Eglwys Bresbyteraidd Cymru / The Presbyterian Church of Wales
Capel y Garn, Bow Street
 Gweinidog: Y Parch. Ddr R. Watcyn James
 Ysgrifennydd: Mr Alan Wynne Jones
Y Capel
 

Grŵp Help Llaw

Mae'r Grŵp Help Llaw yn cyfarfod am 2.30 o'r gloch bob prynhawn Mercher,
ac eithrio'r prynhawn Mercher cyntaf yn y mis a thymor y gwyliau.

Bwyd i Bosnia, Mawrth 2006Gallwch droi i mewn am gwmni a mwynhau paned a sgwrs, ac os dymunwch hynny, gallwch ymuno mewn gweithgareddau i estyn llaw i'r anghenus,
e.e. gwau i Lithuania, casglu bwyd i Bosnia, a pharatoi bocsys Operation Christmas Child

Rydym yn cofio hefyd am elusennau yng Nghymru ac achosion lleol,
e.e. cefnogi gwaith Tŷ Gobaithtrwy brynu a gwerthu cardiau Nadolig.

Rydym hefyd yn casglu stampiau er budd OXFAM

Mae'r gwahoddiad yn agored i bawb, croeso cynnes i chi.








Tachwedd 2009 - Operation Christmas Child 2009


Unwaith eto cafwyd ymateb ardderchog i'r ymgyrch Operation Christmas Child. Derbyniwyd 59 o focsys sgidie wedi'u llenwi i'r ymylon a £258 mewn rhoddion ariannol at y gost o ddosbarthu'r boscsys i wahanol wledydd. Diolch o galon i aelodau'r capel, ffrindiau yn y gymuned ac i Ysgol Sul Capel Seion am ymuno gyda ni eleni.

Haf 2009 - Apêl Huw Edwards

Yn ystod yr haf bu'r Grŵp yn casglu arian tuag at apêl Ffagl Gobaith i godi arian i brynu cadair olwyn arbenigol i Huw, gŵr ifanc o'r ardal sydd wedi cael ei daro â'r clefyd creulon MS.

Fel rhan o'r ymgyrch, trefnwyd te prynhawn yng ngardd Pantyperan, Llandre, trwy garedigrwydd teulu'r Hughesiaid, ddydd Sadwrn, 25 Gorffennaf 2009, ac fe godwyd dros £2,000 o bunnau tuag at y gronfa.

Cymorth i Bosnia

Trefnwyd Bore Coffi dydd Sadwrn, 21 Mawrth, i gasglu rhoddion ariannol tuag at daith Eric Harries i Mostar, Bosnia.



Rhai Gweithgareddau 2008


Operation Christmas Child

Gofalodd y Grŵp Help Llaw unwaith eto eleni fod Capel y Garn yn cymryd rhan yn yr ymgyrch flynyddol hon.

Llanwyd 54 o focsys lliwgar o anrhegion a chasglwyd £287.61 o nawdd, gan gynnwys casgliad Gwasanaeth Diolchgarwch yr Ysgol Sul.

Gofal Henoed Ceredigion

Yn ystod mis Awst cyflwynwyd dros fil o hetiau bychain bach (mini bobble hats) wedi eu gwau i Jane Raw Rees, Aberystwyth. Mae cwmni Sainsbury yn rhoi 50c i Gofal Henoed Ceredigion am bob potel o Innocent Smoothie sy'n cael ei gwerthu'n gwisgo un o'r hetiau yma. Felly, dyna £500 at yr achos teilwng hwn.

Cymdeithasu

Prynhawn Mercher, 4 Mehefin, treuliwyd orig ddifyr yn Oriel Tir a Môr yn y Borth yn mwynhau paned a chymdeithasu.

Hetiau'n achub bywydau

Fe fuom yn ymateb i apêl Cronfa Achub y Plant am gapiau bach i fabanod newydd-anedig yn Kenya, Sierra Leone a Tibet. Mae tua hanner y babanod sy'n cael eu geni yn Tibet yn dioddef o hypothermia yn eu hwythnos gyntaf. Felly maen nhw'n llawer mwy tebygol o ddal niwmonia, sy'n dal i ladd tua 2 filiwn o blant bob blwyddyn, yn ôl yr ystadegau.

