Eglwys Bresbyteraidd Cymru / The Presbyterian Church of Wales
Capel y Garn, Bow Street
 Gweinidog: Y Parch. Ddr R. Watcyn James
 Ysgrifennydd: Mr Alan Wynne Jones
Y Capel
 

Myfyrdodau ar y Grawys a'r Pasg


Myfyrdod y Pasg

Hwyrddydd o Ebrill ydoedd,
Ebrill â'i awel fwyn;
Ac ar y ffordd y defaid
Âi heibio gyda'u hŵyn.
Y defaid a'u hŵyn âi heibio
I fyny am Fwlch y Llyw.
Hwyrddydd o Ebrill ydoedd;
Meddyliais am Oen Duw.

(Katherine Tynan Hinkson,
cyf Cynan)

Byddwn wrth fy modd yn adrodd y gerdd 'Defaid ac Ŵyn' mewn eisteddfodau pan oeddwn yn blentyn. Cystal i mi gyfaddef na ddeallwn wir ystyr ac arwyddocâd y geiriau bryd hynny, ond bellach daeth y teitl 'Oen Duw' am yr Arglwydd Iesu i olygu rhywbeth annwyl a defosiynol, yn arbennig felly yng nghyswllt gweinyddu a chyfranogi o Sacrament Swper yr Arglwydd.

Ioan Fedyddiwr oedd yr un a gyfeiriodd at Iesu fel 'Oen Duw'. Meddai, wrth ei weld yn dod tuag ato, 'Dyma Oen Duw, sy'n cymryd ymaith bechod y byd.' (Ioan 1:29). Mae'n siŵr mai am oen y Pasg y meddyliai Ioan ar y pryd. Cofiwn mai gwaed yr oen aberthol ar byst a chapan drws y tŷ oedd wedi diogelu cartrefi'r Israeliaid, a'u gwaredu o'r Aifft, rhag dinistr a marwolaeth (Exodus 12:11?13).

Diau fod y darlun o'r oen ym mhroffwydoliaeth Eseia hefyd ym meddwl Ioan, ac yn arbennig un o Ganeuon y Gwas Dioddefus am yr oen a arweiniwyd i'r lladdfa (Eseia 53:7). Ydy, mae'r 'Agnus Dei' yn deitl hynod o drawiadol a gafaelgar, ac yn symbol o gariad, aberth, dioddefaint a buddugoliaeth Crist.

Cofiwn, yn y cyswllt hwn, pa mor daer yr oedd yr Iesu ei Hun i gael bwyta gwledd y Pasg gyda'i ddisgyblion cyn iddo ddioddef (Luc 22:15), a phrif fwyd y wledd fyddai oen wedi'i aberthu yng nghyffiniau'r deml. Y mae'n amlwg felly mai o fewn cyd-destun gwledd y Pasg y cynhaliwyd y Swper Olaf ac i'r Iesu sylweddoli y câi yntau hefyd ei ladd yn y man. Am hynny, yr oedd yn awyddus i'w ddisgyblion weld ei farwolaeth fel gwaredigaeth, yn union fel y waredigaeth o'r Aifft.

Ond er bod y darlun o Oen Duw yn myned i Galfari yn fyw yn ein cof, tybed pa mor arwyddocaol yn ein golwg yw ei ddioddefaint a'i farwolaeth? Mor hawdd yw edrych ar y Groes a theimlo dim. Mor hawdd yw diystyru'r hyn a wnaeth Iesu trosom ar Galfaria, heb ein bod yn sylweddoli pa mor anhraethol fawr oedd yr Iawn a dalwyd yno. Dygodd Iesu faich pechod y byd drwy'i ddioddefaint erchyll a bu farw yn ein lle.

Yr Oen di-fai, yr Oen di-fai ?
O! canwn ei glod ynghyd:
Yr Oen di-fai, yr Oen di-fai
Fu farw dros y byd.

