Eglwys Bresbyteraidd Cymru / The Presbyterian Church of Wales
Capel y Garn, Bow Street
 Gweinidog: Y Parch. Ddr R. Watcyn James
 Ysgrifennydd: Mr Alan Wynne Jones
Y Capel
 

Archif Newyddion y Garn 2019


Gwasanaeth bore'r Nadolig 2019

Cynhaliwyd oedfa fer ar fore'r Nadolig, dan arweiniad y Gweinidog, am 9 o'r gloch, a chafwyd myfyrdod pwrpasol ganddo ar y thema "ond yr oedd Mair yn cadw'r holl bethau hyn yn ddiogel yn ei chalon ac yn myfyrio arnynt". Yn ystod yr oedfa, cyflwynwyd tystysgrif i'r Arglwydd Elystan Morgan i nodi dros ddeugain mlynedd o wasanaeth fel blaenor.

Gwasanaethau'r Nadolig 2019

Cafwyd dau wasanaeth bendithiol dan arweiniad y Gweinidog ddydd Sul, 22 Rhagfyr – gwasanaeth teuluol yn y bore, gyda chwis Nadolig hwyliog, ac yna Gwasanaeth y Gair a'r Geiriau yn yr hwyr ar y thema 'Hwn yw fy Mhlentyn I'. Band pres yr ieuenctid, dan arweiniad Alan Phillips, oedd yn cyfeilio i'r emynau cynulleidfaol, cafwyd darlleniadau gan nifer o'r aelodau yn ogystal ag eitemau gan y côr a'r parti dynion. Braf oedd gweld cynulleidfa niferus yn bresennol, ac yn dilyn y gwasanaeth cafwyd cyfle i sgwrsio a chymdeithasu yn y festri.

Y Gymdeithas Lenyddol yn dathlu'r Nadolig

Roedd festri'r Garn yn llawn i'r ymylon nos Wener, 13 Rhagfyr, wrth i'r Gymdeithas Lenyddol ddathlu'r Nadolig. Alan Wynne Jones oedd yn gyfrifol am y trefniadau, a chafwyd noson o eitemau amrywiol, yn cynnwys darllen cerddi, cyflwyniad am hen gardiau Nadolig, a chip ar y Blygain Fawr yn Llanfihangel-yng-Ngwynfa. Cyflwynodd y côr a'r parti dynion nifer o garolau cyfoes a chafwyd unawdau gan Bryn Roberts ac Arwel George. Roedd cryn dipyn o grafu pen wrth geisio cael yr atebion cywir i gwis heriol Gareth William Jones, a chafwyd cyfle i sgwrsio'n hamddenol dros baned ar ddiwedd y noson. Braf oedd gweld cynifer wedi mentro allan ar noson aeafol i gymdeithasu mewn awyrgylch gartrefol, gynnes ac aeth pawb adref wedi cael mwynhad arbennig o ddod at ei gilydd mewn ysbryd cyfeillgar ar drothwy'r Nadolig.

Bore Coffi'r Chwiorydd ar drothwy'r Adfent

Roedd awyrgylch braf a chynnes yn festri Capel y Garn bore Sadwrn, 30 Tachwedd, ar gyfer y bore coffi a stondinau a drefnwyd gan Gymdeithas y Chwiorydd. Cafwyd gair o groeso gan y Gweinidog, y Parch Watcyn James, cyn iddo fynd ati i dorri'r gacen Adfent arbennig – rhodd gan Gartref Tregerddan i ddiolch i Kathleen Lewis, un o aelodau'r Garn, am ei gwaith yn trefnu gwasanaethau yn y Cartref bob pnawn Sul. Cafwyd llawer iawn o hwyl yn ceisio adnabod llefydd o gwmpas Cymru yn y cwis lluniau poblogaidd, gyda Lowri James yn enillydd haeddiannol. Roedd elw'r bore tuag at HAHAV (Hosbis yn y Cartref) a Chapel y Garn, a llwyddwyd i godi £630 tuag at yr achosion yma, yn ogystal â chael cyfle hamddenol i gymdeithasu dros baned yng nghanol bwrlwm paratoi at y Nadolig.

Cyflwyno tystysgrif

Yn ystod yr oedfa fore Sul, 17 Tachwedd, cyflwynodd y Gweinidog dystysgrif arbennig i Vernon Jones i nodi dros 40 mlynedd o wasanaeth fel blaenor yng Nghapel y Garn. Cafodd Vernon ei ordeinio yn 1971 ac felly mae wedi rhoi gwasanaeth amhrisiadwy i'r Garn a thu hwnt am gyfnod o dros 48 mlynedd.

Y Parch W J Edwards

Bu farw'r Parchedig W J Edwards yn dawel ar 30 Medi 2019. Daeth tyrfa luosog o bob cwr o Gymru i'r angladd yng Nghapel y Garn ddydd Mawrth, 8 Hydref, dan arweiniad ei weinidog. Roedd WJ yn Gristion gloyw ac yn Gymro i'r carn, a rhoddodd wasanaeth diarbed dros yr hyn y credai mor angerddol ynddo.

