Eglwys Bresbyteraidd Cymru / The Presbyterian Church of Wales
Capel y Garn, Bow Street
 Gweinidog: Parch. Wyn Rhys Morris, Berwynfa, Penrhyn-coch, Aberystwyth, SY23 3EW. 01970 820939
 Ysgrifennydd: Mr Alan Wynne Jones
Y Capel
 

Ymddeoliad y Parchedig R W Jones o'r ofalaeth, 31 Mawrth 2006


Y Parchn John Tudno Williams ac R W Jones
Nos Wener, Mawrth 24ain, cynhaliwyd cyfarfod yng Nghapel y Garn i gyflwyno tysteb i'r Parchedig R W Jones ar ei ymddeoliad o'i weinidogaeth ar ofalaeth y Garn a'r Borth. Roedd y nifer a ddaeth ynghyd, a naws y noson, yn dystiolaeth o ddiolchgarwch ei aelodau am ei wasanaeth yn ystod y deuddeng mlynedd y bu'n fugail yma.

Y Parchedig Ddr John Tudno Williams oedd llywydd y noson. Offrymodd y Parchedig Nicholas Bee weddi ar ran yr eglwysi a'r Parchedig Elwyn Pryse weddi ar ran y gweinidog.

Cafwyd cyfarchion o'r eglwysi gan John Hefin (Y Gerlan), James Morgan (Nasareth), Brian Davies (Rehoboth), David Evans (Y Babell), Tegwyn Lewis (Madog) a'r Arglwydd Elystan (Y Garn), a chyfarchion barddol gan Vernon Jones a Carys Briddon.

Rhoddwyd eitem gan blant ac ieuenctid yr ofalaeth a chanwyd yr anthem 'I Bwy y Perthyn Mawl?' gan gôr yr ofalaeth, dan arweiniad Alan Wynne Jones.

Mrs Angharad Rowlands (Madog) gyflwynodd y dysteb i'r Parchedig R.W. Jones, a derbyniodd Mrs Rhian Jones rodd gan Mrs Dora Richards y Borth, a blodau gan Charlotte Drakeley, Ysgol Sul y Garn.

Roedd gwledd wedi ei pharatoi gan y chwiorydd ar ôl y gwasanaeth.

Am luniau o'r cyfarfod, ewch i'r oriel

Cyflwynodd plant yr Ysgol Sul rodd i'r gweinidog fore Sul, 19 Mawrth, a phrynhawn Sul, 26 Mawrth, tro Ysgol Sul yr Oedolion ym Methlehem oedd hi i fynegi eu gwerthfawrogiad.


I'r Parch R W Jones ar ei ymddeoliad


I'r Arglwydd, gwas tragwyddol. ? Yn y Garn
Rhoes i'r Gair wisg ddwyfol,
A naws brodwaith ysbrydol
Ei waith a erys ar ôl.

Vernon Jones


Rhown fawl i'n bugail heno
Sy'n dod i ben y daith,
Ers deugain mlynedd bellach
Bu'n ddiwyd wrth ei waith.

Fe dreuliodd ddeuddeng mlynedd
Ymhlith y Cardis, do,
Ond acen Llŷn sy'n llifo
O hyd o'i enau o.

Fe wyddom y bydd colled
Ar ôl eich gofal chi,
Ond cofiwch am ein croeso
? Dowch nôl i'n gweled ni.

Cewch dreulio'r dydd yn canu,
Neu grwydro i bob man,
Ond gwyliwch, os yn beicio,
Nad codwm ddaw i'ch rhan!

Dymunwn ddyddiau dedwydd
A hir oes i fwynhau,
Gan ddiolch am bob cymorth,
? Pob bendith i chi'ch dau.

Carys Briddon, Rehoboth


Nodyn o ddiolch a ffarwél gan Swyddogion y Garn i'r Parchedig R W Jones ar ei ymddeoliad


Ein hannwyl gyfaill,

Pwyllgor Swyddogion, Mawrth 2006Gwibiodd y deuddeng mlynedd o'ch bugeiliaeth drosom 'megis chwedl', fel y dywed y Gair.
Drwy gydol y cyfnod hwnnw, buoch inni yn bopeth a ddisgwyliem ac a ddymunem ei weld mewn Gweinidog.

Rhoesoch inni arweiniad ysbrydol cadarn mewn gair a gweithred.
Dangosoch ymrwymiad arbennig yng ngyswllt yr ifanc.
Tyner a chynnes bob amser hefyd oedd eich gofal am yr afiach a'r gwan, y trallodus a'r methedig.
Fel pregethwr, yr oeddech mor rymus a huawdl â neb a ddringodd i bulpud ein henwad yn ein cyfnod.