Yn ystod cyfarfod o'r Gymdeithas Lenyddol nos Wener, 21 Tachwedd 2008, cyflwynodd Kate Crockett dystysgrif i'r Grŵp am weu 345 o hetiau babanod fel rhan o'r ymgyrch 'Gall eich het achub bywyd'.

Tŷ Hafan

Daeth y tymor o gyfarfodydd cyson i ben gyda 'Te Tŷ Hafan' ar 23 Ebrill. Darparwyd paned o de a chacen a stondin amrywiol gan yr aelodau, a sicrhawyd elw o £200 at Apêl Tŷ Hafan. Diolch am eich cefnogaeth.

Bwyd i Bosnia 2008

Diolch am eich help eleni eto i lenwi tryc o nwyddau i fynd i Mostar yn Bosnia. Yn dilyn yr ymgyrch ar fore Sadwrn, 15 Mawrth, llenwyd 40 bocs banana o nwyddau a derbyniwyd swm o £250 yn rhoddion ariannol a'u trosglwyddo i dryc Eric Harries. Lluniau yn yr oriel.

Tŷ Hafan

Cefnogwyd Tŷ Hafan drwy gymryd rhan yn yr ymgyrch i lunio Draig Goch i orchuddio maes Stadiwm y Mileniwm. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Shân neu Marjorie. I ddarllen mwy am y cynllun, cliciwch yma.

Ailgylchu cardiau Nadolig a stampiau

Rhoddwyd dau focs yn y festri: un i dderbyn cardiau Nadolig i'w hailgylchu a'r llall i dderbyn stampiau oddi ar amlenni'r cardiau Nadolig. Trosglwyddwyd y cardiau i fudiad Coed Cadw a'r stampiau i Oxfam. Diolch am bob cyfraniad.



Hydref 2007


Fe gyfarfu'r Grŵp yn gyson yn ystod tymor yr hydref, gan ymuno mewn nifer o weithgareddau i gefnogi elusennau fel Gofal Henoed Ceredigion, Hospis Tŷ Hafan, yr anghenus yn Lithuania ac yn Bosnia.

Trwy haelioni aelodau o'r capel a chyfeillion, cafwyd dros ddeugain o focsys llawn a lliwgar ar gyfer Operation Christmas Child, ynghyd â swm sylweddol o nawdd.

Yn ystod y tymor trefnwyd ymweliadau â Chrefftau Pennau ac â'r Ganolfan Arddio yng Nghapel Dewi.

Daeth y tymor i ben gydag ymweliad â Chartref Tregerddan i ganu carolau.


Ailgylchu hen sbectolau, Haf 2007


Ymgyrch yr haf oedd casglu hen sbectolau fel rhan o ymgyrch Vision Aid Overseas.
I ddarllen mwy am yr ymgyrch, cliciwch yma

Cymorth i Bosnia 2007


Gwahoddwyd eglwysi'r ofalaeth i ymuno gyda ni, yn ogystal ag Eglwys Llanfihangel Genau'r-glyn, Capel Noddfa a Chartref Tregerddan, a phawb arall o fewn cylch y Tincer a'r Cambrian News!

Derbyniwyd 45 bocs banana yn llawn dop a £162 o bunnoedd at y tanwydd.

Bydd Eric Harries yn gyrru allan gyda chyfaill iddo cyn diwedd mis Ebrill. Roedd yn falch hefyd o dderbyn dillad: capiau a menig wedi eu gwau, teganau meddal, pensiliau, creons ac ati i'r ysgol a'r cartref i blant amddifad ym Mostar - oddi wrth y Grŵp Help Llaw.

Hon fydd 35ain taith Eric Harries i Bosnia - 3,800 milltir bob tro - tipyn o ddyfalbarhad!


Cefnogwyd yr ymgyrch hon ers rhai blynyddoedd bellach, a dyma ran o ddyddiadur taith Eric Harries, Ebrill 2006:

Cafwyd casgliadau llwyddiannus y tu allan i Tesco, Aberteifi, a Morrison's, Aberystwyth.

Trefnodd Capel y Garn, Bow Street, gasgliad ar ein rhan, ac fe lwyddon nhw i gasglu swm anhygoel o fwyd i ni.

