EMYN DIOLCHGARWCH
O Arglwydd y cynhaeaf,
braenara eto dir
ar lymder erwau angen
i'r had 'rôl gaeaf hir.
Anadla dy ddaioni
ym mhridd ein cynnyrch dwys
a ffrwydred heulwen gwanwyn
yr egin dan y gwys.
Yn oriau'r cynaeafu
bendithia'r dwylo brwd
ag awyr las ddilygredd
wrth drin a chasglu'r cnwd.
Diolchwn am ddarpariaeth
yr ebran sydd dan do,
ydlannau o fodlonrwydd
a'th hydre'n sgubo'r fro.
O maddau holl fydolrwydd
a rhemp ein rhuthro ni
ar ddaear oedd mor sanctaidd
un waith pan luniaist hi.
Dad annwyl y tymhorau,
rhoist gymorth yn ei bryd,
dysg ni yn nydd digonedd
i rannu'r bwrdd â'r byd.
(Vernon Jones)
DIOLCHGARWCH
Mynd i'r siop y diwrnod o'r blaen a dal y drws i wraig ganol-oed ddod allan;
hithau'n fy mhasio heb edrych arnaf.
Stopio'r car – er mai gen i roedd yr hawl – er mwyn gadael i gar arall gael mynd yn gyntaf;
hwnnw'n mynd heibio fel tawn i ddim yn bod.
Plentyn mewn pram yn taflu tegan ar y stryd, minnau'n ei godi;
y fam yn ei gythru oddi arnaf, yn rhegi'r plentyn ac, yn guchiog ei gwedd, yn mynd ymlaen ar ei hynt.
Peidiwch â 'nghamddeall i! Doeddwn i ddim eisiau ffws, ond fe fyddai gwên, codi llaw neu sibrwd diolch wedi bod yn dderbyniol. Ond ai adlewyrchiad o'r gymdeithas yn gyffredinol yw'r tair enghraifft? Y gŵyn a glywn yw fod 'Diolch' yn air prin.
Os yw hynny'n wir, does ryfedd fod Cyfarfod Diolchgarwch yn mynd ar i lawr.
Os na fedrwn ni ddiolch i'n gilydd, sut y mae disgwyl i ni ddiolch i Dduw?
Ond efallai na wêl rhywun ddim i ddiolch amdano.
Pam y dylwn i ddiolch? Dydy bywyd ddim yn hawdd, a dw i'n gweithio'n ddigon caled am yr hyn ydw i'n ei gael.
Does yna neb yn dy rwystro di rhag mynd o gwmpas yn weddol ddidramgwydd;
edrych i gyfeiriad Irac, y bomio a'r saethu, a byw yn hunllef,
– a dwed air o ddiolch.
Mae dy gnydau di'n tyfu, pe bai ond y blodau neu'r chwyn yn yr ardd; mae yna dyfiant a'r ffrwyth ar dy fwrdd.
Dydy hi ddim wedi bwrw glaw mewn rhannau o'r Affrig ers blynyddoedd, a dim ond llwch gei di o lwch!,
– a phlyga i ddiolch.
Ar ddiwedd dydd, mi fyddi'n cau'r drws rhag y nos ac yn suddo i foethusrwydd dy aelwyd wedi dy amgylchynu gan beirianwaith y dechnoleg ddiweddaraf;
ond dim ond cyfnas blastig fydd to i rywrai a'r aelwyd fydd hofel neu ddrws siop,
– a rho air o ddiolch.
Os wyt ti'n mwynhau bywyd ac iechyd, ac yn gallu symud o gwmpas, rho dro i Ysbyty Bronglais, o ward i ward, dos a gwêl “deulu'r poen a'r cystudd”,
– ac o waelod dy enaid, diolcha!
Ac ar ambell awr dywyll yn dy hanes, a bywyd fel pe bai o'n cau i lawr arnat ti, fe ddaeth rhywun yn dawel, dawel i sefyll yn d'ymyl di;
adawodd o mo'i enw, ond gadawodd ei fendith a'i nerth.
Ac os gwyddost ti am brofiad fel yna, rho ddiolch iddo a chanmol ei enw:
diolch fo'n ein calon,
moliant yn ein cân.
©Hawlfraint Ymddiriedolwyr Capel y Garn yw cynnwys gwreiddiol y safle. All original material on the site is copyright by the Trustees of Capel y Garn.
Crewyd y wefan/Website created by
Technoleg Taliesin Cyf. -
Admin/Gweinyddu