Eglwys Bresbyteraidd Cymru / The Presbyterian Church of Wales
Capel y Garn, Bow Street
 Gweinidog: Y Parch. Ddr R. Watcyn James
 Ysgrifennydd: Mr Alan Wynne Jones
Y Capel
 

Er cof am Richard Bennett


Y diweddar Richard Bennett

Teyrnged y Parchedig R W Jones i Richard Thomas Bennett, Ynys Capel, Tal-y-bont


Ganwyd chwech o blant i Andrew a Catherine Bennett, pedwar mab a dwy ferch, a Richard Bennett oedd yr ail blentyn. Yn 1916, ar ferm Rhydybenwch, Cwm Glyn Hafen, heb fod nepell o Lyn llygad Hafren, y gwelodd o gyntaf olau dydd.

I ysgol Hen Neuadd ger Llanidloes yr âi pan oedd yn blentyn ? cerdded yno trwy bob tywydd.
Rwy'n siwr fod bywyd yn brysur a diddorol yno i fachgen fferm. Gan fod y tŷ ar ochr y ffordd, roedd llidiart i'w hagor, a Richard Bennett wrth ei fodd yn rhedeg i agor y giât a chyfarch y sawl oedd yn teithio. Arferai fynd gyda'i dad ar gefn ceffyl i sioe Llanbryn-mair, a phan oedd yn teithio'r ffordd honno'n ddiweddar, roedd yn dal i allu cofio enw pob fferm.

Gadawodd yr ysgol yn 14 oed, ac yna, yn hydref 1931, ac yntau'n 15 oed, symudodd y teulu i Maenuwch, Clarach. Aeth ei frodyr i wasanaethu ar ffermydd cyfagos, ond arhosodd Richard Bennett adref yn helpu'i rieni. Ac roedd yn weithiwr diwyd. Un o'i hoff ddyddiau gwaith oedd diwrnod cneifio. Fe oedd yn lapio'r gwlân, a gwnaeth hynny eleni fel pob blwyddyn arall. Fe ddaeth ei frawd hynaf, sef Defi Huw, adref i amaethu gydag ef, a phan aeth y rhieni'n hen ac i fethu gwneud, mawr fu eu gofal amdanynt.

Yn y blynyddoedd olaf, cafodd gartref a gofal arbennig ar aelwyd Ynys Capel. Ef oedd cyfeirlyfr y teulu, ac os oedd angen gwybod pwy oedd yn perthyn i bwy, yna, Richard Bennett oedd yn gwybod.

Er ei fod yn helpu ar y fferm, roedd hefyd yn rhydd i wneud yr hyn a hoffai, ac roedd ei fywyd yn gadwyn o achlysuron cymdeithasol ? sioe Aberystwyth, Sioe Frenhinol Llanelwedd, sioe Tal-y-bont, y Steddfod Genedlaethol. Fe aeth eleni ar y bws i Steddfod Arfon!

Bob wythnos, byddai'n rhaid ymweld ag Aberystwyth, ac ar bnawn Mercher, mynd ar y bws i Fachynlleth. Ond i Richard Bennett, y Sul oedd uchafbwynt ei fywyd. Pan oedd yn byw ym Maenuwch, cerddai dros y bryn deirgwaith y Sul, gadael ei welingtons ym môn y clawdd, ac yna cerdded i'r capel. Rhwng oedfaon, fe fyddai'n rhaid godro a gwneud efo'r da. Sut roedd o'n cael amser, dydw i ddim yn gwybod ? dim ond fod addoli'n ddigon pwysig i Richard Bennett fel ei fod o'n gwneud amser.

Ers y deuddeg mlynedd rydw i wedi bod yma, prin, os o gwbl, y gwelais i gornel Richard Bennett yn wag fore Sul. Rhaid talu teyrnged i Bennett Jenkins am ofalu ei fod yn cyrraedd drwy roi lifft iddo yn y Land Rover bob bore Sul.

Fe wnaeth le cynnes iawn iddo'i hun yn yr Eglwys hon. Gwelodd yr Eglwys ei werth, a 48 o flynyddoedd yn ôl, cafodd ei ethol yn flaenor. Bu mor groesawus wrth bawb: y wên lydan a'i sirioldeb, y gwasgu llaw cynnes ? nid un, ond dwy law. Bu hefyd yn arbennig o hael i wahanol gymdeithasau oddi mewn i'r Eglwys. Roedd pawb fel pe'n tynnu ato, ac roedd yn amlwg fod hoffter ohono a'r parch tuag ato yn fawr. Dyma un oedd yn hoff o bobl.

Ond doedd y Sul ddim yn darfod ar ôl oedfa'r bore. Roedd yn rhaid gwrando ar 'Caniadaeth y Cysegr', a rhaglen Dai Jones 'Ar eich cais', a gwylio 'Dechrau Canu, Dechrau Canmol'.

Roedd Richard Bennett yn hoff iawn o flodau. Yn Sioe Llanelwedd, byddai bob amser yn ymweld â'r babell flodau, a byddai'n siwr o ddod â phlanhigyn yn ôl gydag ef. Fe fyddai tynnu coes wedyn nad oedd dim lle iddo fo a'r planhigyn yn y car ac y byddai'n rhaid i un ohonynt aros ar ôl.

Cymharol fyr fu ei gystudd, ac fe fyddai hynny wrth ei fodd gan na fynnai fod yn faich ar neb.

Chwith yw ei golli i'r teulu, i'r gymdeithas, ac i'r Eglwys yma: colli ei anwyldeb, ei hiwmor tawel, ei ffyddlondeb, ei gywirdeb, ei ffydd, ei sirioldeb a'r cadernid tawel.

Trist yw ei golli adeg y Nadolig; fe fydd gwawr y brofedigaeth dros y Nadolig, ac fe fydd cadair wag wrth y bwrdd.

Ond ydy'r pwyslais yn anghywir gennym? Onid yr hyn y dylem ni ei bwysleisio ydy fod gwawl a goleuni'r Nadolig dros y brofedigaeth. Taflu cysgod dros lawenydd y mae'r cyntaf, taflu gobaith a goleuni dros dristwch mawr y mae'r ail.

Emaniwel ? Duw sydd hefo ni, yn nerth i chi, ac yn fywyd i Richard Bennett.

20 Rhagfyr 2005


©Hawlfraint Ymddiriedolwyr Capel y Garn yw cynnwys gwreiddiol y safle. All original material on the site is copyright by the Trustees of Capel y Garn.
Crewyd y wefan/Website created by Technoleg Taliesin Cyf. - Admin/Gweinyddu