Eglwys Bresbyteraidd Cymru / The Presbyterian Church of Wales
Capel y Garn, Bow Street
 Gweinidog: Y Parch. Ddr R. Watcyn James
 Ysgrifennydd: Mr Alan Wynne Jones
Y Capel
 

William Llewelyn Edwards


Yn 2008 'roedd Capel y Garn yn dathlu Canmlwyddiant geni un o'i phrif gerddorion, sef W. Llewelyn Edwards (1908-2000) a hynny mewn cymanfa fer.

Darlledwyd y gymanfa, dan arweiniad Alan Wynne Jones, yn y gyfres Caniadaeth y Cysegr brynhawn Sul 16 Tachwedd, a'i hailddarlledu yn gynnar - 5.29 a.m. - fore Sul, 23 Tachwedd. (Gweler y lluniau yn yr oriel)

Ganwyd William Llewelyn Edwards ar 18 Tachwedd 1908, ac yn ddiweddarach ef a'i frawd Alfred oedd yn ffermio Ruel Uchaf, y ddau yn gerddorol ac yn gaffaeliad mawr i'r capel hwn.

Gydag Alfred oedd y llais. Ef oedd y codwr canu, a phan oedd yn iau byddai'n canu unawdau a deuawdau yn 'steddfodau'r fro.

Mae llawer yn ei gofio yn canu yn 'Steddfod y Tylwythau yn yr ardal hon, a dod i'w 'nabod yn go dda yn yr ymarferion at hynny.

Ond William Llewelyn oedd yr hynaf. Fe oedd yr organydd, athro sol-ffa plant y capel, arweinydd yr ysgol gân ac wrth gwrs cyfansoddwr yr emyndonau sydd gyda ni yn y dathliad hwn, a llawer o rai eraill.

Mi fyddai'n paratoi'r plant ar gyfer arholiadau'r coleg Tonic Sol-ffa, ac mae cenedlaethau o blant y capel yma wedi ennill tystysgrifau o'r coleg hynny ac yn cofio John James Hughes yn dod lawr ar y bws o Dal-y-bont i'w harholi nhw.

Ni fuasai arholwr o Lundain wedi cael mwy o barch! Dechrau gyda'r rhai iau - rhedeg drwy'r "Modulator" fel chwarae - sain y glust, a phrofion eraill heb drafferth, a thra byddai'r plant bach wrthi, mi fyddai pawb arall allan o'r ffordd neu yng nghyntedd y capel yn rebelio ac yn cael hwyl fawr yn chwarae pêl, achos 'doedd neb i gadw trefn arnyn' nhw fan 'ny, a fawr ddim ceir ar y ffordd. Ac fel 'ny drwy'r Junior, Elementary ac Intermediate. Neb yn ffaelu - llwyddo! a phawb wedi meistroli sgil a fyddai gyda nhw am oes drwy hyfforddiant drylwyr.

Yna, dechrau ar ddarllen cerdd drwy'r Hen Nodiant, h.y. y Dual Notation fel y'i gelwid. Roedd bwrdd du a sialc yn angenrheidiol i hyn. Roedd yn fodern iawn bryd hynny, ar olwynion, er hwylustod.

Heddiw ... welwch chi ddim un yn yr ysgolion. Mae hyd yn oed y byrddau gwyn a'r pensiliau marcio wedi mynd - rhyw fyrddau rhyngweithiol electronig sydd heddiw os am fod 'up-to-date'!

Bob nos Sul yn y gaeaf byddai William Llewelyn yn cynnal Ysgol Gân wedi'r oedfa i baratoi oedolion ar gyfer y gymanfa. Bryd hynny byddai salm ac anthem swmpus yn cael ei chanu, a'r gynulleidfa gyfan yn canu'r rheiny yn y gwasanaeth ar y Sul. Diwrnod pwysig iawn, i baratoi erbyn y gymanfa.

Faint ohonoch chi a ŵyr mai Elgar oedd hoff gyfansoddwr Wm. Ll. Edwards? Roedd hyn yn dipyn o ryfeddod a syndod ... gan fod Elgar yn gyfansoddwr mor Seisnig.

Wnaeth e' ddim ymhelaethu ar hyn, ond cofiwn! roedd Elgar yn organydd yng Nghaerwrangon, yn gorfeistr i'r Tair Gadeirlan (3 Choirs Festival) ac yn gyfansoddwr amlwg yn ei amser.