Yn ychwanegol at hyn oll, y mae i chwi fwndel o ddoniau a nodweddion annwyl, gan gynnwys personoliaeth agored a chyfeillgar.
Yn ganwr o safon uchel, fe'ch trwythwyd yn niwylliant gorau ein cenedl.
Gwyddom hefyd yn dda am eich hoffter o dynnu coes mewn modd gogleisiol a chellweirus.
Y Parchedig R W Jones
Y mae i chwi y parch a'r serch uchaf yn y fro hon ymhlith aelodau
eglwysig a'r gymdeithas ehangach yn gyffredinol.
Pan fu i chwi, beth amser yn ôl (fel Elias gynt yn ei gerbyd tanllyd), ruthro yn fotorbeiciol tuag at fyd arall,
yr oedd pryder cymdogaeth gyfan am eich adferiad yn un real a diffuant.

Buasai'r nodyn hwn yn gwbl anghyflawn pe na chyfeiriem hefyd at Rhian, eich annwyl briod,
a gyfrannodd mor sylweddol at fywyd yr Eglwys yn ei ffordd ddirodres ei hun.

Boed nodded gorau'r Nef arnoch eich dau.

Gyda hiraeth a chyda llawer o ddiolch.
Swyddogion y Garn


Cyfraniad y plant

Gair gan y plant


Beth yw Mr Jones y Gweinidog i ni?

Stori ddiddorol, fel arfer yn ddoniol hefyd.
Wedyn, ?Gwrandwch ??
Dyna pryd bydde Mr Jones yn gwneud inni wrando a dysgu pethau pwysig am fywyd.

I ni, mae Mr Jones yn ddyn caredig iawn, yn barod i chwerthin a rhannu jôc, ond mae o ddifri am sut mae Iesu'n moyn inni fyw.

Pan mae Mr Jones yn y Capel, mae'r canu yn llawer gwell oherwydd bod ganddo lais mawr cyfoethog fel tase fe'n canu opera.

Y plant fydd yn ei golli fwyaf achos rydym ni yn edrych ymlaen at y stori a gweld beth sydd yn y bag coch efo'r defaid.

Rydym ni ? Rhun, Gwern ac Osian ? yn ddiolchgar iawn,
ac yn gobeithio bydd Mr Jones yn dod 'nôl i'n gweld yn aml.
Rhun Penri

Bugail da,
Oedfaon cyffrous,
Bob
Jones
Oedd yn swyno gyda
Naws
Ei
Straeon gwych.
Iwan a Meinir Williams
Charlotte yn cyflwyno blodau i Rhian
Roedd Mr Jones yn hapus ac yn ddoniol. Roedd e wedi bod 'da ni am lawer o flynyddoedd.
Rydym ni yn gobeithio y bydd e'n cael bywyd da yn ei gartref newydd.
Charlotte

Rydym yn drist fod Mr Jones yn ein gadael ni.
Gobeithio y byddwch chi'n dod 'nôl i'n gweld ni weithiau.

Roedd eich storis yn gwneud i ni chwerthin.
Roedd y bag yn ddoniol hefyd.
Fe fyddwn ni'n cofio am y defaid ar y bag.

Gobeithio y byddwch chi'n cael amser da yn Wrecsam.
Fyddwn ni byth yn anghofio amdanoch chi,
a gobeithio y byddwch chi ddim yn anghofio ni.
Thomas, Iestyn a Dinas



Dau atgof


Rydw i'n cofio'r tro cyntaf i Mr Jones ddod i'r Garn, yn ôl yn 1994.

Daeth â drych gydag ef a'i ddangos i ni'r plant,
a rhoi anogaeth i ni edrych yn ddwfn i mewn i ni'n hunain.
Dyna sut y byddaf yn hoffi cofio gwasanaeth Mr Jones i'r Capel
? fel arweinydd penderfynol ond yn ein harwain i syllu i mewn i'n hunain
ac i chwilio am yr ysbrydol oddi mewn.

Pan gawsom wersi cyn cael ein derbyn i'r Capel,
ymddiheurodd Mr Jones am gyfeirio atom fel ?'mach i?
? rhag ofn ein bod yn meddwl ei fod yn edrych i lawr arnom ni.
Roedden ni i gyd yn gytûn nad oedd angen iddo boeni am hynny o gwbl,
ac mewn gwirionedd, rydw i'n falch iawn o gael fy ngalw yn ?'mach i? gan Mr Jones
oherwydd fy mod yn falch o'r agosatrwydd arbennig sydd ganddo tuag ataf i a gweddill ei braidd.

