Eglwys Bresbyteraidd Cymru / The Presbyterian Church of Wales
Capel y Garn, Bow Street
 Gweinidog: Y Parch. Ddr R. Watcyn James
 Ysgrifennydd: Mr Alan Wynne Jones
Y Capel
 

Myfyrdodau ar y Pentecost



Gweddi'r Pentecost

Arglwydd y Pentecost, ti sy'n rhoi bywyd ac egni i'r Eglwys.
Fel dy ddisgyblion yng nghanol y storm, a'r tonnau'n eu bygwth,
down ninnau hefyd atat yng nghanol storm ein dyddiau ni.

Gwyddom nad ydym ein hunain yn ddigonol
mewn ffydd, gobaith na chariad i wynebu heriau ein dydd.

Gwyddom dy fod wedi addo ein harwain;
tyrd atom, i oleuo'n deall, unioni'n cerddediad, cynhesu'n profiad yng ngalwad dy deyrnas.

Gwyddom dy fod wedi addo rhoi egni a grym i ni;
tyrd atom, i fegino'n ffydd, tanio'n dychymyg a rhoi hyder i'n hewyllys fel y gallwn weithio'n ddi?flino drosot Ti.

Gwyddom dy fod yn cadw dy addewidion;
tyrd atom i'n llenwi nes ein gorlifo â chariad, i'n gwneud yn werddon o fywyd newydd
fel y gallwn ynot ti adnewyddu bywyd bro, cenedl a byd.

Arglwydd y Pentecost, ffynhonnell ein bywyd a'n hegni,
bywha dy waith ynof fi, ynom ni a thrwyom oll er clodfori dy enw
ac iacháu byd toredig. AMEN.

(O daflen ARHOSWCH YN ENW DUW, Mai 2010)



Rhannu Doniau'r Ysbryd


Ti, Ysbryd Glân, a rydd fywyd:
galw ni i rannu'n bywyd ag eraill.

Ti, Ysbryd Glân, sy'n ein cryfhau:
helpa ni i ddwyn cysur i eraill.

Ti, Ysbryd Glân, sy'n ysbrydoli:
galluoga ni i ysbrydoli eraill.

Ti, Ysbryd Glân, sy'n maddau:
dyro ras i ninnau faddau'n llwyr.

Ti, Ysbryd Glân, sy'n cyfiawnhau:
nertha ni i frwydro dros gyfiawnder.

Ti, Ysbryd Glân, sy'n rhoddi tangnefedd:
gwna ni'n weithredwyr heddwch.

(John H. Tudor, o Amser i Dduw, gol. Elfed ap Nefydd Roberts)


©Hawlfraint Ymddiriedolwyr Capel y Garn yw cynnwys gwreiddiol y safle. All original material on the site is copyright by the Trustees of Capel y Garn.
Crewyd y wefan/Website created by Technoleg Taliesin Cyf. - Admin/Gweinyddu