Felly, erbyn y diwedd roedd 106 o focsys banana yn llawn o fwydydd gwahanol yn barod i'w cludo i Bosnia, a phwysau'r fan bron yn 7.5 tunnell fetrig, sef yr uchafswm cyfreithiol.

Llenwyd y lle gwag uwchben y bocsys â bagiau'n llawn o flancedi, teganau a dillad wedi eu gwau, a rhoddion gan bobl leol a rhai cyn belled â Dyffryn Aman.

Roedden ni wedi casglu swp mawr o nwyddau wedi eu gwau o Gapel y Gwynfryn, Rhydaman, ychydig wythnosau cyn inni adael â dillad 'newydd' y byddai plant a babanod ardal Mostar yn eu gwisgo cyn hir.

Pan oedden ni'n casglu'r deunyddiau o Rydaman, fe wnaethon ni hefyd recordio eitem ar gyfer y rhaglen deledu Wedi Tri.
...

Oherwydd newidiadau yn fy mhatrwm gweithio, mae'n annhebygol y byddaf yn gallu mynd drosodd deirgwaith y flwyddyn am y ddwy flynedd nesaf (er fy mod yn dal i ystyried hynny), felly, bydd fy nhaith nesaf tua diwedd Medi / dechrau Hydref.

Fel arfer, mae arnaf ddyled fawr i'r bobl hynny sy'n parhau i nghefnogi
drwy roi rhoddion o fwyd, dillad ac arian; heb y cymorth hwn, fyddai'r teithiau hyn ddim yn bosib.

Felly, diolch yn fawr iawn i chwi i gyd!

(I ddarllen rhagor o ddyddiadur Eric Harries, cliciwch yma)



Gweithgarwch Ionawr-Mawrth 2007



Mae tri mis cyntaf y flwyddyn newydd wedi gwibio heibio.
Derbyniwyd pentyrrau o hen gardiau Nadolig er budd Coed Cadw, a thros bedair mil ar ddeg o stampiau er budd OXFAM.

Trefnodd Shân ddau drip pleserus i ni: un i'r Wildfowler i fwynhau pryd canol-dydd yng nghwmni ein gilydd a'r ail i Ganolfan y Celfyddydau i weld y ffilm Miss Potter, sydd wedi ei seilio ar fywyd yr awdures Beatrix Potter.

Prif waith y tymor oedd paratoi ar chasglu nwyddau i fynd i Gwfaint Pastuva yn Lithuania. Bydd y Chwiorydd yno yn eu dosbarthu i blant anghenus o gwmpas y cwfaint. Diolch i Bil a Gwenda am fynd â llond car i Ddolgellau – cam cyntaf y daith hir i Lithuania.

Bore Sadwrn, 31 Mawrth, roedd y festri ar agor i dderbyn 'Cymorth i Bosnia'. Yn ôl ein harfer, gwahoddwyd eglwysi'r ofalaeth a'r gymuned i uno gyda ni yn yr ymdrech flynyddol yma.

Ym mis Ebrill byddwn yn cynorthwyo yn nes adref, trwy brynu offer clyw arbennig 'The Hearit' i Ward Enlli, Ysbyty Bronglais.

Mae gyda ni silff lyfrau ail-law yn y festri. Diolch i'r rhai sy'n cyfrannu llyfrau ac yn eu prynu.
Diolch am bob cefnogaeth i waith y Grŵp Help Llaw. Mae'r cyfan yn cael ei wneud yn enw Capel y Garn.



Gweithgareddau Hydref 2006


Fe ailgychwynnodd y Grŵp Help Llaw yn hwyliog iawn ar y 13eg o Fedi.
Y gobaith yw y byddwn yn cyfarfod yn rheolaidd am 2.30 p.m. bob prynhawn Mercher o hyn i'r Dolig, heblaw am y dydd Mercher cyntaf ym mhob mis.

Cefnogwyd Tŷ Gobaith eleni eto trwy archebu cardiau Nadolig.

Derbyniwyd 51 bocs sgidie llawn anrhegion, yn ogystal â £164 o nawdd ar gyfer Operation Christmas Child. Gweler y lluniau yn yr oriel.

