sef dathlu Gŵyl Ddewi, dathlu diwedd y gaeaf,
a ffarwelio â'r Gweinidog, y Parch R W Jones, a fydd yn ymddeol ddiwedd y mis.
Er gwaethaf oerfel y tywydd, roedd pob sedd wedi ei chymryd,
a chanmol brwd i'r bwyd a baratowyd gan Margaret Griffiths, Gwesty'r Victoria, y Borth,
heb anghofio'r pwdinau roedd aelodau'r pwyllgor wedi eu cyfrannu!
Llywyddwyd y noson gan Vernon Jones, a fynegodd ddymuniadau da
ffyddloniaid y Cwrdd Llenyddol i Bob a Rhian yn eu cartref newydd yn Wrecsam.