Diolch am bopeth, ac ymddeoliad hapus i chi!
Seiriol Hughes



Dechrau'r Daith


Yn fuan ar ôl i'm cyfaill Byron Howells, Goginan, fynd i astudio ym Mangor
ar gychwyn ei daith i'r weinidogaeth, soniodd wrthyf am un o'i gyfeillion newydd,
Bob Llanbedrog (Byron oedd y cyntaf i'w alw felly, am mai Robat y gelwid ef yn ei gynefin), a chyn bo hir fe gyfarfûm â'r gŵr o Lanbedrog a fu'n gyfaill da imi byth oddi ar hynny.

Roedd Bob, Byron a minnau'n gorffen yn y colegau yn haf 1967, ac fe gafodd y tri ohonom alwadau i fugeilio gofalaethau ym Meirionnydd, a hynny yn esgor ar fynych seiadu a chydweithio. Sefydlwyd Bob yng ngofalaeth Llidiardau, Tal-y-bont a Chwmtirmynach (daeth cyfeillion y Parc dan ei ofal ymhen blwyddyn) ar 5 Medi, minnau yn Hen Gapel Llanuwchllyn a'r canghennau trannoeth, a Byron yn Nhrawsfynydd ac Abergeirw y diwrnod wedyn.

Byron oedd yr unig un i'w ordeinio yn Sasiwn y De a gynhaliwyd yn y Garn yng Ngorffennaf 1967, ond yr oedd Gareth Parry (ymsefydlodd yntau ym Mhenllyn, yn Llandderfel a Chefnddwysarn) yn gwmni i Bob yn Sasiwn y Gogledd yn Seilo, Caernarfon (yr hen addoldy), ac yr oedd Gwenda a minnau yno mewn oedfa a barhaodd am deirawr! Traethwyd ar 'Natur Eglwys' gan y Parch W J Thomas, Caernarfon, a'r Parch J T Roberts, Cerrigydrudion, a draddododd y 'Cyngor' (maith).
Y Parchn R W Jones a W J Edwards
Bedwar diwrnod wedi'r oedfa hirfaith roedd Bob a minnau yn gwasanaethu yn ein priodas gyntaf yng Nghapel Cwmtirmynach ar 25 Tachwedd 1967, pan unwyd Rhiain Davies (merch i gyfnither Alwen Morgan) o'r Cwm a John Manzini o Lanuwchllyn,
a chawsom ddiwrnod bendithiol yng nghwmni'r ddau deulu.

Buom gyda'n gilydd wedyn mewn angladdau ac oedfaon gwahanol, a mynd ar dro i Wrecsam i'r ddwy ysbyty i weld y cleifion ac i Swyddfa'r Dreth Incwm! Pan aed â mwy o arian nag a ddylid o gyflog Bob, aeth â Huw Jones, gweinidog Capel Tegid (a fu, fel Gwilym Williams, capel yr Annibynwyr, yn gefn mawr inni) gydag e, ac fe ddangosodd Yncl Huw Bach (fel y gelwid e gan ein merched ni) i bobol y dreth fod Mistar ar Mistar Mostyn!

Er i Bob adael y mynyddoedd am lan môr y Bermo ym 1973, byddem yn parhau i gwmnïa,
yn enwedig pan ddeuai i Fodurdy Llanuwchllyn
a dod i Garth Gwyn tra byddid yn trin y car neu'r moto beic.

Ac yna, wedi i Bob ddod i'r Garn a'r eglwysi eraill, adnewyddwyd y gyfeillach ac yntau'n galw i weld Mam a Nhad.
Wedi ymddeol a dychwelyd i Dregerddan, cawsom fod yng nghwmni'n gilydd yn amlach.
Roedd yn awyddus fod Gwenda a minnau'n ymsefydlu yma, ond mae'r gwalch yn mynd â'n gadael cyn bo hir.
Bydd raid cyrchu am Wrecsam i barhau'r seiadu.

Mae Bob a minnau wedi hiraethu'n aml am Byron a fu farw'n 49 oed yn Rhagfyr 1989,
ond y mae cofio arabedd a doniolwch yr hen gyfaill,
heb sôn am ei gyfraniad gloyw fel gweinidog a llenor,
wedi bod o gymorth i ninnau ddal ati am y deugain mlynedd hyn ymron.