Derbyniwyd bron i ddau gant o barau o esgidiau a sandalau gan y Grŵp bnawn Mercher, 29 Tachwedd 2006, ac fe'u trosglwyddwyd i apêl Blue Peter i estyn Cymorth i Malawi. Am ragor o wybodaeth am yr apêl, cliciwch ar Shoe Biz

Derbyniodd Eric Harries o Aberystwyth lwyth o ddillad wedi eu gwau, teganau meddal a rhodd ariannol i fynd allan i Bosnia yn ystod mis Medi. Bydd y llwyth nesaf yn mynd i Lithuania cyn y Nadolig.

Rydym yn dal i gasglu stampiau i OXFAM, ac yn ddiolchgar iawn i'r cyfranwyr cyson.

Shan Hayward a Bethan Jones



O'r Garn i Lithuania


Cwfaint Pastuva, Lithuania
Ers tua saith mlynedd, bu Grŵp Help Llaw Machynlleth, grŵp a sefydlwyd gan aelodau eglwysi'r dref, yn gweu a chrosio at achosion da. Anfonwyd llawer o'r gwaith i gwfaint yn Pastuva, Lithuania, sy'n dosbarthu'r cynnyrch i bobl anghenus yn y cylch, a hynny drwy'r cysylltiad â chwfaint y Carmeliaid yn Nolgellau.

Erbyn hyn, mae Grŵp Help Llaw y Garn wedi ymuno â'r cynllun.

Ddechrau Mehefin eleni, cefais gyfle i ymuno ag wyth o bobl ar ymweliad â chwfaint Pastuva: Eirlys ac Alfyn Phillips a Jane Owen, Machynlleth; Eiriona, chwaer Eirlys, o Bontarddulais; Dilys Richards, Pen-y-bont ar Ogwr; Norma Davies, gwraig o India sy'n byw ym Mhren-bre, a'r Chwaer Maria o gwfaint Dolgellau.

Bu inni hedfan o faes awyr Stansted i dref Kaunas yn ne orllewin y wlad, ac yno i'n cyfarfod yr oedd George a Linus, ei fab, gyda bws mini i'n cludo i'r cwfaint ddeunaw milltir i'r gorllewin. Teithio allan o'r dref ar hyd y priffyrdd syth, a dod ymhen hanner awr at dro yn y ffordd, ac at ffordd fach oedd yn arwain i'r cwfaint. Gallem weld yr adeilad hardd yn y coed yn y pellter, adeilad a godwyd gan roddion ffrindiau tua chwe mlynedd yn ôl. Cyn hynny, roedd y lleianod yn byw mewn adeilad bach yn ymyl yr un presennol.

Y cwfaint oedd ein cartref am bum noson, a chreodd y croeso a'r llawenydd amlwg ym mywyd y Chwiorydd gryn argraff arnom.
Capel y cwfaint
Cawsom gyfle i ymuno mewn gwasanaethau boreol, cerdded o gwmpas y cwfaint a phrofi'r awyrgylch tawel a thangnefeddus yno. Roedd y Chwaer Mavis, sy'n dod i gwfaint Dolgellau yn gyson, wrth ei bodd yn ein tywys, ac yn esbonio inni gyflwr truenus rhai o'r cymdogion sydd, ers y cyfnod pan oedd Rwsia wedi meddiannu'r wlad, mewn tlodi mawr. Mae'r Chwiorydd yn eu helpu ac yn dosbarthu bwyd o'r cwfaint yn wythnosol.

Ar ddiwrnod cyntaf ein hymweliad buom yn Vilkija, y dref agosaf at y cwfaint, a chael cyfle i ymweld â'r ysbyty a'r ysgol uwchradd. Aeth meddyg plant yr ysbyty, Dr Mildai Naujokaitienel, gwraig prifathro'r ysgol, â ni i ganolfan i blant gwael ac anabl mewn bloc o fflatiau llwm, cyfagos. Cawsom groeso mawr gan y plant a'u rhieni, a chyfle i gyflwyno teganau a dillad i'r plant.

