
Bydd chwiorydd y Garn yn cyfarfod yn fisol am 2 neu 2.30 o'r gloch ar y dydd Mercher cyntaf yn y mis o Fedi hyd Ebrill.
Nod y cyfarfod yw helpu i gynnal y gymdeithas o fewn a thu allan i'r Eglwys gyda defosiwn a siaradwr/wraig, a mwynhau sgwrs dros baned o de. Rhydd y casgliad gyfle hefyd i gyfrannu ychydig at sawl achos da.
I gael manylion am y cyfarfodydd unigol, ewch i'r
dyddiadur.
Mae croeso i unrhyw un droi i mewn atom.
Llywydd: Y Barchedig Judith Morris
Cadeirydd: Ann Jones
Ysgrifennydd: Shân Hayward
Trysorydd: Vera Lloyd
Aelodau'r pwyllgor a chydlynwyr yr ardaloedd:
Llandre: Marjorie Hughe
Pen-y-garn: Beryl Hughes
Dolau a'r ffermydd: Dwysli Peleg Williams
Maes Ceiro: Meinir Roberts
Y Lôn Groes: Dilys Jones
Tregerddan: Kathleen Lewis
Dechreuwyd y tymor ar 3 Hydref 2007, gyda Chyfarfod Diolchgarwch. Cymerwyd rhan gan nifer o'r aelodau a thraddodwyd yr anerchiad gan y Barchedig Judith Morris.
Yng nghyfarfod mis Tachwedd, cafwyd cyfle i wrando ar Margaret Rees yn sôn am ei thaith i China. Cynhaliwyd y ffair flynyddol yn Neuadd Rhydypennau ar 24 Tachwedd. Agorwyd y ffair eleni gan Erddyn a Gwenda James, a chyflwynwyd blodau iddynt gan Owen Drakeley.
Cyfarfod yn naws y Nadolig a gafwyd ar ddechrau mis Rhagfyr, a hynny ym Methlehem, Llandre. Cymerwyd rhan gan nifer o'r aelodau – a chafwyd cyfle i wrando ar hanesion plentyndod, traddodiadau, storïau a darlleniadau yn ymwneud â'r Nadolig.
Yng nghyfarfod cyntaf 2008, y gŵr gwadd oedd Gareth William Jones, a thestun ei sgwrs oedd tair Cymraes amlwg ym myd llenyddiaeth plant, sef Moelona, Elizabeth Watkin Jones ac Emily Huws. Treuliwyd orig ddifyr yng nghwmni Teulu Bach Nantoer, Luned Bengoch a Babi Gwyrdd.
Pnawn Mercher, 5 Chwefror 2008, daeth llond y festri o aelodau a ffrindiau ynghyd i glywed hanes taith WJ a Gwenda Edwards i Batagonia. Treuliodd y ddau dris mis yn y Wladfa, yn gweinidogaethu, hel achau a mwynhau. Diddorol oedd clywed am yr holl gysylltiadau lleol a thu hwnt sydd yn dal i fodoli gyda llawer o'r ardal hon sydd â theulu pell ym Mhatagonia. Da oedd gweld fod peth amser wedi'i neilltuo i hamddena – yn gweld y morfilod, yn y tŷ te ac yn gwledda!
I ddathlu Gŵyl Ddewi ddechrau Mawrth cafwyd cwmni rhai o ddisgyblion Ysgol Rhydypennau. Darparwyd adloniant o safon uchel, yn bartïon canu, unawdau a deuawdau, ac eitemau offerynnol.
Y gŵr gwadd ar 2 Ebrill oedd y Parchedig Wyn Morris, ac fe gafwyd orig ddifyr yn ei gwmni i gloi tymor llwyddiannus eto eleni.
Daeth Vernon Jones, Gaerwen, atom i sôn am fudiad y Samariaid. Diddorol oedd sylwi nad oedd cymaint yn ffonio ag a fu yn y gorffennol gan fod cymaint o linellau cymorth eraill ar gael. Soniodd Vernon hefyd sut yr oedd y mudiad wedi symud ymlaen gyda'u ffordd mwy agored o ymateb i alwadau'r cyhoedd. Darparwyd te arbennig y Pasg gan aelodau'r pwyllgor.
Ailddechreuwyd gweithgareddau'r chwiorydd ar y dydd Mercher cyntaf ym mis Medi,
pryd y bu Marian Jenkins yn rhoi ei hargraffiadau o'i thaith i India.
Cynhaliwyd ein gwasanaeth o ddiolchgarwch bnawn Mercher, 4 Hydref, am 2 o'r gloch
o dan ofal Eirwen Llwyd Jones, Capel y Morfa, gyda te yn dilyn y gwasanaeth.
Yng nghyfarfod mis Tachwedd, bu Gwenda Edwards yn sôn am ei thaith i Lithuania.
Am luniau a chrynodeb o'i hanes, ewch i dudalen y Grŵp
Help Llaw
Trefnwyd Cinio Bara a Chaws er budd Cymorth Cristnogol yn dilyn y gwasanaeth unedig a gynhaliwyd fore Sul, 21 Mai 2006.