Byddai Wm. Llewelyn yn cael gwahoddiad i arwain cymanfaoedd yma a thraw, ac o hyn fe welwch fod ei fywyd yn un prysur iawn.
Caniadau
Dyma olynydd teilwng i J. T. Rees, ac wrth gwrs fe gafodd wersi ganddo. Cyfansoddi emyndonau oedd ei ddileit.

Daeth sawl anrhydedd i'w ran tra bu byw. Roedd yn gymrawd o Goleg y Tonic Sol-ffa, Coleg Cerdd Victoria yn Llundain a hefyd Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau.

Urddwyd ef â'r wisg wen fel Derwydd gan yr Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Rhydaman a bu'n Olygydd Cerdd Trysorfa'r Plant ac wedi hynny gylchgrawn Antur am flynyddoedd lawer. Mae gyda ni ddau gasgliad o'i emyndonau sef Clychau'r Maes, a gyhoeddwyd yn 1976 a Caniadau'r Meysydd yn 1994.

Cofiaf, pan euthum i ymweld ag ef yn ei ddyddiau olaf, iddo ddweud ei fod yn falch iawn o fod wedi cael saith o donau yn Caneuon Ffydd! Gobeithio y byddwn ni'n canu mwy ohonynt o hyn ymlaen. Fe welwch un yn y Detholiad eleni (2008-9).

Yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mro Dwyfor ym 1975 fe enillodd y gystadleuaeth ar gyfansoddi emyn-dôn ar eiriau'r Parchg R. Gwilym Hughes, gydag Arwel Hughes yn beirniadu, a dyma ddwêd ef ar ei feirniadaeth ... (Cyfansoddiadau t. 173)

"Dyma i chi dôn sy'n rhedeg yn naturiol fel dŵr yr afon, ac mae'r cyfan yn datblygu i uchafbwynt yn y diwedd heb ail adrodd un cymal." Dwy yn unig o 24 oedd yn y dosbarth cyntaf.

Galwodd y dôn yn 'Bro Dwyfor' ac fe'i gwelwch hi yn Clychau'r Maes. Ithon oedd ei ffugenw.

Un sy'n gyfarwydd iawn â chanu tonau Wm. Llewelyn yw Mariane Jones-Powell, ac rydym yn ddiolchgar iddi am ganu'r dôn fuddugol yn y gymanfa.

Enillodd drachefn ar gyfansoddi emyn-dôn yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Abertawe ym 1982, gydag Arwel Hughes eto yn beirniadu. Yn anffodus, nid oes copi gen i o'r dôn hon, ond credaf fod y feirniadaeth yn rhoi crynodeb go lew o'i allu fel cyfansoddwr.
Mae'n ei ddisgrifio fel "crefftwr gofalus" (Cyfansoddiadau, t. 169)

Bu deugain yn cystadlu y tro yma, a dim ond dau eto yn y dosbarth cyntaf! Mae ganddo dôn o'r enw 'Bro'r Ithon' hefyd i'w gweld yn Adran yr Ifanc o'r un llyfr. Clywsom Rhun a Gwern Penri, y ddau frawd o Daigwynion yn canu addasiad deulais o hon."

(Gaenor Hall)

(Ymddangosodd yr erthygl hon gyntaf yn y Tincer, Tachwedd 2008)


William Llewelyn Edwards

Ganed Williams Llewelyn Edwards yn y Ruel Uchaf, Llandre, Ceredigion, yr hynaf o dau o feibion John ac Annie Edwards. Treuliodd ei oes yn ffermio'r Ruel, cyn ymddeol i Fron Rhiwel, Bow Street, tafliad carreg o'r fferm. Yr oedd yn gerddor medrus a chofir am ei wasanaeth i ganiadaeth y cysegr. Cyhoeddodd ddau gasgliad o emyn-donau, Clychau'r Maes (1976) a Caniadau'r Meysydd (1995), a threuliodd 40 mlynedd yn olygydd tonau Trysorfa'r Plant ac Antur. Yr oedd yn aelod gyda'r Presbyteriaid yng Nghapel y Garn, Bow Street, ac roedd galw cyson am ei wasanaeth fel arweinydd cymanfaoedd canu. Bu farw 17 Awst 2000 yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth; yr oedd yn 91 oed.

Tonau yn Caneuon Ffydd: 239, 310, 451, 470, 492, 611, 644

(Cydymaith Caneuon Ffydd, Delyth Morgans, t. 502)




©Hawlfraint Ymddiriedolwyr Capel y Garn yw cynnwys gwreiddiol y safle. All original material on the site is copyright by the Trustees of Capel y Garn.
Crewyd y wefan/Website created by Technoleg Taliesin Cyf. - Admin/Gweinyddu