(Elfed)

Wedi'r Groglith fe ddaw'r Trydydd Dydd â'i fuddugoliaeth ? buddugoliaeth yr Oen ar bechod ac angau. Yn neges y Pasg y mae gobaith i bob un ohonom, gobaith yr 'atgyfodiad i fywyd tragwyddol'. Am bron i ugain canrif bu'r Eglwys yn pregethu efengyl yr Atgyfodiad gan ei chyhoeddi drwy gyfrwng y gair llafar ac ysgrifenedig, yn ei bywyd a'i haddoliad, yn ei hysgrythurau a'i sacramentau ac yn ei chredoau a'i chyffesion ffydd.

Er hynny, ni all yr un ohonom haeru bod credu yn yr Atgyfodiad yn beth rhesymol i'w wneud. Cael ein hargyhoeddi yr ydym bob tro. Un o'r disgrifiadau mwyaf grymus o'r argyhoeddi hwnnw yw'r hyn a fynegodd C S Lewis yn ei gyfrol, Surprised by Joy. Ac yntau ar y pryd yn Gymrawd yng Ngholeg Magdalen yn Rhydychen, yr oedd yr ysgolhaig a ddaeth yn ddiweddarach yn amddiffynnydd mawr y Ffydd Gristionogol, yn gwrthod credu. Ond cael ei argyhoeddi fu ei hanes. Meddai, 'Deuthum yn ymwybodol o ddynesiad cyson a diwrthdro yr Un yr oeddwn yn taer ddyheu am beidio â'i gyfarfod.' Drwy ffydd, boed i ninnau hefyd ddod wyneb yn wyneb â'r Crist atgyfodedig y Pasg hwn.

'N ôl marw Brenin hedd,
A'i eiddo i gyd yn brudd,
A'i roi mewn newydd fedd,
Cyfodai'r trydydd dydd;
Boed hyn mewn cof gan Israel Duw
Mae'r Oen a laddwyd eto'n fyw.

(John Thomas)

(WRhM)



Gweddi ar Sul y Blodau

Cyflwynwn i ti, O Dduw, ein Tad,
Hosanna ein haddoliad,
am i Iesu Grist ddod yn Frenin
i'n byd a'n bywyd ni.

Am iddo roi heibio ei ogoniant dwyfol
a dod mewn gwyleidd-dra ac addfwynder
yn Frenin hedd ac yn gyfaill pechaduriaid:
Hosanna yn y goruchaf.

Am iddo rodio'n isel a gostyngedig ar ebol asyn,
a'n dysgu i weld gwerth ac urddas y pethau distadl
ac i barchu popeth a geraist ti:
Hosanna yn y goruchaf.

Am i'w ddisgyblion ei ddwyn ar ei daith
a rhoi esiampl i ninnau hefyd gerdded yn ei gwmni
a bod yn ffyddlon iddo bob amser:
Hosanna yn y goruchaf.

Am i ganghennau'r palmwydd ymuno yn y mawl, a dangos
i ni fod yr holl greadigaeth yn dweud amdano ac yn canu ei glod:
Hosanna yn y goruchaf.

Am i byrth y ddinas agor iddo a'i groesawu'n Frenin, a'n
gwahodd ninnau i agor pyrth ein heneidiau i'r Brenin ddod i mewn:
Hosanna yn y goruchaf.

Ond ni fynnem ei dderbyn, Arglwydd, â brwdfrydedd y foment
yn unig, ac yna ei adael a'i wadu, ond ei groesawu i aros
yn Frenin ac Arglwydd arnom.

Pan fydd canghennau'r palmwydd wedi gwywo,
y dyrfa wedi cefnu,
yr Hosanna wedi distewi
a'r ffordd yn wag,
rho ras i ni barhau yn ffyddlon
i'n Harglwydd a'n Brenin. Amen.