Ar ôl cael te a chacen groeso, cyflwyno Eirlys arian o Fachynlleth i'r meddyg, a chyflwynais innau rodd ariannol o'r Garn. Roedd hi mor ddiolchgar o dderbyn y rhoddion, a chofiwn yn hir iawn y rhyfeddod ar wynebau'r plant wrth dderbyn yr anrhegion.
Cyflwyno rhodd
Yn ystod y dyddiau eraill, buom yn ymweld â thref Kaunas, mynachlog ar gyrion y dref, a'r Eglwys Wen drawiadol; taith hyfryd mewn cwch ar yr afon wedyn, a chyfle i fynd i ganolfan siopa newydd. Ar y diwrnod olaf, buom yn ymweld ag amgueddfa awyr-agored, tebyg i Sain Ffagan. Yn un rhan ohoni roedd cerbyd un o'r trenau a oedd yn cludo pobl Lithuania i Siberia yn ystod y rhyfel. Roedd hen wraig, a fu yn un o'r cerbydau yn 13 oed, yno i ddweud ei hanes.

Ar y noson olaf, cawsom gyfarfod y Chwiorydd i gyd, a chyflwyno anrhegion iddynt o Gymru. Cawsom ninnau gannwyll bob un o'r cwfaint.

Ar ôl treulio pum noson yn y cwfaint, daeth bore'r ffarwelio a dymuno'n dda inni ar ein taith i Latfia, a'r Chwiorydd yn gobeithio cael ein gweld eto.

Roedd y cyfnod yn y cwfaint yn brofiad gwerthfawr: yr adeilad hardd, y croeso a'r llawenydd amlwg ym mywyd y Chwiorydd, a'u brwdfrydedd wrth roi eu crefydd ar waith ym mywyd y gymuned.

Gwenda Edwards
(Mehefin 2006)



Lithuania


Ddiwedd mis Ebrill llwyddwyd i grynhoi llwyth teilwng arall o nwyddau ar gyfer yr anghenus yn Lithuania, yn cynnwys dillad wedi eu gwau, sanau a sgidiau i'r plant, offer chwarae, teganau meddal, offer ysgrifennu a lliwio, ac ati.

Aethpwyd â hwy i Gwfaint y Carmeliaid yn Nolgellau, man cychwyn eu taith i'r cwfaint yn Pastuva, Lithuania.

Apêl Uned Gofal Arbennig i Fabanod


Ym mis Ebrill cawsom y cyfle i gefnogi Carwyn Lloyd Jones (un o'n haelodau ifanc yn y Garn) a'i wraig Linsdey yn eu hymdrech i godi arian at Uned Gofal Arbennig i Fabanod yn Ysbyty Bronglais.
Am yr ail flwyddyn yn olynol, trefnwyd cabaret llwyddiannus yng Ngwesty'r Parc, gan godi dros £4,000 at yr achos yma.



Cymorth i Bosnia 2006


Eleni eto, cymerodd y Grŵp Help Llaw ran flaenllaw yn ymgyrch Eric Harries, o Orsaf Dân Aberystwyth, a fu ar ymweliad â Bosnia ddechrau mis Ebrill.

Roedd prysurdeb anaferol yn festri'r Garn rhwng 9 a 12 o'r gloch fore Sadwrn, 25 Mawrth, wrth i aelodau'r Grŵp dderbyn cyfraniadau aelodau'r Garn a'r ardal o gwmpas, yn fwydydd sych, pasta, halen, siwgr, jam, brwsys a phast dannedd, ac yn y blaen, i lenwi lorri Mr Eric Harries.

Am luniau o'r prysurdeb yn y festri, cliciwch yma

I ddarllen detholiad o ddyddiadur taith Eric Harries, Ebrill 2006, cliciwch yma

Diolch i bawb am eu cyfraniadau.

Shân Hayward a Bethan Jones



Cymorth i Lithuania


Prynhawn Mercher, 15 Mawrth, ymwelodd rhai aelodau o'r Grŵp Help Llaw â Chwfaint y Carmeliaid yn Nolgellau a derbyn croeso twymgalon yno.

Roedd un o'r lleianod, y Chwaer Mavis, adref dros dro o Lithuania, lle mae'n gweithio dros y tlodion a'r difreintiedig sy'n dod at ddrws y Cwfaint yn Pastuva am gymorth.

Mae'r Chwiorydd yno yn fawr eu gofal a'u consýrn am yr henoed, cleifion yn yr hosbis a'r sanatoriwm, a chyn-garcharorion, ac yn cydweithio gyda'r meddyg plant a phrifathro'r ysgol leol ble bynnag mae'r angen.