Ymunodd cyfeillion o eglwysi Noddfa a Madog yn y Garn,
a gwerthfawrogwyd y cyfle i gymdeithasu
ac ar yr un pryd i gofio am rai llai ffodus na ni.
Cynhaliwyd y noson goffi flynyddol ym Methlehem, Llandre, nos Wener, 5 Mai 2006. Paratowyd y coffi gan aelodau'r pwyllgor ac roedd y stondinau dan ofal y blaenoriaid.
Cafwyd noson hwyliog a llwyddiannus. Gweler y lluniau yn yr
oriel.

Ar y dydd Mercher cyntaf ym mis Chwefror, daeth Nigel Callaghan o gwmni Technoleg Taliesin atom i ddangos 'mwy o'r Garn ar y We'.
Eglurodd inni'r gwahanol bosibiliadau o ddefnyddio'r rhyngrwyd a gwnaeth i gymhlethdod y wefan edrych yn hawdd.
Cafodd y rhai ohonom nad oedd yn gyfarwydd â'r wefan weld adroddiadau o'r Garn a lluniau rhai o'r cyfarfodydd i gyd-fynd â'r gwahanol weithgareddau.
Diolchwyd am bnawn difyr gan Alan Wynne Jones.
Tro chwiorydd ardal Pen-y-garn oedd hi i baratoi'r te, a Marian Jenkins oedd yn gyfrifol
am y defosiwn.
Cymerodd rhai o'r Chwiorydd ran yng ngwasanaeth Dydd Gweddi Byd-eang y Chwiorydd a gynhaliwyd eleni yng Nghapel Noddfa, nos Wener 3 Mawrth. Y thema oedd 'Arwyddion yr Amserau' a pharatowyd y gwasanaeth gan wragedd Cristnogol De Affrica. Cynrychiolwyd y Garn gan Mary Thomas, Rhian Jones, Vera Lloyd, Elen Evans, Alwen Morgan a Gaenor Hall.
Yng nghyntedd y capel gosodwyd crochan trithroed yn cynnwys cardiau ag adnod o'r ysgrythur arnynt i bawb eu cymryd wrth ddod i mewn. Mae'r crochan yn symbol o gydfwyta, o rannu a chymdeithasu, ac o fywyd yn ei gyflawnder. Mae tair troed y crochan yn symbol ein bod wedi ein hangori yn y Drindod, ac yn dibynnu'n llwyr arno.
Ym mis Mawrth cawsom gwmni Hywel Roberts. Bu ef yn cymharu digwyddiadau ym mhapurau newydd gogledd a de sir Aberteifi yn y flwyddyn 2006 â'r digwyddiadau yn y papurau hynny heddiw. Yn rhyfedd iawn, canfuwyd nad oedd llawer o wahaniaeth rhyngddynt, ac nad oedd troseddau wedi cynyddu fawr ers 1906 ond eu bod ar ffurf wahanol.
Roedd y te hyfryd y tro hwn wedi ei ddarparu gan aelodau'r pwyllgor.
Cynhaliwyd cyfarfod ola'r tymor yn y festri bnawn Mercher, 5 Ebrill, gyda'r Fonesig Alwen Morgan yn llywyddu a Mrs Gaenor Hall yn arwain y defosiwn.
Roedd panel o bedwar wedi eu gwahodd i roi eu barn ar bynciau llosg y dydd, sef Eric Hall, Gareth William Jones, Enid Jones a Rhiannon Roberts.
Holwyd cwestiynau am y Gwasanaeth Iechyd, Pobol y Cwm, tîm rygbi Cymru, a dyfodol cynulleidfaoedd ein capeli, ac fe gafwyd atebion cynhwysfawr a gwybodus – er nad yn unfryd – gan y panel.
Roedd y te danteithiol wedi ei baratoi gan chwiorydd ardal y Dole.
Cynhaliwyd Ffair y Capel dan ofal y chwiorydd, bore Sadwrn, 26 Tachwedd 2005,
rhwng 10 a 12 o'r gloch.
Fe'i hagorwyd gan Eddie a Bethan Jones. Bu'r Ffair yn un llwyddiannus a gwnaed elw o £1404.75.
I weld lluniau o'r achlysur, ewch i'r
oriel.
Codwyd swm o £304 yn dilyn cinio Bara a Chaws ar ôl oedfa bore Sul Mai 15fed 2005 er budd
Cymorth Cristnogol (gweler y lluniau yn yr
oriel). Yn ychwanegol at hynny, derbyniwyd £59, sef swm casgliad y gwasanaeth undebol, felly, trosglwyddwyd £363 i Gwyn Jones, trefnydd lleol Cymorth Cristnogol.
Cafwyd noson goffi lwyddiannus yn y festri nos Wener, Ebrill 22ain 2005, a gwnaed elw o £425. Trosglwyddwyd £350 ohono i gronfa'r Eglwys. Gweler y lluniau yn yr
oriel.