Eglwys Bresbyteraidd Cymru / The Presbyterian Church of Wales
Capel y Garn, Bow Street
 Gweinidog: Y Parch. Ddr R. Watcyn James
 Ysgrifennydd: Mr Alan Wynne Jones
Y Capel
 

Archif Newyddion y Garn 2017


Oedfa gymun undebol

Bore Sul ola'r flwyddyn, 31 Rhagfyr 2017, daeth eglwysi'r ofalaeth ac aelodau Capel Noddfa ynghyd ar gyfer oedfa gymun dan arweiniad y Gweinidog, y Parch Ddr R Watcyn James. Cafwyd neges rymus o obaith ganddo ar ddiwedd blwyddyn, gan edrych ymlaen yn hyderus at 2018.

Oedfa deulu undebol ar fore'r Nadolig

Daeth aelodau'r eglwysi a nifer o gyfeillion oedd wedi dod 'adre' i dreulio'r Nadolig ynghyd i oedfa deulu arbennig ar fore dydd Nadolig i ddathlu gwir ystyr y Nadolig. Roedd y gwasanaeth dan arweiniad y Gweinidog, a chafwyd neges amserol a phwrpasol ganddo.

Gwasanaeth y Gair a'r Geiriau

Cafwyd gwasanaeth arbennig o darlleniadau a cherddoriaeth ar gyfer y Nadolig nos Sul, 17 Rhagfyr. Trefnwyd y gwasanaeth gan y Gweinidog, a chafwyd cyfraniadau amrywiol - yn ddarlleniadau, gweddïau a myfyrdodau. Cyfeiliwyd i'r carolau gan fand pres yr ieuenctid, dan arweiniad Alan Phillips, a chafwyd eitemau cerddorol gan y Parti Dynion a'r Parti Cymysg. Yn dilyn y gwasanaeth, cafwyd cyfle i gymdeithasu yn y festri dros baned a mins pei.

Gwasanaeth Nadolig y Plant

Bore Sul, 17 Rhagfyr, cyflwynodd plant yr Ysgol Sul Unedig stori'r Nadolig mewn gwasanaeth arbennig yng Nghapel Noddfa. Cafwyd gair amserol a phwrpasol hefyd gan y Parch Richard Lewis. Yn dilyn eu cyfraniad hwy, mwynhaodd y plant eu parti Nadolig, oedd yn cynnwys ymweliad gan Siôn Corn. Yn y prynhawn aeth nifer o'r plant a'u rhieni i gyflwyno'u gwasanaeth i drigolion Cartref Tregerddan.

Cymdeithas Lenyddol y Garn

Cafwyd noson gartrefol a hwyliog iawn dan y teitl 'Dathlu'r Nadolig' dan ofal Alan Wynne Jones, nos Wener, 15 Rhagfyr. Roedd y festri'n llawn i'r ymylon ar gyfer darlleniadau amrywiol, cyflwyniadau gan y Parti Dynion a'r Parti Cymysg, yn ogystal â'r cwis cerddorol.

Bore coffi a stondin

Bore Sadwrn, 25 Tachwedd 2017, cafwyd bore coffi llwyddiannus iawn yn y festri. Yn dilyn gair o groeso gan Llinos Dafis, Cadeirydd Cymdeithas y Chwiorydd, torrwyd y gacen Adfent, rhodd Cartref Tregerddan, gan ein Gweinidog, y Parch Ddr Watcyn James. Trefnwyd yr achlysur gan Bwyllgor y Chwiorydd, gyda'r elw at Feiciau Gwaed Cymru a Chapel y Garn.

Cyfarfod Agoriadol Cymdeithas y Garn

Nos Wener, 20 Hydref, cafwyd noson amrywiol a difyr gyda chip ar 'Drysorau Personol' Gweneira, Gwynant, Marian a Vernon.

