Gweddi wrth gyflwyno rhoddion Nadolig
Dad graslon,
Fel Mair, cyflwynwn ein hewyllys i ti.
Fel y bugeiliaid, cyflwynwn ein haddoliad i ti.
Fel y doethion, cyflwynwn i ti ein cyfoeth.
Fel Joseff, cyflwynwn i ti ein gwaith.
Rhodd gennyt ti yw ein bywyd, felly cyflwynwn ein bywyd i ti,
Yn enw Iesu.
Amen
Ymweliad y gwŷr doeth
1 Cafodd Iesu ei eni yn Bethlehem yn Jwdea, yn y cyfnod pan oedd Herod yn frenin. Ar ôl hynny daeth gwŷr doeth o wledydd y dwyrain i Jerwsalem
2 i ofyn, "Ble mae'r un sydd newydd gael ei eni yn frenin yr Iddewon? Gwelon ni ei seren yn codi yn y dwyrain, a 'dyn ni yma i dalu teyrnged iddo."
3 Pan glywodd y brenin Herod hyn roedd wedi cynhyrfu'n lân. Roedd cynnwrf yn Jerwsalem hefyd.
4 Felly galwodd Herod y prif offeiriaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith Iddewig i'w gyfarfod. Gofynnodd iddyn nhw, Ble mae'r Meseia i fod i gael ei eni?
5 "Yn Bethlehem Jwdea," medden nhw. "Dyna ysgrifennodd y proffwyd:
6 "'Bethlehem, yn nhiriogaeth Jwda
Nid rhyw bentref dinod yn Jwda wyt ti;
oherwydd ohonot ti daw un i deyrnasu,
un fydd yn fugail i arwain fy mhobl Israel.'"
7 Ar ôl cael gwybod hyn, dyma Herod yn galw'r gwŷr doeth i gyfarfod preifat. Cafodd wybod ganddyn nhw pryd yn union oedd y seren wedi ymddangos.
8 Yna dwedodd, "Ewch i Bethlehem i chwilio am y plentyn. Yna gadewch i mi wybod pan ddowch o hyd iddo, er mwyn i mi gael mynd i dalu teyrnged iddo hefyd."
9 Ar ôl gwrando beth oedd gan y brenin i'w ddweud, i ffwrdd â nhw. Dyma'r seren yn mynd o'u blaen nhw, nes iddi aros uwchben yr union fan lle roedd y plentyn.
10 Roedden nhw wrth eu boddau!
11 Pan aethon nhw i mewn i'r tŷ, dyna lle roedd y plentyn hefo'i fam, Mair, a dyma nhw'n disgyn ar eu gliniau o'i flaen a'i addoli. Yna dyma nhw'n agor eu paciau a rhoi anrhegion gwerthfawr iddo aur a thus a myrr.
12 Rhybuddiodd Duw nhw mewn breuddwyd i beidio mynd yn ôl at Herod, felly dyma'r gwŷr doeth yn teithio'n ôl i'w gwlad eu hunain ar hyd ffordd wahanol.
(Fersiwn
beibl.net o Mathew 2:1-12)
Nid ysgrifennu'r hanes am ei fod yn hanesyn bach neis a wnaeth yr Efengylwyr,
ond ysgrifennu i bwrpas, ysgrifennu er mwyn ceisio argyhoeddi.
Dyma a ddywed Ioan ar ddiwedd ei Efengyl,
'Ond y mae'r rhain wedi eu cofnodi er mwyn i chwi gredu
mai Iesu yw'r Meseia, Mab Duw,
ac er mwyn i chwi trwy gredu gael bywyd yn ei enw Ef.'
Beth yw'n hymateb ni, tybed?
Os down i Fethlehem mewn gwirionedd y Nadolig yma,
yna ni allwn fynd oddi yno yn hollol yr un fath.
Dywedir am y brenhinoedd eu bod wedi dychwelyd i'w gwlad
'ar hyd ffordd arall'.
Wedi plygu wrth grud yr un bychan,
ni allent fod yn hollol yr un fath â chynt
roedd bywyd wedi newid.
Wedi gweld ei ogoniant ef,
ni allwn anghofio'n cyd-ddyn.
Fedrwn ni ddim anghofio'r rhai hynny
na chânt gyfle i ddathlu'r Nadolig,
y rheini sy'n byw yng nghanol rhyfel
a'r trueniaid nad oes ganddynt ddigon i fyw arno.
Gweddi
Llewyrched dy oleuni dwyfol, Arglwydd,
ym mannau tywyll ein daear.
Deued y goleuni hwnnw'n obaith
i'r carcharor trwy farrau tywyll ei gell,
i'r claf yng nghanol cystudd ei ystafell,
i'r unig yn ei gornel gyfyng,
i'r tlawd a'r newynog yng nghanol eu byd llwm,
i'r diniwed a'r diamddiffyn yng nghanol braw a dychryn rhyfel,
ac i'r profedigaethus yn y storm sy'n curo arnynt.
Amen.