Rwy'n diolch am y cyfle i gyfarch Bob ar derfyn ei weinidogaeth oludog
ac i ddymuno i Rhian ac yntau flynyddoedd o ddedwyddwch wedi'r llafurio hir.
W J Edwards




Sgwrs gyda'r Parchedig R W Jones ar drothwy ei ymddeoliad




MBH: Pa bryd benderfynoch chi eich bod am fynd i'r
weinidogaeth a pha bryd wnaethoch chi bregethu am y tro cyntaf?

RWJ: Roeddwn â'm bryd ar y weinidogaeth er pan oeddwn yn
fachgen ifanc iawn. Mae'n debyg fy mod yn cynnal gwasanaethau
ac yn pregethu ar ben stôl i aelodau'r teulu pan oeddwn yn bedair
oed, ac fe bregethais yn gyhoeddus am y tro cyntaf yn 17 oed.

MBH: Beth sydd wedi rhoi'r mwyaf o foddhad i chi yn ystod eich
gweinidogaeth?

RWJ: Cael cyfle i weithio gyda phlant a phobl ifanc. Rhai o'r
uchafbwyntiau cofiadwy i mi yw ambell wasanaeth lle roedd plant
a phobl ifanc yn cymryd rhan. Hefyd, gweld pobl yn gallu
goresgyn amgylchiadau anodd ofnadwy a dal i gydio yn eu ffydd.

MBH: Pa elfen o'r weinidogaeth fyddwch chi'n ei cholli fwyaf wedi
i chi ymddeol?

RWJ: Colli'r gofal dros bobl, yr elfen o fugeilio'r praidd.

MBH: Oes yna rai pethau fyddwch chi'n falch o beidio â gorfod eu
gwneud?

RWJ: Llenwi ffurflenni, llunio chwech o anerchiadau diwedd
blwyddyn ar gyfer yr eglwysi, a mynd i bwyllgorau diddiwedd.

MBH: Pa un yw eich hoff ran o'r Beibl?

RWJ: Rhan olaf yr wythfed bennod o Lythyr Paul at y Rhufeiniaid,
sy'n darllen,

'Pwy a'n gwahana oddi wrth gariad Crist? Ai
gorthrymder, neu ing, neu erlid, neu newyn, neu noethni, neu
berygl, neu gleddyf? ? Yr wyf yn gwbl sicr na all nac angau nac
einioes, nac angylion na thywysogaethau, na'r presennol na'r
dyfodol, na grymusterau nac uchelderau na dyfnderau, na dim
arall a grewyd, ein gwahanu ni oddi wrth gariad Duw yng Nghrist
Iesu, ein Harglwydd.'

MBH: Pa rai yw eich hoff emynau?

RWJ: O Fab y Dyn, Eneiniog Duw, fy Mrawd
a'm Ceidwad cry',
ymlaen y cerddaist dan y groes a'r gwawd
heb neb o'th du;
cans llosgi wnaeth dy gariad pur bob cam,
ni allodd angau'i hun ddiffoddi'r fflam.

a hefyd,

O gariad na'm gollyngi i,
gorffwysfa f'enaid ynot sydd;
yr einioes roddaist, cymer hi,
a llawnach, glanach fyth ei lli
yn d'eigion dwfn a fydd.

MBH: Pa fath o gerddoriaeth sy'n apelio atoch?

RWJ: Rydw i'n hoff o lawer math o gerddoriaeth,
o opera i emynau Cymraeg i ganu gwlad.
Does gen i ddim llawer i'w ddweud wrth jas a rap,
ond rydw i'n hoffi Roy Orbison, Meat Loaf, a Bonnie Tyler.
Y Parchedig R W Jones ar ei fotobeic newydd
MBH: Beth yw eich gobeithion i'r dyfodol yn eich bywyd personol?

RWJ: Cael cyfle i ymlacio am ychydig a threulio mwy o amser yng nghwmni Rhian,
a gweld mwy ar y plant
? a hefyd mynd ar fy meic modur newydd.

MBH: Beth yw eich gobeithion i'r Garn ac eglwysi eraill yr ofalaeth?

RWJ: Mae'r ofalaeth yn gyfoethog o ran adnoddau.
Daliwch ati gan ddefnyddio'r doniau hyn heb laesu dwylo.
Diolch am bob caredigrwydd a'r dymuniadau da, a gweddïaf y bydd bendith arnoch.

MBH: Diolch am fod mor barod i ateb fy nghwestiynau,
a dymunwn y gorau o bopeth i chi a Rhian yn y dyfodol.





©Hawlfraint Ymddiriedolwyr Capel y Garn yw cynnwys gwreiddiol y safle. All original material on the site is copyright by the Trustees of Capel y Garn.
Crewyd y wefan/Website created by Technoleg Taliesin Cyf. - Admin/Gweinyddu