(Yr Enw Mwyaf Mawr, Huw John Hughes, t. 142)

Y Groglith


Arglwydd, mor benwan y bûm!
Yn pengrasu uwchben geiriau gras,
Yn ceisio credu y gallai gweithredu cariad
A byw hunan-aberthol
Orchfygu casineb a dofi'r bwystfil.
Heddiw, mae hoelion yn dâl am ei haelioni,
A gwawd a gwaed yw gwobr ei gariad.

Penwan, Arglwydd?
A geiriau'i faddeuant yn glanhau
Düwch fy nghalon oer.

Penwan? A llef fuddugoliaethus ei 'Gorffennwyd!'
Yn sialens i fy myw arwynebol.

Penwan? A thynerwch ei ddwylo
'Ar ddeupen garw'r groes'
Yn fy nenu i, ? a'r byd yn grwn
I gylch ei gariad di-ollwng.
"............... a thystion ŷm ni
Mai gobaith yr oesau yw Croes Calfari".


Y Pasg


Mae hi'n dywyll, Arglwydd!
Fe gafodd Uffern barti-dathlu bnawn Gwener d'wetha'.
Cuddiwyd yr haul mewn cywilydd a daeth y nos.
Boddwyd ein breuddwydion gan ddagrau'n siom.
Ciliodd gobaith-yfory-gwell gan blygu'i ben mewn digalondid.
?Ni a feddyliem mai hwn oedd yr un a waredai ??

Ond fe ddiffoddwyd y golau a'r gobaith
Yn dy groeshoelio di.
Daeth carchar marwolaeth a chlo maen-ar-fedd.
Gwacter ac anobaith a bedd ydy bywyd i ni bellach, Arglwydd.

Ond heddiw gwelwn faen wedi ei dreiglo,
Gwelwn olau mewn ogof,
A chofleidiwn, mewn llawenydd,
egni cariadus
Y Crist Anorchfygol,
Na all marwolaeth ei rwydo
Na bedd ei ddal yn gaeth.
Yr Iesu Byw,
'Pererin yr Oes Dragwyddol',
A fyn dorri trwy bob carchar
RWJ



Atgyfodiad

O fore oer y Groglith
Pan dduodd haul y nen,
Wrth weld Tywysog Bywyd
Yn crogi ar y Pren.
A'r prelad hunangyfiawn
Yn gorfoleddu'n hy
Wrth weld ei gynllwyn anfad
Yn troi y byd yn ddu.

O fore bendigedig
Oedd bore'r Trydydd Dydd.
Y cwmni llwfr ac euog
Ar dân gan hyder ffydd.
Lledaenodd y goleuni
I bedwar ban y byd.
A miloedd yn moliannu
Bendithion angau drud.

O Arglwydd gad i'n dystio
I'r Atgyfodiad nawr,
A dangos yn ein bywyd
Oleuni newydd wawr.
A'r cariad sy'n cymodi
Gelynion o bob oes;
Trwy ras y gwas dioddefus
A gwarth a gwyrth y Groes.

D. R. Thomas, Aberystwyth (o'r Goleuad, 16 Ebrill 1999)



Sul y Blodau



Aeth y disgyblion a gwneud
fel y gorchymynnodd Iesu iddynt;
daethant â'r asen a'r ebol ato,
a rhoesant eu mentyll ar eu cefn,
ac eisteddodd Iesu arnynt.

Taenodd tyrfa fawr iawn eu mentyll ar y ffordd,
ac yr oedd eraill yn torri canghennau o'r coed
ac yn eu taenu ar y ffordd.

Ac yr oedd y tyrfaoedd ar y blaen iddo
a'r rhai o'r tu ôl yn gweiddi:

'Hosanna i Fab Dafydd!
Bendigedig yw'r un sy'n dod
yn enw'r Arglwydd.
Hosanna yn y goruchaf!'
(Mathew 21: 6-9)

Agor y Pyrth
Arglwydd ein Duw, coffawn yn llawen
fynediad dy Fab Iesu Grist i ddinas Jerwsalem:
fel yr agorwyd pyrth y ddinas i'w dderbyn,
agorwn ninnau holl byrth ein bywyd iddo'n awr;
porth ein meddwl i dderbyn ei wirionedd;
porth ein calon i brofi ei gariad;
porth ein henaid i fwynhau ei gwmni.