Diolchgarwch a Bedydd

Roedd gwasanaeth bore Sul, 15 Hydref 2017, yn oedfa arbennig o ddiolch mewn sawl ffordd. I ddechrau cyflwynodd plant yr ysgol Sul eu diolch - ar ffurf darlleniadau, gweddi a chân - am roddion y cynhaeaf. Yna cyflwynodd ein gweinidog gopi o beibl.net - 365 o storïau o'r Beibl - yn rhodd i Osian, Tŷ Capel, wrth iddo ef a'i rieni, James a Kate, symud i'w cartref newydd yn Derwen-las. Cyflwyno'u baban Celt Meredydd a wnaeth Steffan ac Elen, ac fe'i bedyddiwyd a'i groesawu i deulu'r eglwys yn y Garn gan y gweinidog.

Cyfarfod Sefydlu

Nos Wener, 13 Hydref 2017, daeth cynulleidfa luosog ynghyd i wasanaeth sefydlu'r Parch Ddr R Watcyn James yn weinidog ar Eglwysi Gofalaeth y Garn. Estynnwyd croeso arbennig i gyfeillion o Eglwys Burry Green, Bro Gŵyr, i'r gwasanaeth arbennig hwn. Croesawyd ar ran yr Ofalaeth gan yr Arglwydd Elystan-Morgan a rhoddwyd y siars i'r eglwysi gan y Parch Athro Densil Morgan, Llambed.

Sul Menter Gobaith

Bore Sul, 24 Medi 2017, ymunodd nifer o aelodau'r Garn mewn gwasanaeth arbennig yng Nghapel y Morfa, dan arweiniad y Parch Eifion Roberts. Yn ystod y gwasanaeth cafwyd cyfle i weld dwy ffilm ddiddorol a wnaed gan Zoe Glynn Jones, Swyddog Datblygu a Hyrwyddo Gwaith ac Ieuenctid, gyda rhai o blant ysolion Sul a chlybiau'r ardal. Diolchwyd i Zoe am ei gwaith gan Dewi Hughes, a chyflwynodd anrheg iddi ar ddiwedd ei chyfnod yn y gwaith. Dymunwn bob llwyddiant i Zoe yn y dyfodol wrth iddi ddechrau ar bennod newydd yn ei hanes.

Swper Cynhaeaf

Nos Wener, 15 Medi 2017, cynhaliwyd ein swper blynyddol ym Methlehem, Llandre, a braf iawn oedd cael cwmni ein gweinidog newydd, y Parch Watcyn James, a'i briod Lowri. Yn dilyn swper blasus, rhoddodd Anna Jane, o Gymorth Cristnogol, hanes ei thaith i Ynysoedd y Pilipinas, gan wneud inni sylweddoli faint yr angen ymysg trigolion y cymunedau tlotaf yno, a chymaint o wahaniaeth y gallwn ni ei wneud drwy gyfrannu tuag at Apêl Corwynt Cariad.

Apêl Corwynt Cariad

Lansiwyd ymgyrch Capel y Garn at apêl Eglwys Bresbyteraidd Cymru mewn gwasanaeth dan arweiniad Dr Rhidian Griffiths fore Sul, 30 Gorffennaf. Dangoswyd ffilm fer yn rhoi cefndir yr apêl, a fydd yn cynorthwyo rhai o drigolion Ynysoedd y Pilipinas, a gwnaed casgliad arbennig tuag at yr ymgyrch.

Croesawu aelodau Capel ac Ysgol Sul Horeb, Dyffryn Ardudwy

Bore Sul, 16 Gorffennaf, ymunodd aelodau a phlant Capel Horeb, Dyffryn Ardudwy, â ni yn ein gwasanaeth, dan arweiniad y Parch R W Jones, Wrecsam. Roedd hyn yn arbennig o addas gan iddo fod yn weinidog ar y ddau gapel am nifer o flynyddoedd, yn eu tro. Yn dilyn y gwasanaeth, cafwyd cyfle i gymdeithasu dros baned a chacennau blasus, a bararowyd gan Delyth Jones.

Taith i'r Ysgwrn, Trawsfynydd

Dydd Sul, 9 Gorffennaf, bu aelodau a chyfeillion y Garn a'r Noddfa ar daith i'r Ysgwrn, lle cafwyd cyfwyniad i hanes y bardd Hedd Wyn. Yn dilyn hynny, cafwyd cinio blasus ym Maentwrog, cyn teithio yn ôl drwy Harlech a'r Bermo. Diolch yn fawr iawn i Alan am y trefniadau effeithiol.