Trwy'r Cwfaint yn Nolgellau, mae'r Grŵp Help Llaw yn anfon dillad wedi eu gwau, sanau cynnes, esgidiau ac esgidiau glaw i'r plant, teganau meddal ac ati, i Lithuania yn gyson.

Wedi gwrando ar brofiadau'r Chwaer Mavis, gwylio sleidiau a thrafod ymhellach, fe'n harweiniwyd mewn gweddi gan y Parch W J Edwards.

Mwynhawyd te hyfryd yng nghwmni'r Chwaer Maria, cyn mynd i'r capel ar gyfer yr Hwyr Weddïau.


Tymor yr Hydref 2005


Daeth y tymor i ben ddiwedd Tachwedd.
Bu'r festri ar agor yn gyson ar brynhawniau Mercher, ac ar wahân i fwynhau cwmni ein gilydd dros baned o de bu cryn weithgarwch hefyd.

Paratowyd hanner cant o focsys a chasglwyd £163 o nawdd ar gyfer Operation Christmas Child 2005.

Cafwyd ymateb hael i apêl Dr Naujokaitienei o Pastuva, Lithuania, am ddillad gwely, llenni, teganau meddal, ac ati.
Roedd cyfraniad Ysgol Rhydypennau o 237 o barau o sgidiau a sgidiau glas mewn cyflwr ardderchog yn goron ar y cyfan. Gweler y llun yn yr oriel.

Cefnogwyd Tŷ Gobaith trwy archebu cardiau Nadolig, a chasglwyd dros bymtheng mil o stampiau er budd OXFAM.

Cynhaliwyd Stondin Masnach Deg ar ddau achlysur ym mis Rhagfyr.
Diolch i bawb yn y capel ac i gyfeillion yn y gymuned am eu cefnogaeth.

Apêl Lithuania

Rydym yn ymateb i apêl am y nwyddau canlynol -
Esgidiau a welingtons (mewn cyflwr da) i blant
Cynfasau a chasys
gobenyddion

Llenni
Teganau meddal
Gwaith gwau
Os gallwch chi helpu mewn unrhyw ffordd, cysylltwch â Bethan Jones neu Shân Hayward.

Stampiau i OXFAM

Byddem yn falch o dderbyn eich stampiau er budd OXFAM, yn enwedig stampiau Nadolig. Dylid gadael ymyl o tua chwarter modfedd o amgylch y stamp. Gallwch eu gadael yn y blwch arbennig yn y Garn neu ym Methlehem, Llandre, yn siop SPAR, Bow Street, neu eu rhoi i Bethan Jones neu Shân Hayward.

Mai 2005

Bu nifer o'r aelodau ar daith gerdded ger Pwll Crwn (gweler y lluniau yn yr oriel).

O'r Garn i Lithuania

Ers dwy neu dair blynedd bellach, rydym yn anfon dillad cynnes wedi eu gwau i Gwfaint y Carmeliaid yn Nolgellau, trwy law Mrs Eirlys Phillips, Machynlleth. Mae'r dillad yn rhan o lwythi cyson o nwyddau sy'n cael eu hanfon i gwfaint yn Lithuania i helpu'r anghenus sy'n byw yng nghysgod y cwfaint.

Dyma'r neges gawsom ni ym mis Mai:

Please thank all the Helping Hands, our dear friends, for the wonderful load of knitting Eirlys brought today.
I am so happy that she will be going to Lithuania so that the Sisters can thank you all.
They are so grateful to have so many beautiful woollies to give to the poor people around them.

May God reward you all,
Yours in Christ Jesus,
Sister Eileen (Dolgellau)

Cyflwynwyd swm sylweddol o arian a nwyddau i Mrs Eirlys Phillips i fynd allan gyda hi i'r cwfaint yn Lithuania fis Medi 2005, gyda'r sicrwydd y bydd y Chwiorydd yn eu defnyddio fel y byddan nhw'n gweld yn dda er lles yr anghenus yno.



©Hawlfraint Ymddiriedolwyr Capel y Garn yw cynnwys gwreiddiol y safle. All original material on the site is copyright by the Trustees of Capel y Garn.
Crewyd y wefan/Website created by Technoleg Taliesin Cyf. - Admin/Gweinyddu