Gyda'i ddilynwyr ym mhob oes ac ym mhob man,
ymunwn i'w groesawu a'i glodfori
yn Arglwydd y lluoedd
ac yn Frenin y gogoniant.

(Amser i Dduw, gol. Elfed ap Nefydd Roberts)


O Arglwydd y gwanwyn, anadla drwy'r tir
a deffro ein daear o gwsg sydd mor hir,
boed gwres anorchfygol dy gariad dy hun
yn ffrwydro gorfoledd yng nghalon pob un.

Dy nerth ar ein daear, O Arglwydd y wyrth,
ddeisyfwn i dreiglo y meini o'r pyrth,
dy nerth i gyfannu rhwygiadau yr oes,
y nerth a goncwerodd waradwydd y groes.

Llewyrcha, O Arglwydd, oleuni dy ffydd
i symud ffôl rwystrau ein bywyd bob dydd,
i aileni'r cariad a buraist drwy boen
a'i wrid yn disgleirio tangnefedd yr Oen.

O ffynnon dy glwyfau daioni a dardd
mor fywiol ei ffrydiau â'r chwŷs yn yr ardd;
dros grastir ein bywyd, O Arglwydd yr had,
llifeiried dy wanwyn yn ddwyfol fwynhad.


Vernon Jones


Y Grawys



Roedd i'r cyfnod yma, sef y deugain niwrnod hynny rhwng Dydd Mercher Lludw a Sul y Pasg,
gynt ystyr ysbrydol,
cyfnod o hunanddisgyblaeth pan eid heb rhai pethau,
er mwyn paratoi ar gyfer dathlu Atgyfodiad Iesu.

Mae'r arfer yn parhau yn ein dyddiau ni, gwneud heb siocledi, creision, cwrw, etc.,
ond, i lawer erbyn hyn, collwyd yr ystyr ysbrydol,
a daeth yn gyfle i golli pwysau yn unig!

Ond oni ddaeth hi'n amser i ni, fel Cristnogion, ailafael yn ei wir ystyr?

Fe gafwyd y term 'Dydd Mercher Lludw' oherwydd fod
Cristnogion yn rhoi lludw ar eu pennau yn arwydd o edifeirwch,
ac roedd gwneud heb rai pethau yn yr wythnosau oedd yn dilyn
yn arwydd o'r un peth.

Roedd yn gyfle iddynt ddal eu hunain yng ngoleuni'r Tragwyddol,
gweld eu hanneilyngdod, ac edifarhau.

Does yr un ohonom heddiw nad yw'n poeni am gyflwr ein cymdeithas.
Ond sut y mae cael y gymdeithas honno yn ôl i'w lle?

Yr adwaith yw pasio mwy a mwy o ddeddfau i geisio rheoli
ein hunanoldeb a'n diffyg hunanddisgyblaeth.
Ond adlewyrchu cyflwr ein calonnau mae ein gweithredoedd.

Dyna sialens siwrne'r Grawys, siwrne sy'n dechrau gyda lludw,
yn mynd ymlaen drwy dywyllwch edifeirwch,
ac sy'n gorffen yng ngoleuni'r Trydydd Dydd
pan ddaw'r Crist byw i'n cyfarfod,

'ac yna bod fy mhobl, a elwir wrth fy enw, yn ymostwng ac yn gweddïo,
yn fy ngheisio ac yn dychwelyd o'u ffyrdd drygionus,
yna fe wrandawaf o'r nef,
a maddau eu pechod ac adfer eu gwlad'.

RWJ


©Hawlfraint Ymddiriedolwyr Capel y Garn yw cynnwys gwreiddiol y safle. All original material on the site is copyright by the Trustees of Capel y Garn.
Crewyd y wefan/Website created by Technoleg Taliesin Cyf. - Admin/Gweinyddu