Gŵyl yr Ysgolion Sul

Cynhaliwyd gŵyl lwyddiannus iawn yng Nghanolfan y Morlan, Aberystwyth, ddydd Sul, 25 Mehefin, yng nghwmni Martyn Geraint a Meilyr Geraint. Braf oedd gweld plant o bob oed o wahanol ysgolion Sul yn mwynhau gyda'i gilydd - yn gwrando stori, canu ambell gân, cymryd rhan mewn cwis ac mewn addoliad. Mwynhaodd pawb ginio barbeciw cyn dod at ei gilydd yn un cylch mawr i gloi'r sesiwn. Cafwyd arddangosfa'n ymwneud ag Apêl Corwynt Cariad, a gwnaed casgliad tuag at yr apêl hefyd. Diolch i bawb fu'n trefnu.

Sul Cymorth Cristnogol

Bore Sul, 21 Mai, cynhaliwyd oedfa arbennig i gloi Wythnos Cymorth Cristnogol dan arweiniad y Parch John Roberts. Yn dilyn cafwyd Cinio Bara a Chaws yn y festri, wedi'i baratoi gan y Chwiorydd. Gwnaed casgliad o £549 tuag at Gymorth Cristnogol, a diolch i gyfeillion Capel Noddfa am eu cefnogaeth hefyd.

Cymanfa Ganu Unedig Gogledd Ceredigion

Dydd Sul, 14 Mai, cynhaliwyd y gymanfa ganu flynyddol. Cafwyd cyfarfod bywiog a byrlymus i'r plant yn y bore - gyda phlant y gwahanol ysgolion Sul yn cyflwyno'r emynau a sgwrs ddifyr a pherthnasol gan Mrs Helen Jones, Tal-y-bont. Arweinydd cymanfa'r oedolion yn yr hwyr oedd Alwyn Evans, Machynlleth, ac yr oedd cynulleidfa dda wedi dod ynghyd i ymuno yn y canu mawl.

Gwasanaeth Gollwng ein Gweinidog

Nos Sul, 26 Mawrth, cynhaliwyd y Cwrdd Gollwng yn y Garn a braf oedd gweld cymaint o aelodau'r capeli a ffrindiau o'r tu allan wedi dod ynghyd. Y Parchedig Llunos Mai Gordon, Llywydd Henaduriaeth Ceredigion a Gogledd Penfro oedd yn llywio'r cyfarfod ac yn gweinyddu Defod Gollwng y Gweinidog. Offrymwyd gweddi ar ran yr Eglwysi gan y Parchedig Nicholas Bee, a gweddi ar ran y Gweinidog gan y Parchedig Elwyn Pryse.

Yn y Cyfarchiad o'r Eglwysi rhoddodd yr Arglwydd Elystan deyrnged haeddiannol werthfawrogol o'r gŵr oedd 'â thinc Pantycelyn a Dafydd Jones o Gaeo yn ei leferydd'. Yn y cyfarchiad ar ran yr Henaduriaeth sylwodd y Parch Roger Ellis Humphreys ar gadernid ei ddaliadau a'i ddiwydrwydd yn ei waith, ymhlith pethau eraill. Dan arweiniad Alan Wynne Jones canodd côr o blith aelodau'r ofalaeth emyn gan Mrs Dilys Baker Jones ar y dôn Gaerwen, a gyfansoddwyd ar gyfer y geiriau gan yr arweinydd. Darllenodd Vernon Jones soned rymus yr oedd wedi ei chyfansoddi ar gyfer yr achlysur. Cyflwynodd Alan Wynne Jones dysteb i'r Parchedig Wyn Morris a chyflwynodd Heulwen Lewis rodd i'r Parchedig Judith Morris. Ar ôl yr holl ddiolch a'r dymuniadau da cafwyd ymateb nodweddiadol o ddiymhongar a gostyngedig gan y cyn-weinidog. Yna, gyda datganiad llawn ardddeliad a chadernid o'r emyn “I Dduw bo'r gogoniant, fe wnaeth bethau mawr” daeth y cyfarfod i ben, ac ymasglodd y gynulleidfa niferus yn y festri lle roedd chwiorydd eglwysi'r ofalaeth wedi paratoi gwledd ar eu cyfer. Bu'n noson gofiadwy.