Swper Cynhaeaf

Roedd ysgoldy Bethlehem, Llandre, yn llawn ar gyfer Swper Cynhaeaf y Garn, nos Wener, 13 Medi 2019. Croesawyd pawb gan y Gweinidog, cafwyd cwis hwyliog dan ofal Alan Wynne Jones, ac roedd y bwyd blasus dan ofal Delyth Jones a Dwysli Peleg-Williams. Codwyd cyfanswm o £576 tuag at Uned Cemotherapi Ysbyty Bronglais.

Oedfa'r Ofalaeth

Yng Nghapel Seion y cynhaliwyd oedfa'r ofalaeth ar 8 Medi, a daeth cynulleidfa dda ynghyd i'r gwasanaeth, dan arweiniad y Gweinidog. Gwnaed casgliad tuag at Feiciau Gwaed Cymru, a chafwyd cyfle am sgwrs dros paned i ddilyn.

Cymdeithasu dros Ginio

Dydd Sul, 21 Gorffennaf, yn dilyn yr oedfa, dan arweiniad ein Gweinidog, aeth nifer o'r aelodau i ginio ym mwyty Crefftau Pennau, a braf iawn oedd cael cyfle i gymdeithasu dros bryd hamddenol o fwyd.

Oedfa haf yr Ofalaeth

Daeth cynulleidfa dda ynghyd yng Nghapel Pen-llwyn bore Sul, 23 Mehefin, i oedfa haf yr ofalaeth, dan arweiniad ein Gweinidog. Cafwyd neges amserol ganddo ar un o ddywediadau'r Iesu, sef 'Myfi yw'r Bugail Da'. Cafwyd cyfle i gymdeithasu yn y festri yn dilyn y gwasanaeth, a diolch i aelodau Pen-llwyn am baratoi ar ein cyfer. Gwnaed casgliad tuag at Feiciau Gwaed Cymru, elusen yr ofalaeth am eleni.

Mr Eric Hall

Bu Eric Hall farw'n dawel ar 1 Mai, yn dilyn cystudd maith a ddioddefodd yn wrol ac yn urddasol. Cynhaliwyd angladd Eric yng Nghapel y Garn ddydd Gwener, 17 Mai, dan arweiniad ein Gweinidog.

Oedfaon y Pasg 2019

Cafwyd dwy oedfa i eglwysi'r ofalaeth dros gyfnod y Pasg - y gyntaf yn oedfa o fyfyrdod ar fore'r Groglith yng Nghapel Seion, ac yna oedfa gymun i ddathlu buddugoliaeth yr atgyfodiad yng Nghapel y Garn fore Sul y Pasg. Roedd y ddau wasanaeth dan arweiniad ein Gweinidog, y Parch. Ddr Watcyn James, ac roedd cynulleidfa niferus wedi dod ynghyd ar gyfer y ddwy oedfa arbennig hyn.

Cymdeithas Lenyddol y Garn

Daeth tymor llwyddiannus arall i ben nos Wener, 16 Mawrth, drwy ddathlu Gŵyl Ddewi ym Methlehem, Llandre. Mwynhawyd gwledd flasus o gawl cartref a tharten afalau, a chafwyd araith ddifyr a phwrpasol gan ein gŵr gwadd, Ifan Gruffydd, Tregaron. Gwnaed casgliad tuag at Crohn's & Colitis UK, a throsglwyddwyd £200 i'r gronfa.

Cyflwyno siec i elusen

Ar ddechrau Oedfa'r Ofalaeth a gynhaliwyd bore Sul, 27 Ionawr, cyflwynodd Mrs Janet Jones, Cadeirydd yr Ofalaeth, siec am dros 860 o bunnoedd i'r Dr Alan Axford, Cadeirydd Gwirfoddolwyr Hosbis yn y Cartref, Ardal Aberystwyth. Codwyd yr arian drwy gynnal casgliad yn oedfaon yr ofalaeth yn ystod 2018. Diolch i bawb am eu haelioni.

Mrs Annie Edwards

Bu farw Mrs Annie Edwards, un o'n haelodau hynaf, ar 17 Ionawr 2019. Bu'n ffyddlon i'r oedfaon a chyfarfodydd Cymdeithas Chwiorydd y Garn. Cynhaliwyd ei hangladd ddydd Sadwrn, 2 Chwefror, dan arweiniad ein Gweinidog.

I weld newyddion blaenorol, ewch i archif 2018






©Hawlfraint Ymddiriedolwyr Capel y Garn yw cynnwys gwreiddiol y safle. All original material on the site is copyright by the Trustees of Capel y Garn.
Crewyd y wefan/Website created by Technoleg Taliesin Cyf. - Admin/Gweinyddu