Sul olaf y Gweinidog

Bore Sul, 19 Mawrth 19, roedd y Parch Wyn Morris yn gwasanaethu ar ei Sul olaf yng nghapel y Garn fel ein Gweinidog. Gosodwyd naws arbennig y cyfarfod yn y dechrau pan ddarllenodd Lois ac Elin yr emyn 'Dwy law yn erfyn'. Yn ei anerchiad i'r plant, cyn iddyn nhw fynd alllan i'r Ysgol Sul, pwysleisiodd y Gweinidog bwysigrwydd cofio, a chymaint o rodd yw gallu galw atgofion i gof. Yna, ar ddiwedd ei anerchiad i'r oedolion, cyn ein galw at Fwrdd y Cymun, galwodd y plant yn ôl i ymuno â ni yn y ddefod, profiad a fydd yn aros yn eu cof yn hir.

Y Gymdeithas Lenyddol

Daeth tymor y gymdeithas i ben yn Ysgoldy Bethlehem nos Wener, 17 Mawrth, gyda noson gymdeithasol, hwyliog. Ar ôl pryd o gawl cartref a tharten afal cynhaliwyd Eisteddfod Fach Ni Eto, gyda Geraint Evans, Tal-y-bont, yn tafoli'r gwahanol dasgau.

Gwasanaeth Gŵyl Ddewi

Bore Sul, 5 Mawrth, roedd yn hyfryd gweld plant yr ysgol Sul yn eu gwisgoedd traddodiadol lliwgar yn cymryd rhan yn y gwasanaeth. Trefnwyd ac arweiniwyd y gwasanaeth gan y Parch Richard Lewis, a chafwyd neges bwrpasol ganddo i gofio gŵyl ein nawddsant.

Cyfarfod Gweddi Byd-eang y Chwiorydd

Pnawn Gwener, 3 Mawrth, daeth chwiorydd Capel y Garn, Capel Noddfa ac Eglwys Llandre at ei gilydd i gynnal y cyfarfod gweddi blynyddol hwn. Thema'r gwasanaeth eleni, a baratowyd gan Chwiorydd Ynysoedd y Pilipinas, oedd: 'Ydw i'n annheg â thi?, yn seiliedig ar ddameg y gweithwyr yn y winllan. Gwnaed casgliad tuag at apêl y Pilipinas, a mwynhawyd paned a sgwrs yn y festri yn dilyn y gwasanaeth.

Dathlu Gŵyl Ddewi

Dydd Mercher, 1 Mawrth, Cynhaliwyd Te Prynhawn llwyddiannus yn y festri, a braf oedd cael cyfle i gymdeithas ar ŵyl ein nawddsant. Trefnwyd y te gan y Grŵp Help Llaw i godi arian at Gronfa Ffoaduriaid Syria, a throsglwyddwyd £700 i gronfa Aberaid, sy'n helpu ffoaduriaid yn lleol.

Cymdeithas Lenyddol y Garn

Nos Wener, 17 Chwefror, cafwyd noson ddifyr iawn yng nghwmni Manon Steffan Ros, ar y thema 'Ysbrydoliaeth'. Soniodd Manon am yr hyn a'i sbardunodd i ddechrau ysgrifennu'n greadigol a chyfeiriodd at nifer o'i gweithiau, yn ddramâu a nofelau. Cyflwynwyd Manon gan Alan Wynne Jones, Cadeirydd y Gymdeithas a thalwyd y diolchiadau gan yr Athro Gruffydd Aled Williams. Diolch hefyd i Lenyddiaeth Cymru am nawdd tuag at y noson hon.

Am archif newyddion 2016, cliciwch yma.


©Hawlfraint Ymddiriedolwyr Capel y Garn yw cynnwys gwreiddiol y safle. All original material on the site is copyright by the Trustees of Capel y Garn.
Crewyd y wefan/Website created by Technoleg Taliesin Cyf. - Admin/Gweinyddu